eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Podlediad Clera #37 Hydref 2019

26/4/2020

0 Comments

 
Mae rhifyn mis Hydref o bodlediad Clera ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes, ac yn rhoi llwyfan i'r hyn a ddigwyddodd ar lwyfan Gŵyl Gerallt, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Eryrod yn Llanrwst ddiwedd y mis. Bydd mwy o arlwy'r ŵyl ar y podlediad dros y misoedd nesaf, ond fe ddechreuwn â recordiad o sgwrs rhwng Philippa Gibson a Tudur Dylan Jones. Ceir hefyd y rownd nesaf yn eitem Talwrn y Beirdd Ifanc, sef cystadleuaeth y triban rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Phiwmas y Preseli, ynghyd â gorffwysgerdd arbennig gan Karen Owen a Rhys Iorwerth, sef cywydd 'Curo' a luniwyd gan y ddau fardd hynny ac Iwan Llwyd yn ymryson Gŵyl Maldwyn yn 2008. Sôn hefyd am gyfrol newydd gan Aneirin, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg (Gwasg Carreg Gwalch), sef hanes ei gyfnod yn Llydaw'n ddiweddar ac, yn wir, hanes ehangach yr iaith Lydaweg. At hynny, englynion a luniwyd gen i a Hywel Griffiths ar ein hymweliad â Chernyw ddiwedd Medi er mwyn cynrychioli Gorsedd Cymru yng Ngorsedh Kernow – a llawer mwy!
Clera · Clera Hydref 2019
1. Hynt a helynt y ddau gyflwynydd
2. 10.10 Englynion gen i a Hywel Griffiths a ddarllenwyd yng Ngorsedh Kernow ddiwedd Medi
​3. 12.30 Pwnco: sgwrs o Ŵyl Gerallt rhwng Philippa Gibson a Tudur Dylan Jones
4. 23.45 Pos rhif 32 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
5. 28.25 Yr Orffwysgerdd: 'Curo' gan Karen Owen, Rhys Iorwerth ac Iwan Llwyd
6. 31.55 Talwrn y Beirdd Ifanc: yr ail rownd o'r ornest gyntaf
7. 40.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
8. 50.00 Y Newyddion Heddiw

This month's Clera podcast (on SoundClound and iTunes) has a live recording of a conversation between Philippa Gibson and Tudur Dylan Jones from Gŵyl Gerallt in Llanrwst, as well as round two from the Talwrn y Beirdd Ifanc competition, and a new poem performed by Karen Owen and Rhys Iorwerth.
0 Comments

Gorsedh Kernow, Medi 2019

8/9/2019

0 Comments

 
Ddechrau Medi eleni, es i a Hywel Griffiths i gynrychioli Gorsedd Cymru yng Ngorsedh Kernow yn Lanust. Roedd y croeso'n gynnes, y cwrw'n braf a'r haul yn gwenu. Ar ôl cyrraedd nos Wener, aeth y ddau ohonon ni ati i lunio cerdd i'w darllen yn y seremoni heulog brynhawn Sadwrn, a gelli ddarllen y gyfres honno o dri englyn drwy glicio fan hyn.

Peth gwych arall inni'n dau oedd gweld aelodau gleision yr orsedd yn cael eu derbyn, a Gwenno Saunders yn eu plith am roi lle mor ganolog i Gernyweg ac i'w hetifeddiaeth Gernywaidd yn ei cherddoriaeth. Yn ei haraith o'r llwyfan, gwnaeth y Bardd Mawr Liz Carne – yr archdderwydd, i bob diben – yn eglur y dylid ystyried y Cernywiaid yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain, a'u diogelu a'u hyrwyddo ochr yn ochr â lleiafrifoedd eraill. Roedd gwneud hynny, meddai Liz, yn bwysicach nag erioed yn nhymor gwallgof Brecsit. Galwodd hefyd am gydnabod Cernyw'n wlad ar wahân i Loegr.
Picture
Roedd y seremoni yn ei chyfanrwydd yn eithriadol o debyg i seremonïau Gorsedd Cymru, a dylanwad Iolo Morganwg ar bob dim, o'r ddawns flodau i'r floedd am heddwch. Ond roedd dau wahaniaeth nodedig, ac eithrio'r ffaith fod pob dim mewn Cernyweg yn gyntaf ac yn Saesneg wedyn. Y cyntaf oedd y pwyslais mawr ar Arthur. Hyd yn oed yn y chwedlau Cymraeg, yng Ngelli-wig yng Nghernyw yr oedd llys Arthur, a does syndod, mewn gwirionedd, fod ei enw i'w glywed mor aml yn y seremoni. Rhoddwyd ei gleddyf deuddarn, at hynny, yn fy nwylo i a Hywel, ond wn i ddim a fyddai Iolo wedi cydsynio! Yr ail wahaniaeth oedd y ffaith fod yr holl orseddogion yn dod at ei gilydd ar y diwedd er mwyn canu'r anthem, a phawb yn gosod ei law ar ysgwydd rhywun arall. Roedd yn ffordd drawiadol iawn o ddod â'r dathlu i ben.
Roedd sgwâr blodeuog y dre – triongl, mewn gwirionedd – yn gartref i dair tafarn (yn cynnwys ein gwesty yn y Commercial), ac mae tafarn y Star gerllaw'n gartref i griw anffurfiol o ganorion tafarn. Daeth y criw o ddynion lleol at ei gilydd yn y dafarn rai blynyddoedd yn ôl a dechrau cydganu caneuon traddodiadol. Maen nhw bellach yn enwog drwy Gernyw ac wedi ysbrydoli criwiau eraill i ddechrau canu. Cawson ni ymuno â nhw ar y nos Sadwrn, a helpu criw o Grwydriaid Crwbin – o bob criw dan haul! – oedd wedi mentro i Gernyw ar eu taith flynyddol, i ganu ambell gân Gymraeg.

Doedd y môr namyn deng munud o gerdded i'r dwyrain o'r dref, ac fe es i a Hywel am sgowt i weld traeth o'r enw Porth Nanven. Mae'r fan yn enwog am ei daeareg anhygoel – mwy am hynny gan Hywel fan hyn – ac am ei cherrig crynion, yn fân ac yn fawr, a dreiglwyd yn llyfn gan y môr a'r canrifoedd, a chymaint yw eu hynodrwydd nes bod eu dwyn o'r fan yn erbyn y gyfraith! Roedd arwydd yng ngolwg y tonnau'n nodi'r gwaharddiad hwnnw, a chadw ato'n ddau fachgen da wnaethon ni. Ond dyma ddau beth o Gernyw nad oedd arnon ni gywilydd eu dwyn gyda ni'r holl ffordd adref i Gymru – brawdoliaeth a chyfeillgarwch.
Picture

In early September, Hywel Griffiths and I travelled to Cornwall to represent Gorsedd Cymru in Gorsedh Kernow. We were given a very warm and generous welcome to St Just and were privileged to take part in the ceremony. I spoke of our morning visit to Porth Nanven beach, where a sign told us that taking away the distinctive rounded stones was against the law (more about it's amazing geology by Hywel here). We abided by that law, but we will certainly take away feelings of warm comradeship, hospitality and new friendships. Hywel added that in times of so much talk of estrangement and division, nowhere more than the British Isles unfortunately, coming together to strengthen bonds between us was more important than ever, and it was a privilege to be here to do so with you. As two poets, we thought it would be fitting to read a poem, composed soon after our arrival in Lanust, to mark the occasion: you can read it here.
0 Comments

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio