Mae rhifyn mis Mai o bodlediad Clera – sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – yn llawenhau fod y mis hyfryd hwnnw wedi cyrraedd o'r diwedd ac, yn ei sgil, ddigonedd o heulwen a chanu adar. Bydd llawer ohonoch wedi gweld fod yr Eisteddfod AmGen yn mynd o nerth i nerth ar lein, a ches i a Nei flas arbennig ar gyflwyniad Peredur Lynch yn yr eisteddfod rithiol honno, sef 'Awdlau'r Eisteddfod Genedlaethol – y Gorau a'r Gwaethaf'. Cawson ni'n hysbrydoli i feddwl pa awdl neu gasgliad, o blith y deunaw sy wedi eu gwobrwyo'r ganrif hon, fyddai'n dod i'r brig gynnon ni. Dewisais i 'Lloches', awdl fuddugol Ceri Wyn Jones yn 2014, ac aeth Nei am ddilyniant arobryn Myrddin ap Dafydd yn 2002, ac fe gawson ni hwyl yn dadlau'n hachos yn ein tro. Yn y rhifyn hwn, ceir hefyd bos newydd sbon gan Gruffudd Antur, disgrifiad arbennig gan Rhys Iorwerth o'r modd y mae o'n mynd ati i greu ac nid un ond dwy gerdd gan y Bardd Cenedlaethol ei hun, Ifor ap Glyn.
Cyflwyniad: 'Mawr a fydd, myn Mair, ei fod, / Mai, fis difai, yn dyfod'!
08.00 Y Pwnco: Aneurig yn dadlau achos dwy awdl eisteddfodol o fri 46.00 Pos rhif 39 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 50.35 Yr Orffwysgerdd: 'Cyd-ddiarhebu auf Deutsch' gan Ifor ap Glyn 45.35 Bardd yn y Bath: Rhys Iorwerth 01.01.05 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 01.09.25 Y Newyddion Heddiw 01.16.20 Cerdd arall gan Ifor ap Glyn: 'Pellter'
To celebrate the month of May, the latest Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – gives the songbirds a run for their money! Over 75 minutes of chat, including mine and Aneirin's pick of the winning poems in the Chair competition this century, Rhys Iorwerth sharing how he goes about writing poetry, and not one but two poems by the National Poet of Wales, Ifor ap Glyn.
0 Comments
My response below to the Independent Review of Support for Publishing and Literature in Wales (published on 13 June) chimes with much of what has been said recently about this increasingly infamous review. My standpoint highlights issues relating specifically to Welsh-language literature, and Welsh-language poetry in particular. I conclude that the main recommendations of this defective review, if adopted, would be detrimental to literature in Wales. Ar 13 Mehefin, cyhoeddwyd Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru. Cafwyd ers hynny rai ymatebion i’r adolygiad, a phob un mewn cywair pur feirniadol, yn cynnwys darn gochelgar gan Jasmine Donahaye ar Nation.cymru ac un cignoeth o onest gan Gary Raymond ar wefan Wales Arts Review. