Dychan i'r Sied yng Nghwm Du
I'r mynydd un dydd ar daith – dyma weld Ymhell ryw fwnglerwaith, Dirmyg ar y grug ar waith, Anfri ar dir y fronfraith. Troi i’r ochor i barcio’r bws – syllu’n syn Ar y sîn ... roedd storws Go hurt i’w weld, neu gartws, Dim digon, bron, i dri brws. Syllu a rhythu a wnaeth rhai – nid ar Ei do na’i bwt simnai Amheus, ond oherwydd mai Ym môn afon y safai. Hen sied ddiniwed o newydd - sied wlân, Sied lo yr Elenydd, Sied wir a deflir, un dydd, I figyn dan lifogydd. Cwt moch fel un Heilyn Goch gynt – gerllaw Creigiau'r lli mewn helynt, Namyn cwrwgl mewn cerrynt, Deilen ddi-gangen mewn gwynt. Wedi’r dilorni o’r lôn – dyma weld I mewn yn y galon Nad yw ein byd yn y bôn Namyn hofel mewn afon. Pwy ŵyr, pwy ŵyr (os pery) – a welem Ei olion yfory, Os daw’n siŵr ddŵr o’r Graig Ddu Yn felys iawn i’w falu? |
Ar 14 Rhagfyr 2015, fe es i ar daith gyffrous i un o ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru gyda dau ddarlithydd o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, Stephen Tooth a Hywel Griffiths, a thri anturiaethwr arall - Dewi Roberts, Gavin Goodwin (yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) a Tyler Keevil (Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerloyw). Troesom drwyn y bws mini tuag ucheldir oerllyd y canolbarth a elwir gan lawer yn Cambrian Mountains, ond sydd ag enw mwy persain yn Gymraeg - mynyddoedd yr Elenydd.
Diben y daith oedd datblygu syniadau er mwyn creu gwaith creadigol ar gyfer symposiwm a drefnid gan Stephen Tooth a Julian Ruddock (Ysgol Gelf) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 15 Ionawr 2016 - 'Strata: Art and Science Collaborations in the Anthropocene'. Roedd pynciau trafod y symposiwm - a oedd yn seiliedig ar gydweithio rhwng y celfyddydau a'r gwyddorau - yn cynnwys sut y mae pobl yn mynd ati i ddehongli'r tirlun ac, yn sgil hynny, yn adlewyrchu ystyr waelodol yr Anthroposen - sef cyfnod yn hanes y ddaear sy'n bennaf nodedig am yr effaith y mae pobl yn ei chael ar amgylchedd, hinsawdd ac ecoleg y blaned. (Ceir mwy o wybodaeth ar flog Stephen Tooth.) Cyn cyrraedd yr ucheldir corslyd lle tardda afon Elan, ac yna'r dyffrynnoedd hardd lle llifa'r afon drwy gyfres o gronfeydd dŵr anhygoel, dyma'r bws mini'n dringo ffordd gul sy'n dilyn trywydd afon Ystwyth i lawr o'r mynydd. Yn y dyffryn diarffordd hwnnw, dyma weld ar ochr arall yr afon ryw sied fach yn sefyll yn beryglus o agos at ffrwd a elwir yn Nant Cwm Du. Cymaint oedd rhyfeddod yr adeilad, bu'n rhaid stopio'r bws a mynd allan i dynnu llun!
Bu'r sgwrs ar y ffordd o Aberystwyth y bore hwnnw yn trafod y gred gyffredin fod pobl yn gadael eu hôl yn barhaol ar y ddaear. Ond lleisiwyd y ddadl hefyd y gallai grym natur, dros gyfnodau maith iawn - er gwaethaf gallu dyn i gam-drin natur - ddileu yn hawdd olion pobl bron yn llwyr oddi ar y ddaear. A dyma weld o'n blaenau un sied newydd sbon danlli y gallai grym natur, os dôi storm ddigon gwyllt, ei dileu o'r tir dros nos! Fel mae'r llun uchod yn ei ddangos, mae maint y sianel lle llifa'r nant fach yn dyst i'w grym dinistriol pan fo'i llif yn fawr o'r Graig Ddu yn y pellter. Yr hyn sydd bron fel pe bai'n rhoi rhyw wedd drasig i'r olygfa yw'r ffaith fod y sied hon (fel y cawsom wybod wedyn) wedi ei chodi fel rhan o gynllun ynni dŵr. Mae calon dyn yn aml yn y lle iawn - ond mae ei gynllun hydro-electrig yn y lle anghywir. Yr hyn a ddaeth i fy meddwl i wrth syllu ar draws y dyffryn ar y cwt oedd neuadd ddiarhebol o ddiflas y ceir sôn amdani yn chwedl 'Breuddwyd Rhonabwy'. Neuadd Heilyn Goch oedd honno, lle nad oedd dim ar lawr ond biswail gwartheg, a dim i'w fwyta a'i yfed ond bara a chaws a glasddwr llefrith. Fel arwr y chwedl honno, teimlwn fy mod i wedi taro'n annisgwyl ar fangre ffôl arall a roesai imi, er gwaethaf popeth, ryw fath o weledigaeth. Darllenwyd y gerdd ysgafn hon, ynghyd â cherdd arall yn Saesneg, yn y symposiwm ym mis Ionawr, ochr yn ochr â cherddi newydd gan Hywel a Gavin, a stori fer gan Tyler. This poem was written for a symposium on the Anthropocene held at Aberystwyth University in January 2016 (click here for a companion piece in English). It is a humerous satire on a hut encountered in the upper reaches of the Ystwyth river on a day trip to the mountains of mid Wales in December 2015. It seems that the building was constructed as part of a hydro-electric scheme, but its location on muddy ground alongside a stream named Nant Cwm Du was met with some bemusement. The poem examines both man's good intentions and his folly in the wider context of the ultimately transient nature of his activities on earth.
|