Ger y Lli
Lle daw holl lid yr ewyn O'r môr i chwarae mig, Mae gwylan deg gerllaw heb dôn Na physgod yn ei phig. A disgwyl mae'r hen wylan Am ein holl anthemau ni, Negesydd parod wrth y trai, Ein llatai ger y lli. Dos wylan annwyl heno, Gwna i'r sêr dros Aber wibio, Gwna i bâr o adar heidio I'r lle hwn, Dos i'r oed yn nhre'r cariadon, Dos i ddweud ein haddewidion, Dos i goleg dwys y galon Ger y lli. Fe rown yn llafar heno Anthem deg i'th ofal di, Rhag berw'r don, rhag ewyn mân, Hon yw cân ein hafan ni. Ymwelwyr wrth eu miloedd A gwŷr mewn dillad gwaith, Gwna'n siŵr y cyrraedd awen hon Bob calon ym mhob iaith. Dere wylan annwyl heno, Gwna i'r sêr dros Aber wibio, Gwna i bâr o adar heidio I'r lle hwn, Dere i'r oed yn nhre'r cariadon, Dere i ddweud ein haddewidion, Dere i goleg, gwesty'r galon, Ger y lli. Dros farn y dafarn dafod A siarad mân y stryd, I fyw y cymanfaoedd A'r cychod gwyn i gyd, Drwy'r gân gall llongau'r byd yn grwn Angori yn nŵr yr harbwr hwn. Dos wylan annwyl heno, Gwna i'r sêr dros Aber wibio, Gwna i bâr o adar heidio I'r lle hwn, Awn i'r oed yn nhre'r cariadon, Awn i ddweud ein haddewidion, Awn i goleg yn y galon Ger y lli. |
Ar 19 Mehefin 2015, cynhaliwyd cyngerdd hwyliog iawn yng Nghapel Bethel ar Stryd y Popty yn Aberystwyth i ddathlu dros ddeng mlynedd ers sefydlu Côr Ger y Lli. Fues i'n aelod o'r côr am nifer o flynyddoedd oddi ar y dyddiau cynnar hynny yn 2004, pan ddaeth criw o ffrindiau ynghyd i'r ymarfer cyntaf dan arweiniad bythol fywiog Greg Vearey-Roberts.
Mae'r côr hyd heddiw'n lle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd ac i ddod o hyd i ŵr neu wraig, hyd yn oed! Bu'n llwyddiannus mewn cystadlaethau mân a mawr, o Eisteddfod yr Urdd i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, ac mae fy uchafbwyntiau personol i yn cynnwys cydganu â neb llai na Huw Chiswell yn Letterkenny a chyda Max Boyce yng Nghanolfan y Mileniwm! Ro'n i wrth fy modd, felly, pan ofynnwyd imi gyfansoddi geiriau i gân y byddai'r côr yn ei chanu yn y cyngerdd, gyda Robat Arwyn ei hun yn cyfansoddi'r gerddoriaeth. Gofynnwyd hefyd i Lizzie Spikes, artist poblogaidd yn ardal Aberystwyth, i baentio darlun newydd sbon a oedd yn ymgorffori geiriau'r gytgan, a chyflwynwyd y darlun i Greg fel rhodd ar noson y cyngerdd. Mae'r darlun arbennig - sydd i'w weld uchod - ar gael i'w brynu a ffurf print ar wefan Lizzy.
Mae Greg bellach wedi ychwanegu pluen arall i'w het, sef Academi Gerdd y Lli ar gyfer plant rhwng 7 a 12 oed. Ac mae Côr Ger y Lli yn mynd o nerth i nerth. A poem composed to celebrate ten years of Côr Ger y Lli, a choir for young people based in Aberystwyth whose conductor is Greg Vearey-Roberts. I was a member of the choir for a number of years, during which we found success at the Urdd Eisteddfod, the Llangollen International Musical Eisteddfod and the Pan Celtic Festival. The poem was set to music by Robat Arwyn and the words of the chorus incorporated into a beautiful painting by Lizzie Spikes (prints are available on her website).
|