New Barn, Felindre
Ar ddaear Pant-y-bara Nid oes na defaid na da. Ar lawr llyfn y parlwr llaeth, Seren wiw pensaernïaeth A saif lle bu'r cryts ifanc Yn storio bêls draw o'r banc. Cegin a chlic i'w hagor, Y dirgel dŷ drwy gil dôr. Ymolchfa fach gwta, gudd Tu mewn fel nant y mynydd. Ac yna'r cychod gwenyn, Bared wrth bared bob un, Ryw chwe llath wrth ddwylath ddel, Foch ym moch, dan fîm uchel, Lle cwsg dan astell bellach Deulu iau fel byrnau bach. |
New Barn yw'r enw ar adeilad ar safle hen ffermdy Pant-y-bara ar gyrion Felidre, nid nepell o Landysul. Parlwr llaeth oedd yn sefyll yno'n wreiddiol, ond cartref i deulu ifanc ydyw erbyn hyn, ac un sy'n gwneud y defnydd pensaernïol gorau o'r ychydig le sy yno.
Lluniais y gerdd gomisiwn hon, sef cywydd byr sy'n adleisio natur gryno a chymesur yr adeilad, fel Bardd Pensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Roedd gofyn imi ymweld â'r adeilad newydd (a ddyluniwyd gan Rural Office for Architecture) ar gyrion Felindre, nid nepell o Landysul, ac â phum adeilad newydd arall o bwys a oedd ar restr fer y Fedal Aur am Bensaernïaeth, ac ymateb yn greadigol i bob un yn ei dro. Clicia ar y dolenni isod i ddarllen y cerddi eraill.
● Stormy Castle, Bro Gŵyr (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Old Farm Mews, Dinas Powys ● Ffwrnes, Llanelli ● Melin Talgarth (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Capel Galilea, Llanilltud Fawr A poem for New Barn near Felindre in Carmarthenshire, written as part of a commission for the National Eisteddfod in Carmarthenshire 2014. There are English versions of two other poems that formed part of the same commission, namely Talgarth Mill and Stormy Castle.
|