eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Llyfr newydd: Yr Arth Aruthrol

1/10/2018

0 Comments

 
Mae cyfrol newydd liwgar a doniol iawn i blant wedi ei chyhoeddi gan wasg Atebol. Addasiad gen i yw Yr Arth Aruthrol o'r gyfrol Saesneg Boogie Bear gan David Walliams, a'r darluniau gan Tony Ross. Y llyfr hwn oedd y gwerthwr gorau ym mis Hydref yng nghategori'r llyfrau Cymraeg i blant. Dyma'r disgrifiad ar wefan Gwales:

Stori lawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, o bysgota, o fwyta ac o gysgu. Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg. Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth … yn waeth o lawer!
Picture

My Welsh adaptation of a book for children by David Walliams and Tony Ross – Yr Arth Aruthrol – is now available in the shops and online. Gwales website describes it as 'a very humorous story about a white bear living in the North Pole who loves swimming, fishing, eating and sleeping. One day, she wakes from her sleep far from home. Things have never been worse, but they are about to become worse... much worse!' Published by Atebol, this adaptation was the best-selling Welsh book for children in October.
0 Comments

Llyfr Newydd | New Publication: Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall

11/2/2018

1 Comment

 
Mae casgliad newydd o gerddi am Gymru ac am India, Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall, nawr ar werth. Cyfrol amlieithog yw hi a luniwyd ar y cyd gen i a Sampurna Chattarji, un o feirdd Saesneg mwyaf blaenllaw India, a chyfrol sy'n benllanw ar gyfnod maith o gydweithio rhyngom. Yng ngeiriau'r cyflwyniad:
A new collection of poetry, Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall, is now for sale. This multilingual collection contains poetry by both myself and Sampurna Chattarji, one of India's foremost English-language authors, and is the high point of a long partnership, as explained in the book's introduction:
This book marks the culmination of a partnership in poetry that spans seven years and two countries some 5000 miles apart. A journey that began in 2011 as part of a poetry translation workshop at Tŷ Newydd Writing Centre in north Wales has pulled into its orbit places as far removed from each other as Aberystwyth and Bombay/Mumbai, as well as Thiruvananthapuram, Porth-cawl, Cardiff, London, Kolkata, Swansea and Shantiniketan. We have both been afforded a fleeting, deeply enriching glimpse of each other's home towns, cities and nations. And in turn gained an insight into those things and places that we believed to be most familiar to us: streets, communities, homes, poems, even words themselves.
Mae'r casgliad yn cynnwys adrannau o gerddi yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn Bangla am Mumbái, am Aberystwyth ac am Kolkata, ynghyd â cherddi ymryson/kobir lorai, adran o gyfieithiadau, nodiadau ac atodiadau diddorol sy'n olrhain ein trafodaethau am y byd a'r betws ar hyd y blynyddoedd. Mae un o fy ngherddi Saesneg, 'Two Parched Poets', ar gael i'w darllen ar y wefan hon.

Cyhoeddwyd y gyfrol gan Poetrywala fel rhan o gyfres o gyfrolau gan feirdd o Gymru ac o India ym mhrosiect Cysylltiadau Barddonol Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (a ariannwyd gan British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru). Dyma'r pedair cyfrol arall yn y gyfres:
  • Aerial Roots gan Subhro Bandopadhyay a Nicky Arscott;
  • Open Me My Shadow gan Avner Pariat a Rhys Trimble;
  • Interversions gan Nia Davies a Mamta Sagar;
  • A Different Water / Dŵr Arall gan Anitha Thampi a Siân Melangell Dafydd.
​Am fwy o wybodaeth am yr hyn y bues i a Sampurna'n ei wneud ar y prosiect, yn cynnwys casgliad o luniau a phum podlediad yn trafod hanes ein hymweliadau â Kolkata, ag Aberystwyth ac â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Môn y llynedd, clicia fan hyn.

Ddiwedd Ionawr fe es i'n ôl i India ar gyfer rhan olaf y prosiect, sef er mwyn lansio'r gyfrol a chymryd rhan mewn digwyddiadau yn Kolkata, yng ngŵyl lenyddiaeth enfawr Jaipur (darllena erthygl o bapur newydd Live Mint fan hyn) ac yna yn Delhi (ceir erthygl fan hyn o India Today). I weld fideo ohonof i a Sampurna'n darllen ein gwaith yn Jaipur, clicia fan hyn.

