eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014

Ein Hafon Fach Ni

Afon fach droellog, gymalog ym Mai,
I lawr i'r ben-glin fel rhuban o glai,
Croesi'n rhes arni ar siwrnai fach sych
Mae hen gerti'r ych, ac ym mangre'r trai
Mae'r haenau mor wyn â naw môr o rew,
A'r gwenith kaash blith fel cotwm a blew,
Mainaod y dŵr mewn haid dew ar hoe
A sŵn yn y lloer i weision y llew,
Coed mango o gylch sy'n cadw man gwyn
I'r goflaid o hen Frahminiaid a'u myn,
A rhwymo'n gymhleth eu brethyn mae fflyd
O blant da o hyd a'u bowlenni tyn,
Cwpanu eu dŵr mewn capan o de
Ac aros wedyn am sgodyn i'w gwe,
Gwragedd yn golchi llestri'r lle o hyd,
Mamau'n teithio'r rhyd cyn mynd tua thre.

Ein hafon ryfedd yn Nhachwedd, yn nhôn
Y ffrydiau a'r chwyrndrobyllau'n y bôn,
Y penllanw'n serth, pob drop yn llawn sôn,
Yr hen gaeau'n stecs a'r tir yn gan stôn,
Clyw gri llawen braf yr afon ddi-daw
A gŵyl fawr y glaw o frig y lôn.

Ddechrau Medi 2014 fe ddaeth pedwar academydd blaenllaw o Brifysgol Jadavpur yn Kolkata i ymweld â Phrifysgol Aberystwyth, a chymryd rhan mewn gweithdy cyfieithu rhwng Cymraeg a Bangla yn y Ganolfan Cyfieithu Diwylliannol. Ffrwyth y gweithdy hwnnw yw'r gerdd hon, sef cyfieithiad o gerdd i blant yn yr iaith Fengaleg gan Rabindranath Tagore (1861–1941).

Roedd y gerdd wreiddiol yn un o nifer o gerddi gan Tagore a gasglwyd ynghyd ar gyfer y gweithdy am fod cyfieithiadau Saesneg ohonynt ar gael. Wrth drafod y gerdd gyda'r Athro Ipshita Chanda, fodd bynnag, buan y ces i wybod fod y cyfieithiad Saesneg yn bur drychinebus. Aeth yr Athro ati i adrodd y gerdd imi yn yr iaith wreiddiol ac aralleirio wrth fynd, a dyna sylwi fod pedwar curiad ym mhob llinell. A minnau'n ben set ar drosi ar gynghanedd, sylweddolais nad oedd ond un neu ddau o fesurau caeth addas – byddai'n rhaid rhoi tro ar y gwawdodyn hir neu'r hir-a-thoddaid, a hynny â geiriau acennog ar ddiwedd pob llinell …

Bu'n waith araf, caled, a bu bron imi roi'r gorau iddi fwy nag unwaith! Ond o dipyn i beth – gyda chywydd paradocsaidd o debyg gan Ddafydd ap Gwilym (cerdd 33) yn y cof – daeth y gerdd newydd i olau dydd, ac rwy'n hapus iawn â hi. Nid cerdd i blant yw hi mwyach, debyg, ond does ots am hynny.
Picture

In September 2014, four prominent academics from Jadavpur University in Kolkata visited Aberystwyth University on a translation workshop between Welsh and Bangla in the Centre for Cultural Translation. This poem – a translation of a poem by Rabindranath Tagore – is the result of a fruitful collaboration with Professor Ipshita Chanda, who was so dissatisfied with the available English translation of the poem that she decided to lead me through the original line by line, reciting in Bangla as we went. I was given access to a poem I would never have come close to understanding on my own – translation at its most interesting!
eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio