Daeth megis seren wib bodlediad Clera ola'r flwyddyn! Ac mae'n stoncar – sgwrs ddifyr iawn â'r bardd a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, Llŷr Gwyn Lewis (gelli ddarllen ei awdl yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barddas), cywydd Nadoligaidd newydd sbon gan Anwen Pierce a'r holl eitemau arferol. At hynny, fe wahoddwyd Clera gan yr Urdd i recordio eitem am weithdy a gynhaliwyd yn y ddinas gyda'r prifardd Osian Rhys Jones a chriw o ddisgyblion lleol, a hynny ar gyfer llunio cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. Diolch yn arbennig i Llio Maddocks am fod yn ohebydd gwych inni! Bydd y cywydd gorffenedig yn cael ei gyhoeddi ar Clera yn y gwanwyn. Mae'r podlediad, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes neu, yn symlach fyth, isod.
1. Pwnco: englyn newydd sbon i'n noddwr hael, Llŷr James (05.00), a sgwrs â Llŷr Gwyn Lewis am yr awdl a anfonodd i gystadleuaeth y Gadair eleni (06.30) 2. 27.40 Pos rhif 10 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 33.00 Yr Orffwysfa: cywydd am ddeuoliaeth y Nadolig gan Anwen Pierce 4. 35.20 Eitem am yr hwyl o greu cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 5. 41.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 47.05 Y Newyddion Heddiw
The last Clera podcast of the year – available on both SoundCloud and iTunes – includes a fascinating interview with Llŷr Gwyn Lewis about a poem he sent to this year's Chair competition at the National Eisteddfod, a brand new poem by Anwen Pierce and an item on a poetry workshop held in Cardiff with the poet Osian Rhys Jones.
0 Comments
A'r gaeaf yn chwibanu yn nhwll y clo, daeth podlediad Clera mis Tachwedd i gynhesu'r tŷ! Neu'r car, o leiaf, oherwydd fe recordiwyd y rhifyn hwn – sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – yn fy nghar, mewn maes parcio stormus ar dir hen gastell yn Sir Gâr … Ta waeth, fe ges i a Nei gyfle i drafod yr hyn ry'n ni'n dau wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar, o seremoni Llyfr y Flwyddyn i daith i India. Mae'r rhifyn hefyd yn cynnwys dwy sgwrs ddifyr iawn, y gyntaf â rhai o Gywion Cranogwen – prosiect barddonol newydd gan griw o ferched sy'n cyfuno celf, cerddoniaeth a cherddi – a'r ail â Brigitte Cloareg o Lydaw, ynghyd â'r holl eitemau arferol. At hynny, fe fanteision ni ar y ffaith fod Clera wedi derbyn nawdd yn ddiweddar – gan y cyfrifydd hael Llŷr James – i gomisiynu cerdd newydd sbon gan neb llai na'r prifardd Emyr Lewis.
1. Pwnco: ail englyn o fawl i Llŷr James, ein noddwr hael (01.10), eitem o seremoni Llyfr y Flwyddyn (03.50) a sgwrs am y lle sy'n cael ei roi i farddoniaeth ar y cyfryngau Cymraeg (09.55) 2. 20.50 Pos rhif 9 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 24.15 Yr Orffwysfa: cerddi newydd sbon am Brexit gan y prifardd Emyr Lewis 4. 29.00 Sgwrs â rhai o Gywion Cranogwen am eu taith ddiweddar 5. 42.05 Sgwrs â'r Llydawes Brigitte Cloareg 6. 48.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 56.50 Y Newyddion Heddiw 8. 57.50 Llais Brigitte Cloareg yn canu englynion coffa Hedd Wyn gan R. Williams Parry
This month's Clera podcast – available on both SoundCloud and iTunes – was recorded in a sodden carpark somewhere in deepest, darkest Carmarthenshire … but the content is anything but soggy! Interviews with Cywion Cranogwen, a new all-girl poetry project, and Brigitte Cloareg from Brittany, as well as brand spanking new poetry by Emyr Lewis.
This poem was read at an evening to celebrate the successes of five former students of Aberystwyth University at the National Eisteddfod of Wales on Anglesey in August. The poem, written by myself, Hywel Griffiths and Iwan Rhys, congratulates our fellow-clerwr, Osian Rhys Jones, on winning the Chair.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|