I Teilo ac Einir
ar ran Rhys Trimble Yr ail ar hugain, Einir, Eleni sy'n nodi'n wir Bennaf ddyddiad uniad dau, Haf hudol, diofidiau. Mae'n Awst heb ei ail, Teilo, Awst a barha wastad, bro, Yn Awst iach â'i lond o stŵr, Awst annwyl i bastynwr! Hwn yw dydd geni dyddiau, Hwn yw'r dydd yr unir dau, Diwrnod cyntaf yn haf hir Teilo'n uno ag Einir. |
Yn Awst 2015, gofynnodd y bardd, y datgeiniad a'r pastynwr, Rhys Trimble, imi gyfansoddi cywydd i ddathlu priodas ei frawd, Teilo, ac Einir. Fe berfformiodd Rhys y gerdd yn y briodas ar yr ail ar hugain o'r mis.
A cywydd written on behalf of the poet and performer, Rhys Trimble, for the wedding of his brother, Teilo, and Einir.
|