eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Llyfr newydd: Canrif yn Cofio (gol. Ifor ap Glyn)

30/8/2017

0 Comments

 
Un o gyfrolau'r haf eleni, ac un o nifer sy'n coffáu Elis Evans, neu Hedd Wyn, a chyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf, yw Canrif yn Cofio (Gwasg Carreg Gwalch), dan olygyddiaeth Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.

Yn ei ragymadrodd, mae Ifor yn olrhain y canu helaeth i Hedd Wyn er dydd ei farw ar feysydd Fflandrys yn 1917, gan roi'r corff eang hwnnw o waith yn ei gyd-destun. Gwahoddwyd ymatebion i'r canmlwyddiant gan 17 o feirdd cyfoes hefyd, yn cynnwys Marged Tudur, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones a Twm Morys.

​Mae cerdd gen i yn eu plith hefyd, sef cyfres o englynion milwr a ddaeth i fod yn sgil gwylio, am y canfed tro, un o hysbysebion y British Army ar y teledu un noson, a minnau'n gofyn i mi fy hun ai dysgu gwersi ynteu gogoneddu rhyfel yw'r nod gan lawer eleni.

Nid yw'r byd yn dysgu dim.
Ar ddioddef mor ddiddim
Gwrendy, heb ddysgu'r undim …
Picture

Canrif yn Cofio (Gwasg Carreg Gwalch), edited by the National Poet of Wales, Ifor ap Glyn, is one of a number of recent publications that commemorate the First World War at the centenary of the death of the poet Elis Evans, or Hedd Wyn, on the fields of Flanders. Ifor's introduction places commemorative poems both past and present in their context alongside new poems by 17 poets, including a poem by me that explores the legacy and glorification of war.
0 Comments

Cerddi newydd: Cyfarch Sonia + Cyfarch Aneirin

30/8/2017

0 Comments

 
Picture
Eryri o Gors Malltraeth ym Môn
A hithau'n ddiwedd Awst a'r Eisteddfod Genedlaethol yn araf droi'n atgof pell – mae'n dymor cyfarch. Dyma roi ar y wefan ddwy gerdd gyfarch, un yn newydd sbon a'r llall ychydig yn hŷn. Mae'n siŵr y daw mwy maes o law!

Mae'r gerdd gyntaf yn un a luniais i ar faes yr Eisteddfod ym Môn ddydd Mercher yr ŵyl, a hynny i'w darllen ym mhrif seremoni'r dydd fel enillydd y Fedal Ryddiaith y llynedd, er clod i'r enillydd newydd eleni, sef Sonia Edwards o Gemaes. Clicia fan hyn i ddarllen y tri englyn.

Mae'r ail gerdd yn flwyddyn oed bellach – cywydd i longyfarch Aneirin Karadog, f'annwyl gyd-bodlediwr, ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau y llynedd. Darllenwyd y gerdd mewn noson i gyfarch Aneirin – ynghyd â nifer o enillwyr eraill o Sir Gâr – yng Nghlwb y Cwins yng Nghaerfyrddin fis Medi 2016. Clicia fan hyn i ddarllen y cywydd.

The busyness of the National Eisteddfod usually gives way by the end of August to the work of celebrating the winners of the main prizes. Here are two poems, the first to this year's Prose Medal winner – Sonia Edwards – and the second to last year's Chair winner and fellow-podcaster extraordinaire – Aneirin Karadog.
0 Comments

Podlediad Clera #11 Awst 2017

16/8/2017

0 Comments

 
Cafodd rhifyn mis Awst o bodlediad Clera ei recordio'n fyw yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Môn. Mae'r cyfan, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Dyma'r eildro mewn dau fis inni recordio'n fyw, ar ôl ein hymweliad â'r Sesiwn Fawr yn ôl ym mis Gorffennaf. A hithau'n Sadwrn olaf y brifwyl, roedd y croeso a gawson ni yn y Babell Lên gystal ag unrhyw ffisig i'n cadw ni'n ffres ar ddiwedd wythnos brysur iawn ar gyrion Bodedern! Mae'r arlwy o'r maes yn cynnwys sgwrs ddifyr iawn ag enillydd y Goron, Gwion Hallam (mae'r bryddest fuddugol ar gael i'w darllen fan hyn), cerdd newydd sbon gan enillydd Tlws D. Gwyn Evans, Morgan Owen, a deng munud o giamocs gwych gydag Anni Llŷn ac Endaf Griffiths. Diolch i bawb am gyfrannu, a diolch hefyd i griw a chynulleidfa'r Babell Lên – ro'n i a Nei ar ben ein digon!

1. Pwnco: sgwrs â bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Môn, Gwion Hallam
2. 15.25 Yr Orffwysfa: cerdd fuddugol cystadleuaeth Tlws D. Gwyn Evans, 'Gwyfyn' gan Morgan Owen
3. 19.50 Pos rhif 6 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 23.30 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
5. 33.10 Gemau a Giamocs gydag Anni Llŷn ac Endaf Griffiths
6. 43.00 Y Newyddion Heddiw

This month's Clera podcast – available on both SoundCloud and iTunes – was recorded live at the National Eisteddfod of Wales on Anglesey. We catch up with the winner of the Crown competition, Gwion Hallam, and enjoy a brand new poem by Morgan Owen, the winner of the D. Gwyn Evans prize for poets under 25. Both Anni Llŷn and Endaf Griffiths pitch in too with hilarious new takes on well-known poems – and much more!
0 Comments

Podlediad Cysylltiadau Barddonol #4 | Poetry Connections podcast #4

14/8/2017

0 Comments

 
Recordiwyd y pedwerydd podlediad Cysylltiadau Barddonol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn. Er bod Sampurna Chattarji wedi ymweld â Chymru droeon o'r blaen, dyma oedd ei hymweliad cyntaf â'r brifwyl, a hynny ddydd Iau, pan gyhoeddwyd enillydd yr Her Gyfieithu, a dydd Gwener, diwrnod y cadeirio. Hon yw'r sgwrs olaf rhyngof i a Sampurna yma yng Nghymru fel rhan o'r prosiect hwn – bydd y podlediad nesaf yn cael ei recordio yn India ddiwedd Hydref, pan fyddaf i'n ailymuno â Sampurna yn Kolkata. Tan hynny, mwynha'r sgwrs ddifyr hon am ymrysona, am gerrig yr Orsedd ac am ganu'n iach!

​The fourth Poetry Connections podcast was recorded at the National Eisteddfod on Anglesey. Sampurna Chattarji has visited Wales many times, but this was her first visit to the Eisteddfod, an annual cultural celebration of everything Welsh. I'm glad Sampurna got to see the Eisteddfod in the sun on Thursday, when the winner of the Translation Challenge was announced, and the prestigious chairing ceremony more than made up for the change in weather on Friday. This edition of the podcast will be the last recorded in Wales as part of this project – the next will be recorded in India at the end of October, when Sampurna and I will be reunited in Kolkata. Until then, enjoy this latest conversation about poetry competitions, the Gorsedd of the Bards and singing farewell!
0 Comments

Gwestai pen blwydd ar raglen Dewi Llwyd fore Sul

6/8/2017

0 Comments

 
Fe ges i'r fraint ar Sul cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn i fod yn westai pen blwydd ar raglen Dewi Llwyd fore Sul ar BBC Radio Cymru. Braf iawn hefyd oedd croesawu Dewi Llwyd a chynhyrchydd y rhaglen, Marian Ifans, i'r tŷ yn Aberystwyth rai wythnosau'n ôl am sgwrs ddifyr iawn – diolch ichi'ch dau! Mae'r sgwrs ar gael i'w gwrando drwy glicio fan hyn (tua 48.20 mund i mewn i'r rhaglen), a hynny tan ddiwedd Awst.
Picture

I was honoured on Sunday to be the birthday guest on Dewi Llwyd's Sunday morning programme on BBC Radio Cymru, which is available online by following the link above.
0 Comments
<<Previous

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio