Wŵp wŵp, yn wir – mae'r haf ar y gorwel. Ac ychwanegwch un wŵp arall, oherwydd mae podlediad Clera mis Mai wedi cyrraedd! Mae ar gael yn yr un llefydd ag arfer – SoundCloud ac iTunes. Yn ogystal â melysleisiau Aneurig, mae rhifyn Mai yn llawn dop o leisiau eraill hefyd – pwnco arbennig ar swydd Bardd Plant Cymru gyda'r Bardd Plant presennol, Anni Llŷn, a chyn-drefnydd y prosiect, Leusa Llywelyn, sy bellach yn rheolwr Tŷ Newydd; cerdd newydd sbon gan y prifardd Hywel Griffiths i ddathlu cyhoeddi ei gyfrol newydd, Llif Coch Awst; a dyddiadur sain o Gwrs Cynganeddu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, lle bues i a Twm Morys yn diwtoriaid ar griw gwych o gyw-gynganeddwyr yn ddiweddar. Hynny i gyd a llawer mwy, yn cynnwys pos newydd gan Gruffudd Antur, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a holl newyddion y mis.
1. Pwnco: eitem arbennig o Dŷ Newydd, Llanystumdwy, yng nghwmni Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a chyn-drefnydd prosiect y Bardd Plant, Leusa Llywelyn 2. 23.56 Pos rhif 3 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 27.17 Yr Orffwysfa: cerdd 'Llif Coch Awst' gan Hywel Griffiths, sy ar fin cyhoeddi cyfrol newydd o'r un enw 4. 31.59 Dyddiadur sain o'r gorffwylldy cynganeddol a elwir Cwrs Cynganeddu Tŷ Newydd 5. 44.32 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 55.57 Y Newyddion Heddiw
Summer's round the corner! And what better way to celebrate than with May's edition of the Clera podcast? Available, as always, on SoundClound and iTunes. A whole lot's going on this month, from discussing the role of Bardd Plant Cymru (Welsh children's laureate), to a new poem by Hywel Griffiths from his forthcoming collection, Llif Coch Awst, to an audio diary of my time in the poetry madhouse known as the Tŷ Newydd Writing Centre's cynghanedd course!
0 Comments
Ychydig yn hwyrach na'r arfer, dyma groesawu podlediad Clera mis Ebrill i'r gorlan! Mae'r podlediad, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Yr awdl yw testun trafod y Pwnco ar gyfer y mis hwn – beth yw awdl, pa ddyfodol sy i'r awdl, ac ai cerdd eisteddfodol yw hi'n unig? Os ie, pa ots? Fe ges i a Nei fodd i fyw yn trafod, ac fe gawson hefyd ni gyfraniad arbennig i'r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones. Mae'r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys cerdd gan Iestyn Tyne, sgwrs â Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac adroddiad arbennig o recordiad diweddar o Dalwrn y Beirdd BBC Radio Cymru. Hyn oll a llawer, llawer mwy!
1. Pwnco: sgwrs am yr awdl fel ffurf, gyda chyfraniad gan y prifardd Tudur Dylan Jones 2. 26.34 Pos rhif 2 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 29.00 Yr Orffwysfa: cerdd 'Derbyn' gan Iestyn Tyne 4. 30.57 Sgwrs gyda Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn 5. 43.30 Eitem a recordiwyd yn Neuadd Pantycelyn yn un o rowndiau cyntaf Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, yn cynnwys sgwrs gydag aelodau tîm newydd y Llew Du a'r meuryn ei hun, Ceri Wyn Jones (mae'r cerddi i gyd ar gael fan hyn) 6. 50.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! gyda'n gwestai arbennig, Iestyn Tyne 7. 01.05.27 Y Newyddion Heddiw
A little later than usual, this post welcomes April's edition of the Clera podcast – available, as usual, on SoundCloud and iTunes. The main subject this month is the awdl, an old poetic form used today almost exclusively in the eisteddfod Chair competition. Both Aneirin and I discuss, and the prifardd Tudur Dylan Jones dips his oar in too. This number also includes poetry by Iestyn Tyne, a chat with the National Poet of Wales, Ifor ap Glyn, and an item recorded at a recent round of BBC Radio Cymru's Talwrn y Beirdd.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|