I Gyfarch Hywel
Mae'r hewl drwy Gymru o hyd Yn giw i'w oddiweddyd, Ac i Geiriog y gyrraf, Fesul gêr o Aber af Mewn cadwyn drwy Faldwyn faith, Drwy erwinder yr undaith Drosodd a thro, drwy resi O feysydd na dderfydd i Ben taith yn un rhuban tyn, Araf, hir draw i Ferwyn. O hyn mas, pan â meysydd Maldwyn heibio eto, bydd Un maes yn hafan i mi, A nod un diwrnod arni, Un erw las wrth basio Yn theatr hir wrth y tro, Enw Meifod yn nodi Ias y dydd pan godaist ti. Sicrhau mae caeau'r co' Nad â'r ŵyl wedi'r elo. I mi fe bery Meifod Pan na bydd un tipi'n bod, Pan na bydd, un dydd, un dôn I'w chlywed uwch alawon Hyn o dir, dim ond deri Yn sibrwd dy enw di. Ym Mechain mae, 'achan, mwy, Ddyfarniad rhwydd Efyrnwy, A phan glywaf yr afon Awen Heff a enwa hon. Wrth dreiglo heibio aber Efyrnwy a Banwy bêr, Daw i'r co' ymdeithio'r dydd, Daw i'r co' loywder cywydd Ac englyn, a daw lluniau Eto o gydweithio dau Yn cymell llinell y llall Ar fws hir i faes arall. Un ciw i oddiweddyd Yw'r hewl drwy Gymru o hyd, Ac arni hi est, Hywel, Heibio'r tro, ac yno gwêl Dir Meifod a'i rym hefyd, Daear y gamp daer i gyd. |
Ar brynhawn Gwener Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015, cododd Hywel Griffiths ar ei draed i'w gadeirio ar lwfyan yr ŵyl. A ninnau'n ffrindiau ers dyddiau ysgol ac wedi cyd-ddysgu'r grefft o gynganeddu ar y bws ysgol, roedd bod yn bresennol yn y pafiliwn y prynhawn poeth hwnnw'n brofiad cofiadwy iawn.
Byddaf yn aml yn gyrru heibio i'r caeau lle bu maes Eisteddfod Meifod ar fy ffordd i ymweld â pherthnasau yn Nyffryn Ceiriog. O hyn ymlaen, bydd gen i atgofion melys iawn wrth rowndio'r tro a syllu draw dros y gwrychoedd at y caeau glas a'r coed derw hardd yn y pellter. Gellir darllen awdl fuddugol Hywel yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Darllenais y gerdd yn y Stomp yn y Lolfa Lên ar y maes rai oriau wedi'r Cadeirio. A cywydd to Hywel Griffiths, winner of the Chair competition at the National Eisteddfod in Montgomeryshire and the Marches, 2015, and a lifelong friend.
|