eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Llyfr newydd: Taliesin

25/3/2016

0 Comments

 
Mae rhifyn newydd o gylchgrawn llenyddol Taliesin wedi cyrraedd y tŷ, a'i glawr gwyrdd golau'n dod â'r gwanwyn drwy'r drws. Ond mae a wnelo'r rhifyn hwn fwy â diwedd pethau na'u dechrau, yn anffodus, gan mai hwn yw'r rhifyn olaf o Taliesin​ yn ei ffurf bresennol. Mae'r ddwy olygyddes, Angharad Elen a Siân Melangell Dafydd, yn rhoi'r gorau i'r gwaith ar ôl chwe mlynedd, a bu'r cais i adnewyddu'r grant i barhau â'r cylchgrawn yn aflwyddiannus. Fel y dywedir yn y golofn olygyddol:

Er mai siom a chwithdod garw yw gweld y cylchgrawn hwn yn dod i ben ar ôl 55 mlynedd di-dor, hel mwg i sachau fyddai hiraethu a marwnadu. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y Cyngor Llyfrau wedi ei gweld hi'n iawn i ddyfarnu grant i gyhoeddiad llenyddol newydd, cyffrous.

Enw'r cyhoeddiad newydd hwnnw yw O'r Pedwar Gwynt, dan olygyddiaeth Sioned Puw Rowlands, Owen Martell a Mari Siôn, gyda chefnogaeth gan Brifysgol Bangor a PEN Cymru. Bydd y rhifyn cyntaf yn ymddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy ym mis Awst eleni.

Roedd bob tro'n wefr gweld fy ngwaith wedi ei gyhoeddi rhwng cloriau Taliesin. Rwy'n falch i ddweud, er mor rhyfedd yw cyfaddef hynny, fy mod i'n rhan o'r rhifyn olaf hwn, lle ceir adolygiad gen i o'r ail becyn yng nghyfres Yr Hen Lyfrau Bach (gol. Dafydd Glyn Jones). Braf medru dweud imi gael blas mawr ar y pedair cyfrol newydd yn y gyfres, lle cyflwynir testunau dethol gan Lloyd George, Omar Kayyâm/John Morris-Jones, Twm o'r Nant a Goronwy Owen.

Roedd bob tro'n braf pori drwy gynnwys y cylchgrawn hefyd, ac nid yw'r rhifyn hwn yn eithriad. Dwi eisoes wedi cael blas ar gyfraniadau amrywiol gan Twm Morys, Robin Llywelyn, Karen Owen a Sian Northey ... mynnwch gopi, a mwynhewch!
Picture

The latest issue of Taliesin, the Welsh literary magazine founded in 1961, will be the last, its funding having been recently withdrawn. A new publication will, however, come in its place. The first issue of Y Pedwar Gwynt, supported by Bangor Unversity and Wales PEN, will be launched at the National Eisteddfod in Monmouthshire this August. The current issue of Taliesin contains my review of four new books in the Hen Lyfrau Bach series, namely editions of work by Lloyd George, Omar Kayyâm/John Morris-Jones, Twm o'r Nant and Goronwy Owen.

Picture
0 Comments

Llyfr Newydd: Geiriau Bach Chwareus

19/3/2016

0 Comments

 
Mae cyfrol newydd o farddoniaeth i blant yn y siopau - Geiriau Bach Chwareus gan Wasg Carreg Gwalch. Prif awdur y gyfrol, a'r un sy'n gwenu ar y clawr, yw Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru 2015-17. Fel mae Anni yn ei ddweud yn ei chyflwyniad i'r gyfrol:

Mae pob un ohonan ni wedi chwarae ryw dro ... Mae beirdd yn chwarae bob dydd. Chwarae efo geiriau, chwarae efo dychymyg, chwarae efo delweddau. Ond plant ydi'r gorau am chwarae ... Dyma gasgliad o gerddi chwareus gan feirdd chwareus i blant chwareus!

Mae'r gyfrol yn cynnwys cerddi gan bob un o gyn-Feirdd Plant Cymru - tri ar ddeg ohonyn nhw i gyd, o Myrddin ap Dafydd i Mererid Hopwood - yn ogystal â cherddi gan Geraint Løvgreen, Mari Løvgreen a phlant Adran yr Urdd, Llithfaen. Yn eu plith mae dwy gerdd gen i, y naill yn sôn am y boen o orfod golchi esgidiau pêl-droed budur a'r llall am y peryglon o ennill gemau bwrdd ...

Os wyt ti'n hoffi chwarae, cofia brynu'r gyfrol, a mwynha'r darllen!
Picture

Geiriau Bach Chwareus (Gwasg Carreg Gwalch) is a new collection of playful poetry about playing by those who spend most of their time playing with words - poets! Specifically the current Bardd Plant Cymru (Welsh Children's Laureate), Anni Llŷn, as well as thirteen other poets who have held the post. I contributed two poems, one about neglecting to clean my football boots and the other about the perils of winning board games ...
0 Comments

Cerdd newydd

12/3/2016

0 Comments

 
Heddiw mae Cymru'n chwarae Lloegr yn eu gêm olaf ond un ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016. Dyma achub ar y cyfle i roi cerdd newydd ar y wefan, sef cyfres o englynion a luniais i ar gyfer y tîm rygbi cenedlaethol yn ôl yn 2012, a hynny ar gais rhaglen Dafydd a Caryl ar BBC Radio Cymru. Pob lwc bois!
Picture

To mark the fact that Wales are playing England today in the Six Nations, I've posted a new poem on the website, one I wrote for the national rugby team back in 2012 for Dafydd and Caryl's programme on BBC Radio Cymru. Come on bois!
0 Comments

Fideo: Y Llew tu Mewn

3/3/2016

0 Comments

 
Y llynedd fe ofynnodd gwasg Atebol imi addasu llyfr lliwgar i blant dan saith oed gan Rachel Bright a Jim Field o'r enw The Lion Inside (Orchard Books). Daeth Y Llew tu Mewn o'r wasg fis Chwefror eleni, a chael ei enwi'r gwerthwr gorau ar gyfer y mis hwnnw yng nghategori llyfrau Cymraeg i blant. Dyma ddisgrifiad gwefan Gwales:

Llyfr stori gynnes gyda thestun sy'n odli ac sydd hefyd â neges arbennig i'w dysgu. Y prif gymeriad yw llygoden fach sy'n ceisio ennill ei phlwyf yng nghanol yr anifeiliaid mawr! Ar ddiwedd y daith mae'n darganfod ei llais ei hun ac yn dysgu bod gan bob anifail, boed fawr neu fach, ran bwysig i'w chwarae yn y byd.

Mae'r testun Cymraeg wedi ei osod ochr yn ochr â'r testun Saesneg, ac felly'n arbennig o ddefnyddiol i blant a rhieni nad ydynt yn rhugl yn yr iaith.

Rai wythnosau'n ôl fe ymunais i â dau o staff Atebol, Heulwen a Lleu, yn nhafarn a bwyty'r Llew Du yn Nhal-y-bont i ffilmio fideo 'Amser Stori'. Mae fideos eraill tebyg i'w gweld ar sianel YouTube Atebol. Dyma'r fi, felly, yn darllen stori Y Llew tu Mewn - mwynhewch!

Clicia fan hyn i weld fideo arall ohonof i'n darllen stori arall i blant dan saith oed, Deg Deinosor Bach.

Clicia fan hyn i weld mwy o lyfrau gen i.
Picture

A video of me reading Y Llew tu Mewn, my recently published adaptation of The Lion Inside (Orchard Books), a great book by Rachel Bright and Jim Field for children under seven. Other similar videos are available on the publisher Atebol's YouTube channel. Like my other recent adaptation, Deg Deinosor Bach (click here for the video), this is and ideal book for fluent Welsh speakers and learners alike, as texts in both Welsh and English are shown side by side. Click here for more books.
0 Comments

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio