Gruffydd Aled Williams
ar ei ymddeoliad Pe bai’r Guto’n barddoni Yng Nglyn-y-groes ein hoes ni, Dôi dros sawl dŵr oer a sarn – Yna bodio o Lanbadarn – Draw ar wib i dir Aber, Loncian o’r Glyn cyn i’r glêr Gael ei arogl – oherwydd, Er dod i gydnabod Nudd Ym mhob tŷ, a rhannu rhodd O arfer, dod o’i wirfodd A wnâi heddiw, a chiwio I roi clod i’w Ercwl o! Gwelai, wir, fod un o’r Glyn Ym mhalas y tŵr melyn O’i flaen sydd, fel ei hunan, Eisiau gwledd ac Osai glân! Llawenhâi a llenwai’r llys Â’i drosiadau arswydus … Âi’r Hen Gol yn Rhôn a’i gwŷr, A’r hen fôr yn fyfyrwyr, Staff Aled fyddai’r cedyrn Wrth ei foli’n codi cyrn Eu medd hwy i’r ymddeol, Dymuno’i weld yma’n ôl. Ond dorf, cyn dod i derfyn Ei gân yn iawn, gwn i hyn, Yr âi bardd ymylau’r byd A’r Glyn i ofyn hefyd: Bellach ba ddôr agored? Ba eilun? Ba Broff i’w ddilyn? Ba Ruffydd Aled? |
Pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth pan oeddwn i'n fyfyriwr yno oedd yr Athro Gruffydd Aled Williams. Fel llawer un o fy mlaen, dysgais lawer iawn ganddo yn y ddarlithfa a chael fy ysbrydoli gan ei frwydro taer dros yr iaith Gymraeg.
Ar ôl graddio, ro'n i wedi rhoi fy mryd ar weithio am radd MPhil yn yr adran, ond roedd dewis yr union bwnc yn waith anodd – tan i Gruffydd Aled awgrymu Guto'r Glyn. Doedd Guto'n ddim ond enw imi ar y pryd – un o feirdd yr Oesoedd Canol pell – ond dyma ddeall yn o handi fod Guto nid yn unig gyda'r gorau o feirdd y bymthegfed ganrif, ond yn fardd y gallwn i uniaethu ag o hefyd. Roedd Guto wrth ei fodd yn teithio'r wlad – a thu hwnt i ddinas Rhôn yng ngogledd Ffrainc – yn consurio trosiadau dyfeisgar wrth foli ei noddwyr. Dyma fardd yr oedd ei bersonoliaeth lawen i'w gweld – neu ei chlywed – yn eglur yn ei gerddi afieithus. Fe ges i fodd i fyw yng nghwmni'r Guto ac, yn bwysicach efallai, yng nghwmni Gruffydd Aled, am flwyddyn hapus iawn. Ar ymddeoliad yr Athro rai blynyddoedd wedyn, cefais gyfle i fynegi fy niolchgarwch iddo ar gân, a hynny mewn digwyddiad arbennig yn yr Hel Goleg. Bu ei arweiniad yn allweddol yn fy ngyrfa fel ymchwilydd ifanc – go brin y buaswn wedi mynd ymlaen i olygu mwy o gerddi Guto yn y Ganolfan Uwchefrydiau, nac ychwaith yn darlithio heddiw yn yr hen adran, heb ei gymorth hael. (Ond bu anghytuno hefyd! Mae'n ddirgelwch o hyd ym mhle mae'r Glyn yn enw Guto'r Glyn: dadl Gruffydd Aled yw mai yng Nglyndyfrdwy y mae o, a minnau yn fy rhyfyg yn pledio o blaid Glyn Ceiriog … a'r un ohonon ni'n ddiduedd, ac yntau wedi ei fagu yng Nglyndyfrdwy, a fy mam innau wedi ei magu yn Nhregeiriog dros y mynydd! Mae'r ddadl yn parhau.) Am hanes un o lwyddiannau diweddar yr Athro Gruffydd Aled, clicia fan hyn. A poem presented to Professor Gruffydd Aled Williams, former head of the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth University, on his retirement. Gruffydd Aled inspired generations of students both as a great scholar and a staunch advocate for the Welsh language – I for my part am indebted to him for both introducing me as a postgraduate to the work of Guto'r Glyn and guiding me on my first steps as a researcher. For his recent successes, click here.
|