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ddatganiadau’n bwrw amheuaeth ar ddilysrwydd yr adolygiad. Dyma ychwanegu at y lleisiau hynny, a hynny’n benodol o safbwynt llenyddiaeth Gymraeg, a barddoniaeth Gymraeg yn arbennig. Yr un yw’r casgliad cyffredinol, sef y gallai prif argymhellion yr adroddiad, pe baen nhw’n cael eu rhoi ar waith – sef diraddio Llenyddiaeth Cymru, i bob diben, drwy ddyrchafu cyhoeddi uwchlaw pob gweithgaredd llenyddol arall a throsglwyddo gwaith y corff hwnnw i ofal Cyngor Llyfrau Cymru – wneud fwy o ddrwg nag o dda. Gair yn gyntaf am faterion elfennol. Ni welodd neb yn dda i brawfddarllen y ddogfen hon cyn ei chyhoeddi. Nid yw’r fersiwn Cymraeg ond cyfieithiad herciog o’r fersiwn Saesneg diofal. At hynny, mae’r adolygiad ar ei hyd yn rhyfedd o anghydnaws â’r hyn y mae’n ei ddadansoddi. Ni cheir yma fynegiant eglur na huawdl – un o rinweddau unrhyw awdur gwerth ei halen – nac ychwaith ddylunio o ansawdd. Yn eironig, cyfeirir yn yr adolygiad at ddyluniad llyfrau Cymraeg fel maes sydd wedi gwella dan arweiniad y Cyngor Llyfrau (CLl), ond clod trwsgl o nawddoglyd ydyw sy’n cymharu llyfrau Cymraeg ‘ag enghreifftiau gwell o ddylunio mewn cyhoeddiadau Saesneg’ (tudalen 60). Noder fod dylunio gwael yn rhemp ddigon yn y farchnad lyfrau Saesneg, ond ei fod yn anos ei weld gan mor enfawr yw’r byd hwnnw. Ceir isleisiau annifyr eraill yn yr un cywair yn y mynych gyfeiriadau at y diwydiant cyhoeddi ‘nid nepell oddi wrthym’ (43; ‘just up the road’) yn Llundain, a hynny yng nghyd-destun rhoi cymorth i lyfrau Saesneg yng Nghymru. Druan â Chyngor Llyfrau Cymru yn hynny o beth, ddwedaf i, sydd wedi ei leoli yng Nghymru, o bob man, a hynny yn Aberystwyth ‘ymhell iawn o ddiwydiant cyhoeddi masnachol bywiog Llundain’ (60). Nodir fwy nag unwaith yn yr adolygiad oruchafiaeth amlwg Llundain yn y byd cyhoeddi yn Saesneg, ond un ffaith hollbwysig nas nodir yw bod blaenoriaethau’r byd hwnnw’n sylfaenol anghydnaws â’r hyn a oedd gan Lywodraeth Cymru ei hun mewn golwg wrth gomisiynu’r adolygiad yn y lle cyntaf, sef ‘cefnogi’r diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, yn y ddwy iaith’ (15). Ai gormod disgwyl i adolygiad fel hwn nodi’r angen am bolisïau i wrthweithio’r effaith Lundeinig andwyol ar y byd cyhoeddi yng Nghymru, yn hytrach nag eilunaddoli gweisg disglair y brifddinas? Cyfeirir yn yr un gwynt at ddenu ‘awduron adnabyddus fel Ian Rankin … a Griff Rhys Jones’ i wyliau llenyddol annibynnol, fel pe bai hynny ynddo ei hun yn fesur o lwyddiant. Sonnir hefyd am lwyddiant anghyffredin gwasg Canongate yng Nghaeredin, un o’r ychydig weisg y dywedir ei bod wedi ffynnu y tu allan i Lundain, a hynny am iddi gael ei phrynu gan ‘unigolyn cyfoethog iawn a oedd yn gallu cefnogi’r cwmni drwy rai cyfnodau anodd’ (56). Da iawn nhw, ond pa ots i Gymru brin ei noddwyr cefnog? Saif y paragraff cyfan mewn gwagle, heb ymgais i’w glymu’n synhwyrol â’r drafodaeth o’i gwmpas. Os y nod oedd gwneud pwynt ehangach ynghylch cyflwr truenus y nawdd a gynigir i’r byd cyhoeddi yng Nghymru, fe’i methwyd. Ac yn wir fe’i methwyd mewn rhannau eraill o’r adolygiad hefyd, er gwaethaf y ffaith fod y ddogfen wedi ei phupro o bob tu â chyfeiriadau at doriadau cyllid a phwysau ariannol (51, 61, 66, 69, 70, 86, 88). A dilyn y ffigyrau a nodir yn yr adolygiad, gellir cyfrif fod £5.8m o nawdd cyhoeddus yn cael ei roi i lenyddiaeth Gymraeg a Saesneg yng Nghymru drwy Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) a’r CLl. Yn 2016–17, rhoddwyd £2.2m i lenyddiaeth o gyllideb CCC, sef £46.6m, a ariennir drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru ac arian y loteri (25). O’r £2.2m hwnnw, rhoddwyd £1.2m drwy law CCC i Lenyddiaeth Cymru (ceir y ffigwr ar dudalen 33, er nodi ffigyrau eraill yn gamarweiniol ar dudalen 30), a £20,000 i Gyfnewidfa Lên Cymru (34). Rhoddwyd £3.6m i’r CLl gan Lywodraeth Cymru (17). Mae’r cyfanswm hwnnw o £5.8m gyfystyr â 0.04% o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017–18, neu 0.0008% o wariant y Deyrnas Unedig ar gyfer 2016–17. A rhoi’r peth mewn geiriau eraill, pe dyblid y gyfran o nawdd cyhoeddus a roir i lenyddiaeth, ni fyddai hynny, hyd yn oed, ond gyfystyr â 0.08% o gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae’r ganran a roir i lenyddiaeth Gymraeg fel rhan o’r 0.04% hwnnw’n llai fyth, wrth reswm. Cyfeirir yn awgrymog yn yr adolygiad at ‘bwysigrwydd cyllid priodol … i hyrwyddo ac annog cyfleoedd arloesol’ (82). Ie wir, beth yn union yw’r cyllid priodol ar gyfer cynnal diwylliant iaith leiafrifol, heb sôn am annog arloesi yn y diwylliant hwnnw er mwyn diddanu ystod eang o bobl o bob oed? Gwneud gwyrthiau â’r hyn yr y’n ni’n ddigon ffodus i’w gael yw’r ateb, fe ymddengys. Cymerer y papurau bro fel enghraifft. Rhoir iddynt lai na £90,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, swm chwerthinllyd o fach ac ystyried mai’r papurau bro, yng ngeiriau’r adolygiad, yw’r ’unig ddeunydd Cymraeg y mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn ei ddarllen’, a’u bod yn ‘hanfodol’ (41, 79). Gyda golwg ar Lenyddiaeth Cymru’n benodol (LlC), y cwestiwn sy’n gweiddi’n fud o dudalennau’r adolygiad yw sut yn y byd y mae’r corff hwnnw’n llwyddo i wneud cymaint â chyllideb gymharol bitw o £1.2m? Yn hytrach fe wastrodir LlC – y corff sy’n derbyn y swm lleiaf o nawdd o’r tri a drafodir yma – yn ddidrugaredd er gwaethaf rhestru’n faith ei holl weithgareddau a chyfrifoldebau amrywiol ar dudalennau 29–34. Yn wir, ceir yr argraff nad yw’r adolygiad bob tro’n iawn ddeall yr hyn y mae LlC yn ei wneud – nid ‘Awdur Pobl Ifanc’ yw teitl y swydd a weinyddir gan LlC, ond Awdur Ieuenctid Cymru, a Sophie McKeand yw’r deiliad presennol, nid ‘Sophie McFinne’ (33). Gallaf i fel awdur dystio i bwysigrwydd y gweithgarwch diwyd hwnnw, ac nid eithriad ydw i yn hynny o beth. O’r Her 100 Cerdd i gyrsiau preswyl Tŷ Newydd i gynllun Awduron ar Daith (sydd wedi bod heb gyllid digonol ers blynyddoedd), mae LlC wedi rhoi cyfleon gwerthfawr i mi ac i lawer o awduron eraill er mwyn datblygu gyrfa lenyddol. Rydw i wedi bod yn ffodus i gael cyfleon tebyg gan y CLl a CCC, ynghyd â Chyfnewidfa Lên Cymru, ond mae LlC yn unigryw o ran y cymorth y mae’n ei roi i awduron ifanc ar eu prifiant. Felly hefyd yn achos Tŷ Newydd yn benodol – a drinir, yn rhyfedd ddigon, fel pe bai’n sefydliad er elw (65–6) – sy’n hynod werthfawr yn anad dim o ran y cwrs preswyl i enillwyr yr Urdd a gynhelir yno’n flynyddol. Gyda’i gilydd, mae’r holl gyrff yn darparu cymorth i awduron ar hyd y daith ar fwy nag un platfform. Yn ateb i’r cwestiwn a ofynnir yn yr adolygiad o ran sicrhau budd o gefnogaeth ariannol y llywodraeth – ‘A yw’r cyllid hwn yn cyfrannu at lwybrau talent i awduron?’ (11) – gallaf ateb yn ddiolchgar, ‘ydi’. Ac ystyried y cyfleon amrywiol y mae LlC yn eu cynnig i awduron, rhaid cydsynio’n llawn â phrif gollfarn Gary Raymond ar yr adolygiad, sef fod ei ddiffiniad o lenyddiaeth yn druenus o gyfyng. Er gwaethaf enwi ‘cyhoeddi a llenyddiaeth’ yn nheitl yr adolygiad, y cyntaf o’r ddau’n unig a brisir ynddo. Yn wir, amheuir weithau a oes gan yr adolygiad afael ar yr hyn yw llenyddiaeth. ‘Mae tirwedd llenyddiaeth yn dechrau gyda’r awdur ac yn gorffen gyda’r darllenydd (neu i’r gwrthwyneb)’ (5) – beth yn y byd yw ystyr hynny? Cymerir yn ganiataol drwy’r adolygiad fod pob awdur yn torri ei fol eisiau cyhoeddi, a hynny yn wyneb dadleuon i’r gwrthwyneb gan LlC ynghylch pwysigrwydd cynnal ‘ecoleg’ lenyddol amrywiol (34) a ‘datblygu cynulleidfaoedd’ (64), a’r ffaith nad yw ‘llenyddiaeth yn perthyn i’r llyfr cyhoeddedig yn unig ond y [sic] gellir ei llefaru, ei pherfformio’ (31). Fe’u hanwybyddwyd. Ni ellir gwadu pwysigrwydd cyhoeddi – mae’n allweddol, wrth reswm – ond nid oes dim i’w ennill o anwybyddu’r holl ffyrdd eraill sydd o greu a gwerthfawrogi llenyddiaeth yng nghysgod y byd cyhoeddi. A dyma berygl yr adolygiad o safbwynt nawdd i farddoniaeth Gymraeg. Mae’r adolygiad yn ymfalchïo ar y naill law yn y ffaith fod gan Gymru ‘un o’r traddodiadau llenyddol a llafar hynaf yn Ewrop’ (15), ond ar y llaw arall yn dod i’r casgliad ysgubol nad ‘prif swyddogaeth llenyddiaeth yw cyrraedd cynulleidfaoedd drwy berfformiad’ (73). Dyma ddatganiad rhyfeddol sy’n dadlennu anallu’r adolygiad i roi sylw teg i wahanol rannau o’r byd llenyddol yng Nghymru. A dilyn y farn fod y ‘rhan fwyaf o lenyddiaeth yn cael ei greu [sic] drwy brofiad y darllenydd’ yn hytrach na thrwy ‘ddigwyddiadau llenyddol byw’, mae barddoniaeth Gymraeg ar ei cholled. Y gwir amdani yw bod llawer iawn o farddoniaeth Gymraeg gyfoes yn gweld golau dydd am y tro cyntaf mewn digwyddiadau o bob math ar lawr gwlad, a hynny flynyddoedd lawer cyn i’r farddoniaeth honno gael ei rhoi rhwng dau glawr, os digwydd hynny o gwbl. Mae nawdd ac arbenigedd LlC yn aml yn allweddol o ran cynnal y gweithgarwch hwnnw. Nid bod LlC yn ddifrychau yn hynny o beth – ceir o hyd le i wella, ac nid yw pob menter yn rhwym o weithio – ond mae gwaith y corff o’r hyn lleiaf yn cydnabod yr elfen lafar gref a berthyn i farddoniaeth Gymraeg, ac yn ymdrechu i’w meithrin. Ni waeth beth a ddigwydd yn y dyfodol ar sail argymhellion yr adolygiad hwn neu fel arall, rhaid sicrhau fod y gefnogaeth hanfodol hon i farddoniaeth Gymraeg nid yn unig yn cael ei diogelu, ond ei hymestyn hefyd. Yn wir, mae’r agwedd lafar hon ar farddoniaeth Gymraeg yn ei chynnig ei hun yn naturiol ar gyfer arloesi ar lein, sef un o’r meysydd a archwilir yn yr adolygiad. Ac ystyried fod llawer o gerddi’n cael eu noddi drwy nosweithiau barddol neu gomisiynau achlysurol, dyweder, gellid rhoi mwy o bwyslais ar drosglwyddo’r gwaith hwnnw’n syth i lwyfannau ar lein, naill ai drwy fideo neu bodlediad, neu’n syml gopïau o’r cerddi. LlC yn amlwg yw’r corff mwyaf addas ar gyfer rhoi hynny ar waith. O safbwynt llenyddiaeth yn gyffredinol, gwelir perygl hefyd yn yr argymhelliad dryslyd ar dudalennau 66–7 y dylid cyfuno’r ysgoloriaethau a weinyddir gan LlC â’r grantiau a weinyddir gan y CLl. Mae’r adolygiad yn cymeradwyo’r naill fel system sy’n ‘gweithio’n dda iawn’, ac yn collfarnu’r llall am fod yn ‘aneglur’, ond yn yr un gwynt fe geryddir LlC yn hallt am ei waith yn hynny o beth. Ymhle mae’r gwir, felly? A yw’r cynllun ysgoloriaethau’n llwyddiant ai peidio? A dilyn argymhellion yr adolygiad (83), fe roid yr holl ysgoloriaethau yng ngofal y CLl, gan ddiddymu’r math o ysgoloriaethau a weinyddir yn dda, fe dybir, gan LlC. Go brin fod disgwyl i’r CLl weinyddu’r ysgoloriaethau a weinyddir ar hyn o bryd (yn briodol ddigon) gan LlC, sef rhai a roddir i awduron er mwyn eu galluogi i greu heb iddynt orfod o reidrwydd ymwneud â chyhoeddwr. Nid da gan yr adolygiad y math hwnnw o nawdd, fel y gwelwyd eisoes, ond mae’n allweddol i lenorion nad ydynt â’u bryd ar gyhoeddi yn y dull traddodiadol. Fe ddylid, cyn cloi, gymeradwyo rhai argymhellion sy’n amlwg yn taro deuddeg. Mae’n sicr yn hanfodol fod y byd llenyddol yng Nghymru’n chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd CBAC (56, 89). Felly hefyd o ran annog mwy o gydweithio rhwng gwahanol ddisgyblaethau yn y diwydiannau creadigol, o ddarlunio i olygu i ffilmiau (56). Croesawir hefyd yr anogaeth i gyfieithu mwy o lenyddiaeth Gymraeg i’r Saesneg ac i ieithoedd eraill (89). Er gwaethaf hynny, dywedwyd digon eisoes i ddangos diffygion sylfaenol yr adolygiad esgeulus hwn. Gellid dweud llawer mwy, ond rhaid tewi yn rhywle. Ni ellir ond annog yr Ysgrifennydd dros yr Economi i’w anwybyddu a chomisiynu adolygiad newydd yn ei le. Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar wefan Wales Arts Review ar 16 Gorffennaf.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|