Dyma ffarwelio, o'r diwedd, â'r hen aeaf hir, a chroesawu'r heulwen yn ôl i Gymru, ynghyd â rhifyn newydd o bodlediad Clera, sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Mae'r Pwnco y tro hwn yn un digon arbennig, am ei fod yn cynnwys lleisiau rhai o gantorion amlycaf Cymru – Huw Chiswell, Cleif Harpwood, Gwyneth Glyn, Twm Morys, Rhys Meirion ac Elin Fflur – a hynny mewn ymateb i'r cwestiwn: a oes ots am y geiriau mewn cân, ynteu ai'r alaw'n unig sy'n bwysig? Yn ogystal â'r holl eitemau arferol, o bos Gruffudd Antur i bob un darn o newyddion barddol, mae podlediad mis Ebrill hefyd yn cynnwys cerdd gan Alan Llwyd o'i gyfrol newydd, Cyrraedd (Barddas), a recordiad o dalwrn a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Ysgol Farddol Caerfyrddin, pan osodwyd tasg anarferol i'r timau, sef llunio arwyddair i Clera. Diolch i'r meuryn Idris Reynolds am osod y dasg, ac i'r timau am lunio arwyddeiriau hyfryd! Dyma'r cwpled buddugol gan dîm Beirdd Myrddin:
Mae calon ein barddoniaeth Yng nghuriadau'r ffrindiau ffraeth. 1. Pwnco: sgwrs gychwynnol a'r englyn diweddaraf i Lŷr Hael (07.45), ynghyd ag eitem estynedig am bwysigrwydd geiriau mewn caneuon gyda rhai o'n cantorion amlycaf (08.35) 2. 34.15 Pos rhif 14 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 38.40 Yr Orffwysfa: cerdd newydd sbon gan Alan Llwyd 4. 41.35 Recordiad o dalwrn Ysgol Farddol Caerfyrddin 5. 46.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 52.25 Y Newyddion Heddiw
The main topic of this month's Clera podcast (available on both SoundCloud and iTunes) is whether words matter in a song, or is it all down to the melody? Aneirin and I offer our own two cents, but perhaps of more value are the responses of six of Wales's leading singer-songwriters: Huw Chiswell, Cleif Harpwood, Gwyneth Glyn, Twm Morys, Rhys Meirion and Elin Fflur. This and all the usual favourites, as well as a brand new poem by Alan Llwyd and a special recording from a talwrn held recently in Carmarthen.
0 Comments
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|