eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Y Pethau Bychain | Mawrth 2017

Y Pethau Bychain

Mae’n dywydd gwamal, Dewi,
Mae’r byd yn araf boethi,
I ble’r af innau rhag y glaw
Pan ddaw hi’n amser boddi?

Ni wn a fydd yfory
Ai glaw ai hindda’n twnnu,
Ond does dim drwg mewn llenwi myrdd
O fagiau gwyrdd ailgylchu.

Mae’r iaith yn marw, Dewi,
Be’ wna’ i rhag ei threngi?
Er pob rhyw ddeddf neu ddadl, wir,
Fe gollodd dir eleni.

Mesurau iaith y gwleidydd
Heb sgwrs a chlonc a dderfydd,
Rhaid ei harfer i’w hadfer hi,
Siarada di hi beunydd.

Ond Dewi, mae mor dywyll
Ym myd y gwalch a’r cudyll,
Pa iws rhoi coel ar obaith ’to
Tra bo rhyfeloedd erchyll?

Er dued y gorwelion
Mae haul ar eu hymylon,
Does dim i’w ennill o din-droi
A chnoi ar wae’n ddigalon.

Tra’r tyle, tra’r golomen,
Tra’r genedl a’r genhinen,
Cedwch yn daer o ddydd i ddydd
Eich ffydd, a byddwch lawen.

Lluniais y gerdd hon ar gyfer rhifyn arbennig o 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol' ar S4C a ddarlledwyd ar 26 Chwefror er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi. Math o ymddiddan yw'r gerdd rhyngof i a neb llai na Dewi ei hun. Ac ystyried rhai o'r anawsterau sy'n ein hwynebu heddiw yng Nghymru a thu hwnt, mae geiriau olaf Dewi Sant yn dal yr un mor berthnasol ag erioed.

A dweud y gwir, mae'n destun balchder inni yng Nghymru fod geiriau mor safadwy wedi eu cysylltu â'n nawddsant cenedlaethol. A siarad fel un a fu'n gweithio ar brosiect Cwlt y Seintiau yng Nghymru, digon prin yw geiriau doeth ac oesol o'r fath yn yr ychydig fucheddau Cymraeg a Lladin sydd wedi goroesi. Mae cyfarwyddyd Dewi i 'wneud y pethau bychain' yn bur enwog, wrth gwrs, ond da o beth fyddai cadw cof am y frawddeg gyfan honno a lefarodd y sant, yn ôl traddodiad, yn ei bregeth olaf:

'Arglwyddi, frodyr a chwiorydd: byddwch lawen, a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.'

A poem composed for 'Dechrau Canu Dechrau Canmol' on S4C (broadcast 26 February) to celebrate St David's Day. David's (or Dewi's) last words are very well known, especially his guidance to 'do the little things in life', but the whole passage is in fact exceptional:

'Lords, brothers and sisters: be joyful, and keep your faith and your creed, and do the little things that you have seen me do and heard about.'
eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio