eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Cerdd i James Hook

21/3/2021

0 Comments

 
Mae rhaglen boblogaidd Iaith ar Daith ar S4C yn paru dau o enwogion Cymru wrth i'r naill helpu'r llall i ddysgu Cymraeg. Nos Sul 21 Mawrth, tro'r chwaraewr rygbi James Hook oedd hi i daclo'r iaith ochr yn ochr â'r dyfarnwr Nigel Owens, ac fe ges i'r fraint o lunio englyn i longyfarch James fel anrheg ar ddiwedd y rhaglen. Dyma fe'r englyn, ynghyd ag un arall a ddaeth i'r fei wrth greu – croeso mawr, James, i fyd y Gymraeg!

Clicia fan hyn i wylio'r rhaglen (ar gael tan 19 Ebrill).
I James Hook

Chwarae gêm ochrgamu – a wna iaith
        Â ni, gan ein baglu;
    O dasg i dasg, rhaid dysgu
    Cael ein gwres o’i thaclo’n gry’.

Ar ôl meddiannu pêl rydd – y Gymraeg,
        Mae’n gêm rwydd, oherwydd
    Yn dy iaith, dy waith bob dydd
    Yw mwynhau – mewn tîm newydd.
(a loose translation)

Language side-steps us, wrong-foots, sends
us packing,
so task by task, let's tackle it head on,
get warmed up and stuck in.

Welsh is a loose ball bobbling,
waiting for you to grab it,
and once you do, you'll find yourself part
of a brand new team.

S4C's popular Iaith ar Daith programme pairs two celebrities as one helps the other learn Welsh. On Sunday 21 March, it was the rugby star James Hook's turn to tackle the language with the renowned rugby referee Nigel Owens by his side. I was asked to write a short poem to congratulate James on his success – croeso, James, i fyd y Gymraeg! Click here to watch the programme (available until 19 April).
0 Comments

Podlediad Clera #39 Rhagfyr 2019

26/4/2020

0 Comments

 
Mae'n fis prynu anrhegion! A beth well ar rifyn olaf y flwyddyn o Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) nag arolwg o'r cyfrolau barddol a'r cyfrolau gan feirdd sy ar gael y Nadolig hwn? Ceir cyfraniadau gan Alaw Mai Edwards (Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas), Casia Wiliam (cyn-Fardd Plant Cymru ac awdur Eliffant yn Eistedd ar Enfys), Ffrank Olding (bardd y gyfrol newydd Eilun), Esyllt Lewis (un o olygyddion cylchgrawn Y Stamp), Elinor Wyn Reynolds (awdur y nofel Gwirionedd) ac Iwan Rhys (awdur y nofel Y Bwrdd). Achubais i a Nei ar y cyfle wedyn i gael sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg (Gwasg Carreg Gwalch), ac am fy nghyfrol newydd i o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), a fydd allan yn y siopau'n fuan. Yn ogystal ag ychydig o hanes fy nhaith ddiweddar i India, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o farddoniaeth, The Bhyabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ceir sgwrs hefyd a recordiwyd yn Delhi rhyngof i a'm cyd-awdur, Sampurna Chattarji, sy'n cynnwys recordiad ohoni'n darllen ei cherdd 'Eisteddfod'. Hynny i gyd, a phedwaredd rownd Talwrn y Beirdd Ifanc, sef tasg yr haicw, gorffwysgerdd dymhorol gan Geraint Løvgreen a'r holl eitemau arferol.
Clera · Clera Rhagfyr 2019
1. Hanes diweddar Aneurig
2. 09.55 Pwnco: holl lyfrau barddol y Nadolig
3. 22.45 Sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg, a'm cyfrol newydd i o farddoniaeth, ​Llyfr Gwyrdd Ystwyth
4. 42.00 Pos rhif 34 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
5. 46.35 Yr Orffwysgerdd: 'Siôn Corn' gan Geraint Løvgreen
6. 49.05 Talwrn y Beirdd Ifanc: pedwaredd rownd yr ornest gyntaf
​7. 53.25 Sgwrs â Sampurna Chattarji a recordiwyd yn Delhi
​8. 01.08.10 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
9. 01.12.50 Y Newyddion Heddiw

This month's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) provides a personal shopping experience to some of the season's new books by some of the publishing industry's key agents and writers. Also a seasonal poem by Geraint Løvgreen, a conversation with Sampurna Chattarji, recorded on my recent visit to Delhi to launch and promote a brand new book of poems for children with Sampurna, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), and much more!
0 Comments

Erthygl ar BBC Cymru Fyw

3/7/2018

0 Comments

 
Mae'n amlwg mai un o eitemau mwyaf poblogaidd podlediad Clera yw Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis. Dwi a Nei bellach wedi trafod cannoedd o linellau damweiniol.

Gofynnodd BBC Cymru Fyw imi lunio erthygl yn enwi ein hoff linellau cynganeddol damweiniol, felly cliciwch fan hyn i'w darllen hi

Fel dwi'n ei ddweud yn yr erthygl, mae'r diolch yn y lle cyntaf i'n gwrandawyr gwych am fod â chlustiau mor fain a llygaid mor graff, ac am fod mor barod i anfon eu llinellau aton ni. 'Fyddai dim modd cynnal yr eitem – na'r podlediad, yn wir – heb eich cefnogaeth chi.

Cofiwch fod croeso i unrhyw un gyfrannu llinell, a chael cyfle i fod yn bencampwr (damweiniol) yr eitem – ewch i @Clera ar Twitter neu anfon ebost at podlediad.clera@hotmail.com.
Picture

I was invited recently to write an article for BBC Cymru Fyw on a regular item in the Clera podcast, namely one in which listeners send in lines of accidental cynghanedd that they've seen or heard anywhere and in any language. The one in the picture above is a good example – the words 'winter – beer is best' form a perfect cynghanedd sain!
0 Comments

Cyfweliad papur newydd | Live Mint interview

24/2/2018

0 Comments

 
Clicia fan hyn i ddarllen cyfweliad rhyngof i a'r bardd, y newyddiadurwraig a'r berfformwraig, Tishani Doshi, ym mhapur newydd Live Mint, un o bapurau newydd mwyaf India. Daw'r erthygl yn sgil ymweliad diweddar â gŵyl lenyddol Jaipur fel rhan o brosiect Cysylltiadau Barddonol Cymru-India – darllena fwy am y daith honno fan hyn. Ces i gyfle i drafod barddoniaeth, yr iaith Gymraeg a'r profiad o fod yn fardd – diolch Tishani!
Click here to read my interview with the poet, journalist and performer Tishani Doshi in Live Mint, one of India's leading newspapers. The article follows a recent visit to Jaipur, where I took part in the Jaipur Lit Fest as part of the India-Wales Poetry Connections project – read more about the tour here. I had a great time discussing poetry, the Welsh language and what it means to be a poet in Wales today – diolch Tishani!
Picture
0 Comments

Llyfr Newydd | New Publication: Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall

11/2/2018

1 Comment

 
Mae casgliad newydd o gerddi am Gymru ac am India, Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall, nawr ar werth. Cyfrol amlieithog yw hi a luniwyd ar y cyd gen i a Sampurna Chattarji, un o feirdd Saesneg mwyaf blaenllaw India, a chyfrol sy'n benllanw ar gyfnod maith o gydweithio rhyngom. Yng ngeiriau'r cyflwyniad:
A new collection of poetry, Elsewhere Where Else / Lle Arall Ble Arall, is now for sale. This multilingual collection contains poetry by both myself and Sampurna Chattarji, one of India's foremost English-language authors, and is the high point of a long partnership, as explained in the book's introduction:
This book marks the culmination of a partnership in poetry that spans seven years and two countries some 5000 miles apart. A journey that began in 2011 as part of a poetry translation workshop at Tŷ Newydd Writing Centre in north Wales has pulled into its orbit places as far removed from each other as Aberystwyth and Bombay/Mumbai, as well as Thiruvananthapuram, Porth-cawl, Cardiff, London, Kolkata, Swansea and Shantiniketan. We have both been afforded a fleeting, deeply enriching glimpse of each other's home towns, cities and nations. And in turn gained an insight into those things and places that we believed to be most familiar to us: streets, communities, homes, poems, even words themselves.
Mae'r casgliad yn cynnwys adrannau o gerddi yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn Bangla am Mumbái, am Aberystwyth ac am Kolkata, ynghyd â cherddi ymryson/kobir lorai, adran o gyfieithiadau, nodiadau ac atodiadau diddorol sy'n olrhain ein trafodaethau am y byd a'r betws ar hyd y blynyddoedd. Mae un o fy ngherddi Saesneg, 'Two Parched Poets', ar gael i'w darllen ar y wefan hon.

Cyhoeddwyd y gyfrol gan Poetrywala fel rhan o gyfres o gyfrolau gan feirdd o Gymru ac o India ym mhrosiect Cysylltiadau Barddonol Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (a ariannwyd gan British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru). Dyma'r pedair cyfrol arall yn y gyfres:
  • Aerial Roots gan Subhro Bandopadhyay a Nicky Arscott;
  • Open Me My Shadow gan Avner Pariat a Rhys Trimble;
  • Interversions gan Nia Davies a Mamta Sagar;
  • A Different Water / Dŵr Arall gan Anitha Thampi a Siân Melangell Dafydd.
​Am fwy o wybodaeth am yr hyn y bues i a Sampurna'n ei wneud ar y prosiect, yn cynnwys casgliad o luniau a phum podlediad yn trafod hanes ein hymweliadau â Kolkata, ag Aberystwyth ac â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Môn y llynedd, clicia fan hyn.

Ddiwedd Ionawr fe es i'n ôl i India ar gyfer rhan olaf y prosiect, sef er mwyn lansio'r gyfrol a chymryd rhan mewn digwyddiadau yn Kolkata, yng ngŵyl lenyddiaeth enfawr Jaipur (darllena erthygl o bapur newydd Live Mint fan hyn) ac yna yn Delhi (ceir erthygl fan hyn o India Today). I weld fideo ohonof i a Sampurna'n darllen ein gwaith yn Jaipur, clicia fan hyn.

Bu'r daith a'r prosiect ar ei hyd yn brofiad arbennig iawn – diolch i'r beirdd ac i'r cyfeillion lu a fu'n rhan o'r antur, ac yn arbennig i Alexandra Büchler ac, wrth gwrs, i Sampurna.
The book includes sections of poetry in Welsh, English and Bangla on Mumbai, Aberystwyth and Kolkata, as well as a series of ymryson/kobir lorai debate poems, a section of poems in translation, notes and appendices that trace our conversations over the years about almost everything in between. One of my English-language poems, 'Two Parched Poets', can be read on this website.

The collection is published by Poetrywala and is one of a series of poetry collections by poets from Wales and India produced as part of the Poetry Connections project by Literature Across Frontiers (supported by British Council Cymru and Wales Arts International). These are the four other books in the series:​
  • Aerial Roots by Subhro Bandopadhyay and Nicky Arscott;
  • Open Me My Shadow by Avner Pariat and Rhys Trimble;
  • Interversions by Nia Davies and Mamta Sagar;
  • A Different Water / Dŵr Arall by Anitha Thampi and Siân Melangell Dafydd.
For more on what Sampurna and I got up to on the project, including a collection of photographs and five podcasts about our time in Kolkata, Aberystwyth and at the National Eisteddfod on Anglesey last year, click here.

In January I returned to India for the last leg, namely to launch the book and to take part in events in Kolkata, at the Jaipur Lit Fest (read an article on the Live Mint website here) and lastly in Delhi (article here from India Today). A video of Sampurna and I reading our work in Jaipur is available here.

The tour and indeed the whole project from start to finish was a wonderful experience – thanks to the all the poets and friends that took part in the adventure, and especially to Alexandra Büchler and, of course, to Sampurna.
Picture
Picture
Picture
1 Comment
<<Previous

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio