Ar 2 Awst, yn absenoldeb yr Eisteddfod Genedlaethol, darlledwyd Oedfa BBC Radio Cymru dan fy ngofal i a Hywel Griffiths. Diolch am gael y cyfle i gydysgrifennu a chydgyflwyno'r rhaglen. A meddwl pawb ar y brifwyl, ro'n i a Hywel yn meddwl y byddai'n briodol rhoi sylw arbennig i ddau ŵr crefyddol dylanwadol o Geredigion, sef y diwygiwyr mawr Daniel Rowland o Langeitho (1713–90), a'r bardd Niclas y Glais (1879–1971), a dreuliodd lawer iawn o'i oes yn Aberystwyth. Gellir gwrando ar y rhaglen tan ddiwedd Awst drwy glicio fan hyn. Ar frig y rhaglen, dyfynnais linellau agoriadol cerdd gan Daniel Rowland a elwir yn 'halsing', sef math o gerdd boblogaidd a ddefnyddid gynt i adrodd straeon beiblaidd. Dyma ddiolch yn fawr iawn i E. Wyn James am anfon ei drawsysgrifiad ef o'r gerdd o'r unig gopi llawysgrif, sef LlGC Cwrtmawr 189, 99 (David Rees, c.1750). Halsing am y Nadolig yw'r gerdd honno, ond doedd dim gwahaniaeth am hynny, mewn gwirionedd, am fod geiriau gwahoddgar Daniel yn addas ar gyfer pob achlysur:
Ar ddiwedd y rhaglen, ceir cyfres o dri englyn gen i sy'n dathlu'r ffaith fod Duw, yn wyneb pob achos o ymbellhau cymdeithasol, yn dod i'n cwrdd ble bynnag yr y'n ni. Dduw ein Tad, rhoddwn i ti – ein diolch O dai ein trybini Am wirionedd y weddi Wydn hon: wyt gyda ni. Sul i Sadwrn, gwnei siwrnai – i’n tai dwys, A tydi yw’r gwestai, Ein Tad, a drawsffurfia’n tai Yn ddi-ildio’n addoldai. Ein Tad, tro heno badell – dy loeren Di i lawr i’n cymell, Tro ei horbit rhy hirbell At ofalon calon cell. Deffrown, Dad, ar doriad dydd – ein gweddi A rown ni o’r newydd, A daw’n ffaith dros dai ein ffydd Wawr lawn o fawr lawenydd. Ceir y tri darlleniad hyn yn y rhaglen hefyd, yn eu trefn: Salm 46; Llythyr Paul at y Philipiaid, pennod 4; Salm 103. The BBC Radio Cymru religious service on 2 August was both written and presented by Hywel Griffiths and I, and includes poems by the Nonconformist preacher from Llangeitho, Daniel Rowland (1713–90), and a poet and minister who spent much of his life in Aberystwyth, Niclas y Glais (1879–1971), as well as a short poem by myself. The programme is available online until the end of August.
0 Comments
Rhifyn mis Mehefin o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac iTunes) yw'r olaf gydag Aneirin yn Llydaw – bydd e a'i deulu'n ôl yng Nghymru erbyn y rhifyn nesaf – ac yntau'n Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru. Yn ogystal â sgwrs Bwnco â'r Bardd Plant Cymru ewydd, Gruffudd Owen, a'r holl eitemau arferol, mae'r rhifyn hwn yn cynnwys sgwrs a recordiwyd yn noson Cicio'r Bar yn Stiwdio Gron Canolfan y Celfyddydau, a hynny rhwng Gruffudd Antur a'r bardd gerddor Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog gynt). Roedd Iwan yn lansio ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Gadael Rhywbeth (Cyhoeddiadau Barddas), ac ef hefyd sy biau'r orffwysgerdd y tro hwn – recordiwyd Iwan yn canu'r gerdd y noson honno. Fe es i hefyd i seremoni Llyfr y Flwyddyn, eto yng Nghanolfan y Celfyddydau, ac fe ges i sgwrs â'r bardd arlunydd bobdimiwr Siôn Tomos Owen am ei gyfraniad e at un o'r cyfrolau ar restr fer y wobr farddoniaeth eleni, Stafell fy Haul (Cyhoeddiadau Barddas) gan Manon Rhys. A sôn am Lyfr y Flwyddyn, mae gen i ddarn ar wefan y Stamp yn trafod y tair cyfrol farddoniaeth a ddaeth i'r brig. Sgwrs hefyd – neu dair sgwrs, a bod yn deg – gan Aneirin o Gouel Broadel a Brezhoneg, sef eisteddfod y Llydawyr, i bob diben.
1. Croeso (am y tro olaf, i Nei, o Lydaw) 2. 12.50 Y Pwnco: sgwrs â'r Bardd Plant Cymru newydd, y prifardd Gruffudd Owen 3. 22.15 Pos rhif 28 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 26.00 Gruffudd Antur yn holi Iwan Huws yn noson Cicio'r Bar 5. 35.15 Yr Orffwysgerdd: Iwan Huws yn canu 'Defodau' 6. 39.10 Sgwrs â Siôn Tomos Owen yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 7. 49.50 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: Gouel Broadel a Brezhoneg 8. 57.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 9. 01.04.55 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – is Aneirin's last from Brittany, and includes an item recorded by him at Brittany's premier cultural festival Gouel Broadel a Brezhoneg, also an interview with the new Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, two recordings from Cicio'r Bar at Aberystwyth Arts Centre, one of Gruffudd Antur in conversation with Iwan Huws about his first collection of poetry, Gadael Rhywbeth (Cyhoeddiadau Barddas), and a recording of a poem from that collection sung by Iwan himself. An interview too from Wales Book of the Year, also at the Arts Centre, with illustrator and poet and master of all trades Siôn Tomos Owen, about his collaboration with Manon Rhys on her shortlisted collection of poetry, Stafell fy Haul (Cyhoeddiadau Barddas).
