eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

YES | Medi 2014

YES

Drws gwyn yn St Andrew Square
Heb glo, a bagiau lawer
Lan y staer, fel hen storws
I wlad rydd, a thrwy gil drws
O'r hen niwl oer yn y lôn
Yr es, drwy eiriau breision
WE CAN ar saith can baner,
Drws gwyn yn St Andrew Square.

Dros geir yn St Andrew Square
Yn gwibio heibio’n syber
Wrth wneud eu dewis distaw,
Roedd mewn ffenest YES di-daw,
Un YES glas yn hanes gwlad,
Un YES gwyn fel llysgennad
Yn dweud drwy’r byd ei hyder
Dros geir yn St Andrew Square.

Es gam o St Andrew Square,
A flyers penstiff lawer
Mewn llaw, fy mhennill ‘ie’
I'w rannu drwy yr hen dre,
A gwybod, nes dod o'r stôr
Yn wag, mai drws sy’n agor
Ar hen obaith draw’n Aber
Yw drws gwyn St Andrew Square.

Ar yr ail ar bymtheg o Fedi 2014, roeddwn i ar drên yn teithio o Aberystwyth i Gaeredin. Ac edrych yn ôl, hawdd credu bod y niwl oer a'm croesawodd yn yr orsaf drenau yn rhagargoel o'r ffaith nad oedd y ddinas honno cweit yn barod eto i fod yn brifddinas ar wlad annibynol. Ond dyma dwymo'r galon mewn tafarn ar Stryd Leith gyda chriw o ffrindiau - a rhai ohonynt, fel Iwan Rhys, wedi bod yn teithio'r Alban ers wythnosau yn cynorthwyo'r ymgyrch Ie.
Drannoeth, ar ddiwrnod y refferendwm, dyma ymuno â'r ymgyrch mewn swyddfa brysur yng nghornel ogleddol St Andrew Square. I fyny'r grisiau roedd map mawr o'r ddinas ar y wal a phob ardal wedi ei chwarteru ag inc coch, fel rhyw gynllun mawr i faes y gad. Ces i a Geraint Brython y dasg o ddosbarthu taflenni nid nepell o orsaf bleidleisio yng Nghanolfan Gymunedol South Side ar Stryd Nicolson.

Er gwaethaf siom y canlyniad y noson honno, does dim amheuaeth nad oedd rhyw ysbryd newydd o obaith i'w deimlo yng Nghaeredin, hyd yn oed, fel yng ngweddill yr Alban, drannoeth y cyfrif. Ni waeth beth oedd y penawdau yn y wasg, roedd 45% o boblogaeth yr Alban o blaid sefydlu gwlad rydd - 71% o bobl ifanc rhwng 16 ac 17 oed - a'r genedl wedi newid am byth.

This cywydd was written following a visit to Edinburgh for the Scottish Independence Referendum in September 2014. Like so many other likeminded Welsh people who travelled to Scotland in support of the Yes campaign - as well as many, many Scottish people - I returned home after the success of the No campaign with both a heavy heart and a great sense of hope. The United Kingdom would never be the same again.
eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio