Ger Taid
O bob hambon haelionus  sgwariau aur dros ei grys, Mae rhyw un ym Meirionnydd Â'i grys aur o'r gorau sydd, Ger Taid, gwar y tŷ ydwyt, Ger, lais hardd, fy Mêr Gruls wyt. Ar y gorwel fe welais Y dyn â'i wlad yn ei lais, Y Ger ei hun yn ei grys A'i law yn rhowlio'i lewys - Pan anwyd ef o'r nefoedd, Yn llewys ei grys Ger oedd. Geraint Goch, hen gerrynt gwyn, Geraint Taid gornant wedyn, Hwyliog wylliad Dolgellau, Dyn â gên fel dau hen gae, Gwiwer fawr yw Ger - a'i farf? Llwynog arfog o hirfarf. Saer yr ŵyl, a'r siriolaf, Yw Ger ei hun, gwrw haf, Llifiwr coed y llyfrau cain, Concwerwr ceinciau cywrain, Noddfa rhag glaw i'r awen Dy ddihafal Lolfa Lên. Amser a Ger - oriog ŷnt, O hyd, gelynion ydynt, Hawdd iawn y try hamddena Hanner awr yn ddwyawr dda, A'i baned, anferthed yw, Dudew diwaelod ydyw. Ŵr di-oedran, saer dodrefn, Wyt lond trol, wyt elyn trefn, Ni elli ateb ebost, Ond, ŵr pur, wrth daro post Ni all neb dy ateb di, Wyt drywanwr taer inni. |
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, fe roddodd Llenyddiaeth Cymru y gorau i'r stondin arferol a mentro arni gyda chynllun newydd tipi'r Lolfa Lên. Bu'r babell fawr yn llwyddiant ac mae bellach yn rhan annatod o ddarpariaeth lenyddol y brifwyl.
Y gŵr a oedd, i bob diben, yn gyfrifol am gynnal a chadw'r tipi oedd neb llai na Geraint Edwards o Ddolgellau - neu Ger Taid i bawb sy'n ei nabod. Ac yntau wedi cyfrannu ers blynyddoedd at y gwaith o drefnu'r Sesiwn Fawr (fel mae'r llun isod yn ei ddangos) ac yn foi digon dyfeisgar gyda phostyn a morthwyl, roedd Ger yn borthor perffaith i'r Lolfa Lên drwy gydol yr wythnos. Dyma gywydd mawl i Ger a luniais mewn pryd i'w darllen yn y Stomp ar nos Wener yr ŵyl yn nhafarn y Stradey Arms. Mae cryn ddiolch i Ger, debyg, am fy llwyddiant yn y gystadleuaeth y noson honno. Iechyd da iddo! A poem of praise for Ger Taid, the bearded gatekeeper of one of the National Eisteddfod's literary mainstays, Y Lolfa Lên.
|