Mae rhifyn olaf y flwyddyn o bodlediad Clera – ar SoundCloud ac ar iTunes – yn llawn dop! Trosolwg yn gyntaf gan y bardd, y llenor a'r artist Iestyn Tyne, a hynny o'r holl gyfrolau barddoniaeth a gyhoeddwyd eleni, heb anghofio bod Iestyn ei hun wedi cyhoeddi ei ail gyfrol o gerddi eleni, sef Ar Adain (Cyhoeddiadau'r Stamp). Sgwrs wedyn am fy awdl 'Porth', a ddaeth yn ail am y Gadair eleni. Fe gyhoeddwyd yr awdl honno yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barddas ac, os hoffet ti glywed sgwrs arall amdani, y tro hwn ar BBC Radio Cymru rhyngof i a Dei Tomos, yna clicia fan hyn i wrando'r eitem gyntaf mewn rhaglen ddifyr iawn sy ar gael tan 19 Ionawr. Clywir llais swynol Gruffudd Antur yn y pos fel arfer, ond fe'i clywir hefyd yn canu deuawd efo fi mewn clip a recordiwyd yn nhalwrn Siop y Pethe (clicia fan hyn am fwy o hanes y talwrn hwnnw). Casgliad o englynion Nadoligaidd a geir y tro hwn yn yr Orffwysfa, a hynny gan y prifardd o Frynhoffnant, Idris Reynolds. Yn ogystal â'r holl eitemau arferol, roedd lle yng nghynffon y podlediad i un englyn Nadoligaidd arall, y tro hwn gen i fel bardd preswyl Heddlu Dyfed-Powys:
Clywch, lu'r hedd, mae'n wledd drwy'r wlad! Seiniwn gân Noson geni'r ceidwad; Yn y côr, brenin cariad, Dwyfoldeb mewn preseb rhad. 1. Croeso a chlonc 2. 10.10 Pwnco: trosolwg gan Iestyn Tyne o gyfrolau barddoniaeth 2018 3. 18.50 Sgwrs ag Eurig am ei awdl 4. 29.35 Pos rhif 22 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog + clip byr o dalwrn Siop y Pethe (32.30) 5. 34.40 Yr Orffwysfa: detholiad o englynion Nadolig gan y prifardd Idris Reynolds 6. 41.50 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: barddoniaeth Lydaweg 7. 52.30 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 8. 01.03.40 Y Newyddion Heddiw 9. 01.08.45 Englyn i gloi gan Eurig
The last Clera podcast of the year – available on both SoundCloud and iTunes – is a whopper! A review of the year's poetry books by Iestyn Tyne, whose own second collection of poems is available here, an item on my poem 'Porth', which came second in the Chair competition at this year's National Eisteddfod and was published recently in Barddas – another discussion on Dei Tomos's programme on BBC Radio Cymru is available until 19 January – as well as a selection of Christmas englynion by Idris Reynolds.
Ddiwedd Awst eleni, bydd Nei a'r teulu'n ffarwelio â Chymru ac yn ymfudo i Lydaw bell. Am y tro olaf am gryn amser, felly, fe ymlwybrodd y ddau ohonon ni draw i Dafarn Ffostrasol i recordio'r rhifyn diweddaraf o bodlediad Clera (ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes), a hynny yng nghwmni dau fardd lleol o fri, sef Dai Rees Davies ac Emyr Pen-rhiw. Mae'r ddau'n aelodau o dîm talwrn Ffostrasol, un o'r ychydig dimau oedd yn rhan o'r gyfres gyntaf un o Dalwrn y Beirdd BBC Radio Cymru. Diolch am eu cwmni difyr a ffraeth! Bu'r ddau wàg yn feirniaid y llinell gynganeddol inni hefyd, ac fe gyfrannodd Emyr gerdd ysgafn i'r Orffwysfa. Hynny i gyd a'r holl eitemau arferol.
1. Cyflwyniad ac englyn arall o fawl i'r cyfrifydd Llŷr James (07.20) 2. 08.55 Sgwrs â Dai Rees Davies ac Emyr Pen-rhiw (rhan 1) 3. 27.55 Pos rhif 17 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 31.15 Yr Orffwysfa: 'Talu'r Ffein' gan Emyr Pen-rhiw 5. 34.15 Sgwrs â Dai ac Emyr (rhan 2) 6. 46.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 59.20 Y Newyddion Heddiw
Nei's upcoming self-exile in Brittany means that this July's Clera podcast (available on both SoundCloud and iTunes) was the last time in a long time that he and I will muster in Ffostrasol. We went out with the help of two legendary poets who live in the village, Dai Rees Davies and Emyr Pen-rhiw, who are both members of one of the longest-serving teams on BBC Radio Cymru's flagship poetry programme, Talwrn y Beirdd.
I was invited recently to write an article for BBC Cymru Fyw on a regular item in the Clera podcast, namely one in which listeners send in lines of accidental cynghanedd that they've seen or heard anywhere and in any language. The one in the picture above is a good example – the words 'winter – beer is best' form a perfect cynghanedd sain!
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|