Bu'r daith a'r prosiect ar ei hyd yn brofiad arbennig iawn – diolch i'r beirdd ac i'r cyfeillion lu a fu'n rhan o'r antur, ac yn arbennig i Alexandra Büchler ac, wrth gwrs, i Sampurna.
The book includes sections of poetry in Welsh, English and Bangla on Mumbai, Aberystwyth and Kolkata, as well as a series of ymryson/kobir lorai debate poems, a section of poems in translation, notes and appendices that trace our conversations over the years about almost everything in between. One of my English-language poems, 'Two Parched Poets', can be read on this website.

The collection is published by Poetrywala and is one of a series of poetry collections by poets from Wales and India produced as part of the Poetry Connections project by Literature Across Frontiers (supported by British Council Cymru and Wales Arts International). These are the four other books in the series:​
  • Aerial Roots by Subhro Bandopadhyay and Nicky Arscott;
  • Open Me My Shadow by Avner Pariat and Rhys Trimble;
  • Interversions by Nia Davies and Mamta Sagar;
  • A Different Water / Dŵr Arall by Anitha Thampi and Siân Melangell Dafydd.
For more on what Sampurna and I got up to on the project, including a collection of photographs and five podcasts about our time in Kolkata, Aberystwyth and at the National Eisteddfod on Anglesey last year, click here.

In January I returned to India for the last leg, namely to launch the book and to take part in events in Kolkata, at the Jaipur Lit Fest (read an article on the Live Mint website here) and lastly in Delhi (article here from India Today). A video of Sampurna and I reading our work in Jaipur is available here.

The tour and indeed the whole project from start to finish was a wonderful experience – thanks to the all the poets and friends that took part in the adventure, and especially to Alexandra Büchler and, of course, to Sampurna.
Picture
Picture
Picture
1 Comment

Podlediad Cysylltiadau Barddonol #2 | Poetry Connections podcast #2

2/8/2017

1 Comment

 
Yn dilyn y podlediad cyntaf a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn, wele'r ail bodlediad yng nghyfres Cysylltiadau Barddonol, sef sgwrs rhyngof i a Sampurna Chattarji, bardd o India, am ein gwaith ar y prosiect o'r un enw. Y tro hwn, ry'n ni'n trafod digwyddiad y buon ni'n rhan ohono yn Aberystwyth nos Fawrth fel rhan o ŵyl Hen Linell Bell, ynghyd â seminar gyfieithu y bu Sampurna'n ei harwain gyda rhai o fyfyrwyr y radd Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ry'n ni hefyd yn trafod ffilm fer ry'n ni'n dau wedi bod yn ei chreu – Sampurna'n darllen cyfres o saith cerdd a finnau'n gwneud y gwaith ffilmio a golygu. Ysgrifennodd Sampurna ei cherddi yn sgil ei hymweliad diwethaf ag Aberystwyth, ac mae wedi bod yn hwyl ailymweld â'r gwahanol leoliadau – fel y castell, y Llew Du a'r Llyfrgell Genedlaethol – a fu'n ysbrydoliaeth iddi. Bydd y ffilm honno ar gael i'w gwylio ar y wefan hon maes o law.

​Following the release of the first podcast on Saturday, the Poetry Connections podcast is back. Sampurna Chattarji and I discuss our progress on the project, including an event in which we took part on Tuesday as part of the Far Old Line festival in Aberystwyth, as well as a translation seminar led by Sampurna with students who follow the Professional Translation Studies course at Aberystwyth University. We also discuss a short film we've both been working on over the last few days – Sampurna reading her work and myself filming and editing. Sampurna wrote a series of seven poems on her last visit to Aberystwyth, and it's been great retracing our steps to the Old College, Trefechan bridge, the coffee shops and other locations where Sampurna found inspiration. The film will be posted on this website soon.
1 Comment

Cerdd newydd: Ein Hafon Fach Ni

19/1/2017

0 Comments

 
A minnau heddiw wedi cymryd rhan yng Nghynhadledd Pontydd Cyfieithu yn y Llyfrgell Genedlaethol, dyma achub ar y cyfle i roi ar y wefan un o'r cerddi y bûm i'n ei thrafod – cyfieithiad o gerdd i blant gan Tagore a grëwyd mewn gweithdy cyfieithu nôl yn 2014. Clicia fan hyn i ddarllen y gerdd a hanes ei chreu.

Bu'r gynhadledd – a drefnwyd gan y Gyfnewidfa Lên, Canolfan Ymchwil Cyfieithu Diwylliannol Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn llwyddiant mawr. Diolch i Marion Löffler o'r Ganolfan Uwchefrydiau, Elin Haf Gruffydd Jones, Sioned Puw Rowlands, Ned Thomas a gweddill y criw.
Picture

Taking part in a great conference on translation at the National Library today has prompted me to place a new poem on the website – a translation of a poem for children by Tagore – that was written as part of a translation workshop back in 2014.
0 Comments

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio