Mewn Hiraeth am Aneirin
Dwy flynedd rhyfedd fu'r rhain, Straeon nyts drwy'r we'n atsain, Rhai'n gwyrdroi'r un gair droeon Neu'n nyddu sbîl newydd sbon Ac yn hau celwyddau lu, Rhoi twyll ar dwyll i'n dallu; Hawdd hefyd, os goddefir, Wisgo gau â masg y gwir. Dyna pam imi amau Holl ystyr hyll stori au Am ryw fardd ar Gymru Fyw Â'i fryd (un difyr ydyw) Ar grwydr ac ar adel Ei wlad ddwys am Lydaw ddel A chwalu'r tân a chloi'r tŷ, A honnai ar ôl hynny I gyd fod ganddo Gadair! Wel yn wir, 'choeliwn i air O abwyd hwn – clecbeit oedd, Cynnwys sad ffêc niws ydoedd! Newid byd ac ymfudo? No wei! Se Nei ddim yn … O. Roedd yn wir. Mor wir â'r wawr. O bob un rhacsyn drycsawr Mewn munud a alltudiwn, O Dduw mawr, gwae fi, ddim hwn! F'Aneirin, fy chwerthin chwil, Fy ngho' enfawr, f'anghenfil, Ie glei, fy Nei teneuach Yn y byd o dipyn bach, Der nôl i Ffostrasol draw, Wennol hud – nad â i Lydaw! Fy maen hir, fy mhen euraid, Fy nghyd-thesbian Nationwide, Rapiwr – ai'r wep arw hon Yw'r achos? Yw fy rhychion Mor ddu nes ei gwadnu i gwr O Lydaw, gydbodlediwr? Hael ieithgi athrylithgar, Fy nghyd-arloeswr, fy nghâr, Nid peth crwn yw'r byd hwn, twel, Hebot ti, ond byd tawel; Nid Aneurig o ddigawn, Ond anEurig unig iawn. Minnau ym mrath y meinwynt, Tithau'r sant a'th ddrws i wynt Y môr; a'r storm yn trymhau, Fi sy'n was i fusnesau Haid o Dorïaid mewn strop Anwaraidd, tithau'n Ewrop; Mwynhau wyt, minnau eto Yn canu fyth kenavo. Pan gyrhaeddi di dy wâl Ar drwyn arfordir anial, Yn hael i fi a 'nheulu Doda di win yn dy dŷ, Ac yn ail, sbo, gwna le sbâr Yn dy lun dan dy landar; Nionod a gwirod a gwin A gawn, wir, ag Aneirin A Laura, Sisial, Erwan Lawr, i lawr yng Ngherlouán. Mae eich angen eleni Mewn bro'r naill ochor i'r lli. Am hynny ewch a mwynhau'n Ein hieithoedd, ac fel hithau Ein hanthem, ewch ar fenthyg A ffowch rhag y straeon ffug, Cadwch ŵyl hael, codwch law, Cariwch wlad, carwch Lydaw Yn wych iawn, ac i'w chanol Ewch yn wir … ond dewch yn ôl. |
Rywdro yn y bymthegfed ganrif, fe benderfynodd y bardd-offeiriad Syr Rhys hel ei bac o'r Dre-wen ar gyrion Croesoswallt i Lanbryn-mair yng Nghyfeiliog. Cymaint oedd y golled i'w gyfaill agos o fardd, Maredudd ap Rhys, fe ganodd hwnnw gywydd o hiraeth amdano (Gwaith Maredudd ap Rhys a'i Gyfoedion, cerdd 3).
Mae fy hiraeth innau, ysywaeth, gymaint â hynny'n fwy am fy nghyfaill barddol, Aneirin Karadog, sy wedi penderfynu ymfudo â'i deulu – ei wraig Laura a'i blant Sisial ac Erwan – o Bontyberem i Lydaw bell, a hynny am flwyddyn gron. A ninnau wedi cwrdd yn ddeddfol bob mis ers Hydref 2016 i recordio podlediad Clera – rai misoedd yn unig ar ôl pleidlais Brexit a'i effeithiau trychinebus – bydd yn chwith ar ei ôl! Darllenwyd y gerdd hon yn noson farddol Capel Jazz yn y Caffi Jazz ar Heol y Santes Fair, a hynny nos Lun yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd 2018. Ceir recordiad byw o'r gerdd yn cael ei darllen ar y noson honno ym mhodlediad Clera mis Medi (24.40). Crëwyd y cartŵn isod gan y dewin amryddawn Siôn Tomos Owen. My partner in poetry-crime and fellow-podcaster, Aneirin Karadog, has dediced to up sticks and migrate to Brittany for a year. Notwithstanding the fact that he'll be able to stay in Europe while I face the absurd tragedy of Brexit, his absence on the poetry circuit will be sorely missed! This poem both implores him to stay and resolves to wish him well in Llydaw.
|