eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Parliament Square | Ionawr 2020

Parliament Square

Nats gwyn yn Parliament Square
Ar y gwin fore Gwener
Ddiwedd Ionawr, ac awren
O antur rydd cyn dal trên
Gen i i’w lladd, ac yn lle
Dwyn yr eiliad yn rhywle
Cynhesach, mwy cynhwysol,
Yn sŵn y ffydd, es i’n ffôl
Am dro heibio wynebe’r
Nats gwyn yn Parliament Square.

Haws gweld yn Parliament Square
Annibyniaeth can baner
Yr hen undeb, cofebion
A thwf ymerodraeth hon,
Na synhwyro’r sŵn arall,
Sŵn dim yn y myllni mall,
Sŵn diflas amherthnasedd,
Sŵn y byw’n dawnsio’n eu bedd,
Sŵn difa syniad ofer …
Ond haws gweld Parliament Square.

Es gam o Parliament Square,
A wynebau dygn Aber
Yn cymell o bell, a’r byd
Fel llafar cyfaill hefyd,
A’r parti’n y brifddinas
A holl hwyl ei gŵyl fach gas,
Ei hacer rad a’i fflags croes,
Y noson honno eisoes
Ar ben, un bore Gwener
Yn oes gynt Parliament Square.

Deffrais fore Gwener 31 Ionawr 2020 mewn gwesty ar gyrion maes awyr Heathrow, wedi cael noson hir o gwsg ar ôl taith hirach yn ôl adref o Kolkata. Bûm yno'n lansio cyfrol newydd o farddoniaeth i blant ar y cyd â Sampurna Chattarji, llyfr sy'n dyst i'r hyn sy'n bosib pan ddaw dau fardd ac, yn wir, ddau ddiwylliant ynghyd dros bellteroedd maith. Y dydd Gwener hwnnw, fodd bynnag, oedd diwrnod olaf y Deyrnas Unedig fel aelod cyflawn o'r Undeb Ewropeaidd, a'r noson honno fe dorrodd y wlad edau ei pherthynas â'i chymdogion agosaf. Roedd hi'n tynnu at chwech y bore pan godais, a minnau'n dal i ddilyn amser India, ac ni fyddai'r trên yn ôl i Aber yn gadael Euston tan ganol y prynhawn. I ble'r awn i ladd amser ar ddiwrnod fel hwnnw? Er gwell, er gwaeth, i Parliament Square â fi, a chael yno griw bychan llafar o Frecsitwyr ond, yn fwy na dim, ryw dawelwch aflonydd, dienaid. Ac nid rhyw gamargraff drwy lygaid collwr oedd hynny – na, roedd gwir orfoledd, y math o gynnwrf agored a ddisgwylid pe bai'r digwyddiad yn un gwir lawen, yn eisiau. Yn hytrach, doedd dim yn yr awyr ond yr hyn na allaf i ei ddisgrifio ond fel chwithdod, a'r awgrym lleiaf o gywilydd. Er mor llafurus y daith, ro'n i'n ddigon hapus i ddal y trên yn ôl i Aber, ac ymunais y prynhawn wedyn, ar brom heulog yn nannedd môr tymhestlog, â gwrthdystiad yn erbyn y penderfyniad i adael. Ac er pob siom, roedd hwnnw'n ddigwyddiad gwir gynhyrfus.

Gelli wrando arnaf i'n darllen y gerdd ar rifyn mis Chwefror 2020 o bodlediad Clera drwy glicio fan hyn (41.05 i mewn).
Picture

A poem written after a chance visit to Parliament Square on the last day of January 2020, where instead of finding some great joy at being at last free from the shackles of the EU, I found nothing but its absence.
eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio