eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Gwefan newydd: barddoniaeth.cymru

2/1/2019

0 Comments

 
Mae gwefan newydd wedi ei lansio gan wasg Atebol, sef barddoniaeth.cymru. Adnodd ymarferol yw'r wefan ar gyfer cyflwyno a dadansoddi barddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 3. Mae'r wefan yn cynnwys deugain o gerddi wedi eu dosbarthu yn ôl wyth o themâu, a hynny gan drawstoriad eang o feirdd am bynciau amrywiol iawn. Ceir yn eu plith un gerdd gen i, sef Y Cadno Coch o'r gyfrol Sgrwtsh! (Gomer, 2011).

​Mae'r adnoddau'n cynnwys fideo o'r bardd yn darllen ac yn trafod y gerdd, crynodeb ohoni, tŵlbocs gweithgareddau a thasgau amrywiol. Y nod, wrth gwrs, yw galluogi i bobl ifanc fwynhau barddoniaeth o'r newydd.

Fel y nodir ar y wefan, bwriad yr adnodd yw cefnogi Rhaglen Astudio Llafaredd a Darllen y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, ac fe'i ariannwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Awdur y wefan yw'r prifardd Ceri Wyn Jones.
Picture
Picture

A new website has been launched by Atebol – barddoniaeth.cymru – as a resource to introduce and analyse poetry in Key Stage 3. The website includes forty poems grouped into eight themes – including one of mine, 'Y Cadno Coch' (the red fox), from my collection Sgrwtsh! (Gomer, 2011) – and provides video readings and discussions, summaries and a range of activities.
0 Comments

Llyfr newydd: Teulu Tŷ Bach

7/11/2018

0 Comments

 
Mae chwech o storïau doniol newydd i blant rhwng 7 ac 11 oed (Cyfnod Allweddol 2) wedi eu cyhoeddi gan CAA – Canolfan Adnoddau Addysgol – sef Cyfres Halibalŵ:
  • Syniadau Slei gan Mari Løvgreen
  • Y Tocyn Raffl gan Anni Llŷn
  • Project Poli gan Gwenno Mair Davies
  • Tŷ Tomi Treorci gan Dafydd Llywelyn
  • Iârgyfwng! gan Gwennan Evans
  • Teulu Tŷ Bach gen i
Yng ngeiriau golygydd y gyfres, Fflur Aneira Davies:

'Rydym wrth ein boddau yn cael cyhoeddi’r llyfrau gwreiddiol hyn i blant Cymru. Maen nhw wedi’u hysgrifennu gan awduron ifanc a phoblogaidd sy’n gweithio’n gyson gyda phlant yr oedran hwn, felly maen nhw’n adnabod eu cynulleidfa yn dda. Bydd y nofelau bywiog, yr hiwmor a’r lluniau lliw gan arlunwyr talentog yn siŵr o apelio at ferched a bechgyn ledled Cymru. Mae’r gwerthiant wedi bod yn wych yn y pythefnos cyntaf ers eu cyhoeddi.'

Yn rhyfedd iawn, rydw i, Fflur, Mari a Gwenno i gyd yn raddedigion o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a hynny'r un flwyddyn! Roedd yn braf iawn cwrdd â'r tair eto yn lansiad y gyfres yn Ysgol Gynradd Llanbryn-mair ddechrau Tachwedd.

Mae fy stori i, Teulu Tŷ Bach, wedi ei ddarlunio'n wych gan Rhys Aneurin ac yn sôn am dri chymeriad rhyfedd sy'n byw yn y tŷ bach hwnnw, sef Blodwen a'i gŵr, Cleif, a'u ci Sam. Mae Blodwen yn hoffi garddio, mae Cleif yn hen bysgotwr tal, tal ac mae Sam y Ci'n treulio'i amser yn trio cael gafael ar y Gath Drws Nesaf …

Mae syniadau a gweithgareddau difyr i gyd-fynd â'r storïau ar wefan Hwb, sy'n addas i oedolion eu defnyddio gyda phlant wrth hybu iaith a llythrennedd mewn ysgolion ac yn y cartref.

Ceir adolygiadau ar wefan Mam Cymru ac ar flog Bethan Gwanas.
Picture
Picture
Picture
Picture

Cyfres Halibalŵ is a new series of six funny stories for children aged 7 to 11 (Key Stage 2) from CAA. My story – Teulu Tŷ Bach – is brilliantly illustrated by Rhys Aneurin and is about Blodwen, Cleif and Sam the dog, a trio of weird and wonderful characters who live in a very small house nextdoor to a very mischievous cat and her very grumpy owner. Funnily enough, four of the authors – Fflur, Mari, Gwenno and I – are all 2004 graduates from the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth University. Ideas and activities based on the stories are available on the Hwb website, and can be used to boost language and literacy both in school and at home.
0 Comments

Llyfr newydd: Yr Arth Aruthrol

1/10/2018

0 Comments

 
Mae cyfrol newydd liwgar a doniol iawn i blant wedi ei chyhoeddi gan wasg Atebol. Addasiad gen i yw Yr Arth Aruthrol o'r gyfrol Saesneg Boogie Bear gan David Walliams, a'r darluniau gan Tony Ross. Y llyfr hwn oedd y gwerthwr gorau ym mis Hydref yng nghategori'r llyfrau Cymraeg i blant. Dyma'r disgrifiad ar wefan Gwales:

Stori lawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, o bysgota, o fwyta ac o gysgu. Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg. Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth … yn waeth o lawer!
Picture

My Welsh adaptation of a book for children by David Walliams and Tony Ross – Yr Arth Aruthrol – is now available in the shops and online. Gwales website describes it as 'a very humorous story about a white bear living in the North Pole who loves swimming, fishing, eating and sleeping. One day, she wakes from her sleep far from home. Things have never been worse, but they are about to become worse... much worse!' Published by Atebol, this adaptation was the best-selling Welsh book for children in October.
0 Comments

Llyfr newydd: Pawen Lawen!

1/10/2018

0 Comments

 
Mae ail gyfrol Casia Wiliam fel Bardd Plant Cymru wedi ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch, sef Pawen Lawen! Cerddi gan Casia a chan Feirdd Plant y gorffennol am fyd natur yw'r cynnwys y tro hwn, a hynny ar sawdl cyfrol y llynedd am fwystfilod o bob math.

​Yng ngeiriau Casia yn ei chyflwyniad i'r gyfrol:

Ers i mi ddechrau ar fy ngwaith fel Bardd Plant Cymru, rydw i wedi holi plant mewn sawl ysgol pa thema fydden nhw'n ei dewis ar gyfer casgliad o gerddi, a dro ar ôl tro mae plant wedi dweud 'Byd Natur', felly rydw i wedi gwrando! Mae'r gyfrol hon yn llawn cerddi gwych am anifeiliaid slei, dail direidus, anturiaethau anhygoel allan yn yr awyr agored, a llawer mwy. Digon i wneud i chi daflu'r llyfr drwy'r ffenest a chychwyn allan am antur eich hun …

Yn eu plith, mae gen i ddwy gerdd, y naill am y ffaith fy mod i'n casáu garddio, a'r llall am oen bach.
Picture

Following the success of previous collections of poems for children from Gwasg Carreg Gwalch by both the current Bardd Plant Cymru and former holders of the post, a new collection has been edited by Casia Wiliam, Pawen Lawen!
0 Comments

Llyfrau newydd: Neidr yn yr Ysgol! + Sgubo

18/6/2018

0 Comments

 
Mae dwy gyfrol newydd i blant wedi eu cyhoeddi gan wasg Atebol, addasiadau gen i o straeon gwych a lliwgar gan David Walliams a Louise Greig (am fwy o lyfrau, clicia fan hyn).

Mae'r cyntaf – Neidr yn yr Ysgol! – yn fersiwn Cymraeg o lyfr poblogaidd iawn gan David Walliams a Tony Ross, There's a Snake in my School! (Harper Collins). Dyma ddisgrifiad o wefan Atebol:

Mae Mirain, y prif gymeriad, yn ferch ysgol sy'n hoffi bod yn wahanol. Ar ddiwrnod 'dewch ag anifail anwes i'r ysgol', mae hi'n penderfynnu dod ag anifail gwahanol iawn gyda hi …

Mae'r ail gyfrol – Sgubo – yn fersiwn Cymraeg o lyfr hynod liwgar gan Louise Greig a Júlia Sardà. Dyma ddisgrifiad o wefan Gwales:

Mae hwyliau drwg Daf bob tro'n dechrau'n fach, fach. Ond ymhen dim, maen nhw'n cyflymu nes eu bod nhw'n sgubo drwy'r dre i gyd. Stori yw hon am blentyn sy'n delio ag emosiynau mawr, a stori i godi'r galon.

​My Welsh adaptations of two brilliant books for children – David Walliams's and Tony Ross's Neidr yn yr Ysgol!, and Louise Greig's and Júlia Sardà's Sgubo – both with Atebol, are now available in the shops and online.
Picture
Picture
0 Comments
<<Previous

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio