Stormy Castle, Bro Gŵyr
Gymry'r Eisteddfod, codwch Fel gwlad ddwy lygad o lwch Y maes, dros stondinau mân Dros dro a gro a graean, Dros y top, heibio pabell Llanelli i Gefn Padrig pell A'i dwyni oer a di-nod, Creiglannau'r côr gwylanod, Ac edrychwch dros Lwchwr - Yno, ar stad dros y dŵr Ym Mro Gŵyr, dros y môr gwyn A thywod llaith ei ewyn, Mae bryn gwastad Llanmadoc, Uchel yw'r bryn uwchlaw'r broc, Bryn, o bell, heb arno bant Na thŷ enwog na thenant, Ond bryn sy wedi'i brynu, Yn goed a thir, gyda thŷ Hynod dan ei gysgod gwyrdd, Bryn fel dilledyn llwydwyrdd Am gaer yn y magwyrydd, A honno'n gaer dan haen gudd O ddaear werdd ar ei hyd, Ond ifanc ydyw hefyd, Caer deg o goncrid agos A'i choed drud yn edrych dros Y bae i'r Bannau draw'n bell, Dros bob un drws, o babell Ein gŵyl i dai trigolion Gŵyr o hyd, un gaer yw hon I guro holl gaerau hen Hyn o wlad, dyma domen Yr hafod sy'n cysgodi Dan wndwn na welwn ni Ei chaer o'r maes, chwarae mig Dan wlad yn anweledig ... Gymry'r Eisteddfod, codwch Yn haid eich llygaid o'r llwch. |
Ym mis Awst 2014 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar Feysydd Gŵyl Parc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli. Roeddwn i'n fardd preswyl i'r Fedal Aur am Bensaernïaeth (y tro cyntaf i fardd ymgymryd â'r gwaith hwn) ac wedi bod yn ymweld â chwech o adeiladau ar restr fer y gystadleuaeth. Ar faes y brifwyl y flwyddyn honno gellid edrych i'r de, dros afon Llwchwr, at Benrhyn Gŵyr a gweld bryn amlwg yn codi yn y pellter. Bryn Llanmadog yw hwnnw, a rhyw fis cyn yr Eisteddfod roeddwn i wedi ymweld â chartref arbennig iawn sy wedi ei adeiladu i mewn yn ystlys y bryn. Doedd dim modd ei weld o'r maes, ond fe wyddwn i fod yr adeilad yno, fel rhyw ogof hudol o fyd y chwedlau.
Nid ei natur guddiedig oedd yr unig agwedd arallfydol ar Stormy Castle. Parciais fy nghar ym Mhen-clawdd ar fore hyfryd o haf, a chwrdd â James Stroud, un benseiri cwmni Loyn and Co, a fu'n gyfrifol am ddylunio'r adeilad. Roedd y perchennog yn ein disgwyl yn ei gartref yn y bryn ac, wrth inni agosáu at Lanmadog, soniodd James ryw ychydig am hanes y prosiect. Roedd y perchennog - banciwr o Lundain a chanddo wreiddiau teuluol yn yr ardal - am i'r adeilad weddu'n naturiol i'r dirwedd o'i amgylch. Penderfynodd y penseiri dwrio i mewn i'r bryn, lle roedd ffermdy digon amlwg yn sefyll un tro, a pheri i siâp yr adeilad ddilyn goleddf naturiol y llechwedd. Pwyntiodd James tuag at y bryn yn y pellter, a fe fues i'n syllu am ychydig cyn dod o hyd i furiau a ffenestri llydan Stormy Castle ar wyneb y bryn.
Dyma fi'n meddwl am dai'r uchelwyr yn yr Oesoedd Canol, a cherddi'r beirdd yn eu canmol am fod yn eiconau cwbl amlwg yn y tirlun. Roedd Moeliwrch, llys gwyngalchog Hywel ab Ieuan Fychan ger Llansilin, yn 'haul y fron' yn ôl Guto'r Glyn. Gorau po fwyaf gweladwy oedd hi bryd hynny. Ac fe gâi'r beirdd rwydd hynt, wrth gwrs, drwy'r drws agored bob tro. Pwysodd James fotwm intercom wrth fynedfa Stormy Castle, a dyma giat fawr rydlyd yn agor yn araf ar ddreif yn arwain at gwrt cysgodol. Cawsom groeso cynnes gan y perchennog, ac fe'n tywysodd yn hamddenol drwy'r adeilad am rai oriau. Yn ogystal â'r coridorau concrid hardd a'r drysau cuddiedig, rwy'n cofio rhyfeddu at yr olygfa anhygoel tua'r dwyrain drwy'r ffenestri llydan. Aeth y tri ohonom am dro wedyn i gopa'r bryn y tu ôl i'r tŷ, lle gallem weld yr holl benrhyn yn y tes, a'r tir a'r môr yn ymestyn o'n hamgylch am filltiroedd lawer. A hithau'n Orffennaf, gallwn weld cynfas pinc pafiliwn yr Eisteddfod ar ochr arall yr aber. Edrychai'n bell, bell i ffwrdd. Does fawr o syndod, mewn gwirionedd, mai i benseiri Loyn and Co y dyfarnwyd y Fedal Aur yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Llongyfarchiadau iddyn nhw. Fel rhan o'r comisiwn, roedd gofyn imi hefyd ymweld â phum adeilad newydd arall o bwys a oedd ar restr fer y Fedal Aur am Bensaernïaeth, ac ymateb yn greadigol i bob un yn ei dro. Clicia ar y linciau isod i ddarllen y cerddi eraill. ● Old Farm Mews, Dinas Powys ● Ffwrnes, Llanelli ● New Barn, Felindre ● Melin Talgarth (ceir fersiwn Saesneg hefyd) ● Capel Galilea, Llanilltud Fawr Lluniais hefyd fersiwn Saesneg o'r gerdd hon ar gais y penseiri. Click here for an English vesion of this poem.
|