Cerddi Bardd y Mis
2016 Mae'r flwyddyn wedi'i geni Yn hwyr y nos eleni, A heddiw rhag hangover gwaeth Am lymaid llaeth yn gweiddi. Mae teulu a chyfeillion Yn trydar eu cyfarchion, Yn dod i gwrdd ar ddechrau dydd Ei gilydd yn y galon. Bydd 'leni, taerwn ninnau, Yn ddoethach, er pob amau, Anwylach, callach, gwell ei gwedd Na'r llynedd ar ei gorau. Er gwybod gwell, mae'r ysfa Heddychlon ar ei heitha', A chlo ar iet hen winllan ddu Surfelus y rhyfela. Mae'r flwyddyn, er ei gwlyped, Yn newydd o ddiniwed, Mae iaith ein gobaith yn ei gwên, Hi hen, eleni ganed. Dylan Jones Wrth droi fy radio ’mlaen am saith Un bore Llun cyn mynd i’r gwaith, Pesychais fy nhe Dros fy Special K … Roedd Dylan Jones yn chwyldroi iaith. Oedais am eiliad a meddwl, jiw, Ai re-run cynnar o’r Talwrn yw? Ond mwy rhyfeddol Oedd ei gampau geiriol Na rhai Ceri Wyn, Tommo a Cyw. Roedd hwn yn well am lunio pyn Na’r hacs sy’n creu penawdau’r Sun, Nid pob un sydd Yn feistr cudd Ar eiriau - ond mae Dylan yn. Fe aeth o eitem am werthu tai I bobl leol ym Mangor, ai, I ISIS mewn chwinc, Unrhyw beth am linc, Mae’n pynio yn ei gwsg, medd rhai. Am eiriau mwys neu ateb ffraeth, Na Dylan Jones, nid oes neb gwaeth, Mae o mor, mor wael, Mae o’n dda, yn ddi-ffael, Mae’n taro’r marc bob tro fel saeth. Ond peidiwch, da chi, â dechrau cellwair Am gamp y bêl gron, neu bydd am bedair Neu bump neu fwy O oriau’n dweud pwy Sy’n siŵr iawn o ennill y gynghrair. A minnau nawr y bore hwn Ar raglen Dylan Jones, ni wn Pa air bach smala Ddaw ganddo nesa’ … Ond bydd yn ddigon brathog, mwn! Penillion Newydd i'r Hen Galan Rwyf inne ar hen siwrne, Shân, Ar draws y tir i'r drws a'r tân, Rho imi le'n dy stiwdio lân, Rho imi geiniog am y gân! Calennig yn gyfan Ar fore dydd calan, Unwaith, dwywaith, dair. Rhaid canu'n daer cyn hanner dydd Neu heibio'r aiff eleni'n brudd, Y BBC i bawb y sydd Yn rhoi yn fawr, a hynny fydd! Calennig yn gyfan Ar fore dydd calan, Unwaith, dwywaith, dair. Yn garedig ar y radio, Rho galennig hael iawn yno, Ceiniog gron, a wyneb honno Ar ddydd calan, Shân, yn sheino! Calennig yn gyfan Ar fore dydd calan, Unwaith, dwywaith, dair. Potsian Mae dilèit mewn medlo o hyd, Rhyw wefr i'r arfer hyfryd O stwna'n annhestunol, Potsian yn lân â rhyw lol. Dyn sy, am hynny, yn mêd, Dyn â'i ben dan y boned. Piltran ag injan yw'r gêm, Neu egsôst, bygs y system, Trwsio hen ffanbelt rasiwr, Troi sgriws heb ecsgiws mae'r gŵr, Troi fel y bu'n troi, un tro, Y cannoedd sgriws Meccano. Nawr, er na wn fawr o faint Am hen geir, mi wn, Geraint, Am botsian mewn cynghanedd, Cyfri llawer sill o'm sedd A thrwsio, cynllunio llên, Creu wrth dincro â'r awen. Dan y boned neu bennill, Ar hyd egsôst neu'r deg sill, Aros byth am amser sbâr A wnawn, a throi yn gynnar At deiars neu at awen I gael stwna gyda gwên. Ar Ddiwrnod Santes Dwynwen Rhag brath cawodydd trymion Mae lloches ym mhob calon, I mi rhag stormydd cas a braw Rhew Ionawr, mae Rhiannon. Ym mis y dyddiau byrion, Pan guro’r tonnau geirwon, Diolch i’r drefn fod gen i wraig Sy’n graig ym mrig yr eigion. A ninnau yn gariadon A gŵr a gwraig, Rhiannon, Mae bod i Llew yn ‘mam a dad’ Ar gariad yn rhoi’r goron. |
Ym mis Ionawr 2016 roeddwn i'n Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru. Mae un ar hugain o feirdd eraill wedi bod yn Feirdd y Mis ers Ebrill 2014. Mae'n gynllun gwerth chweil sy'n dyst i'r ffaith wych fod barddoniaeth yn chwarae rhan naturiol ym mywydau pobl ledled Cymru.
A hithau'n fis Ionawr, roedd yn ddigon naturiol mai'r dasg gyntaf oedd croesawu'r flwyddyn newydd, a dyma wneud ar ffurf cyfres o dribannau ar gyfer rhaglen Ifan Evans ar fore cyntaf 2016. Roedd y gobaith newydd sy'n wynebu pob blwyddyn newydd, er gwaethaf pob arwydd weithiau i'r gwrthwyneb, yn fy atgoffa o'r gobaith newydd a deimlais pan gafodd Llew, fy mab i a Rhiannon, ei eni ym Medi 2015. Fues i mor hy â benthyg llinell olaf y gerdd o 'Gân yr Henwr' yng Nghanu Llywarch Hen.
Mae'r ail gerdd yn gyfres o limrigau mawl a dychan mewn un i Dylan Jones, cyflwynydd amser brecwast a gŵr nid anenwog am ei chwarae geiriol dyfeisgar! Cyn 1752 fe syrthiai'r flwyddyn newydd ar 13 Ionawr, ac mae'n arfer hyd heddiw mewn rhai ardaloedd ddathlu'r hen galan drwy ganu penillion calennig, sef gofyn ceiniog er mwyn dod â lwc, a hynny cyn hanner dydd. Bydd llawer yn mynd ati yn yr oriau mân gyda'r Fari Lwyd, sef penglog ceffyl wedi ei addurno â rhubanau. Gofynnwyd imi lunio penillion i'r Hen Galan ar gyfer rhaglen Shân Cothi, ac fe ges i ysbrydoliaeth o ddarllen penillion traddodiadol yn y gyfrol arbennig, Ar Dafod Gwerin (gol. Tegwyn Jones). Benthycais y gytgan o'r gyfrol (td. 247), sef pennill traddodiadol o ardal Ffair-rhos yng Ngheredigion. Mae'r cynganeddion sy'n britho llawer o'r hen benillion yn bethau melys iawn i fy nghlust i. Bydd y sawl sy'n gwrando ar raglen Geraint Lloyd gyda'r hwyr yn gwybod fod Geraint wrth ei fodd yn ticran gyda cheir. Wn i fy hun fawr ddim am geir, ond fe wn i'n iawn y boddhad sy i'w gael o botsian â setiau Lego a Meccano ac, yn fwy na dim, o botsian gyda geiriau. Mae'r cywydd a luniais i'n sôn am y boddhad hwnnw o gael potsian dan foned car neu dan foned cerdd - a hynny mewn amser sbâr, yn amlach na pheidio. Rhaid bod yr arfer yn gynefin iawn i Gymry, ac ystyried fod cynifer o eiriau amdani yn yr iaith Gymraeg - potsian, stwna, cyboli, piltran, ffidlan ... A hithau'n Ddiwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr, achubais ar y cyfle i ganu cerdd i f'annwyl wraig, Rhiannon, sy byth a hefyd yn cwyno nad ydw i'n creu cerddi iddi. Dyma unioni'r cam unwaith ac am byth gyda thri o dribannau cariadus! Mae recordiadau o'r cerddi'n cael eu darllen yn fyw ar y radio i'w cael ar flog y wefan hon. Five poems composed as Bardd y Mis (Poet of the Month) on BBC Radio Cymru in January 2016. Topics include welcoming both the new year and the old new year (13 January), tinkering about under car bonnets and celebrating St Dwynwen's Day (the Welsh patron saint of lovers) on 25 January. You can listen to the poems being read on air on my blog.
|