Pan nad ydw i'n sgwennu cerddi, dwi'n cadw allan o drwbwl drwy olygu cerddi'r Oesoedd Canol Diweddar a'r Cyfnod Modern Cynnar. Treuliais flynyddoedd lawer yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru'n golygu barddoniaeth rhai o feirdd mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif, a neb yn fwy na Guto'r Glyn (c.1415–90). Yn fwyaf diweddar, dwi wedi ymddiddori'n fawr ym marddoniaeth un arall o feirdd Dyffryn Ceiriog, sef Huw Morys (1622–1709).
When I'm not writing poems, I keep out of trouble by editing Late Medieval and Early Modern Welsh poetry. I spent many years at the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies editing the poetry of some of the greatest poets of the fourteenth and fifteenth centuries, and none more so than Guto'r Glyn (c.1415–90). More recently, I've taken a keen interest in the poetry of another poet from the Ceiriog Valley, namely Huw Morys (1622–1709).