eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Fideo: Deg Deinosor Bach

27/2/2016

0 Comments

 
Ddechrau'r mis fe dderbyniais i gopi o lyfr lliwgar i blant dan saith oed roeddwn i wedi ei addasu ar gyfer gwasg Atebol - Deg Deinosor Bach. Rai wythnosau'n ôl fe ymunais i â dau o staff Atebol, Heulwen a Lleu, yn nhafarn a bwyty'r Llew Du yn Nhal-y-bont i ffilmio fideo 'Amser Stori'. Mae fideos eraill tebyg i'w gweld ar sianel YouTube Atebol. Mae fideo Y Llew Tu Mewn ar y ffordd hefyd ond, am y tro, dyma fi'n darllen stori Deg Deinosor Bach - mwynhewch!

A video of me reading Deg Deinosor Bach, my adaptation of Ten Little Dinosaurs. Other similar videos are available on the publisher Atebol's YouTube channel.
0 Comments

Arddangosfa yng nghanolfan Morlan, Aberystwyth

18/2/2016

1 Comment

 
Bydd y sawl sy wedi ymweld â chanolfan Morlan yn Aberystwyth yn gyfarwydd â phwysigrwydd yr adeilad i gymunedau'r dref a'r cyffiniau ac, yn wir, i gymunedau y tu hwnt i Aber. I'r sawl nad yw'n gyfarwydd â Morlan, canolfan ydyw sy'n bont rhwng yr eglwys a'r gymdeithas ac yn fan cyfarfod (gellir llogi ystafelloedd) i bobl o bob cefndir. Fel y dywedir ar wefan Morlan, mae'r adeilad yn lle i

greu a thrafod, i wrando a dysgu, i ysgogi a chalonogi, i gyd-ddeall a chlosio, i rannu a chyfrannu – tir canol rhwng yr eglwys a phawb sy'n byw yn ein cymdeithas amlddiwylliannol.

A hithau bron yn ddeng mlynedd ers sefydlu Morlan ym mis Ebrill 2005, mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu cynnal i ddathlu'r Deg dros Ddeg. Y nawfed digwyddiad yn y gyfres yw arddangosfa o gelf a barddoniaeth yn oriel bar coffi Morlan. Mae pob darlun a cherdd yn ymateb yn ei ffordd ei hun i'r ffaith fod Morlan yn fwy nag adeilad, ac yn cymell ei hymwelwyr i feddwl o'r newydd am Gymru, am ffydd, am gymuned ac am bontio amlddiwylliannol.

Ceir gweithiau celf gwreiddiol gan wyth o artistiaid: Marian Delyth, Anthony Evans, Iestyn Hughes, Ruth Jên, Wynne Melville Jones, Gareth Owen, John Rowlands a Diana Williams.

Ynghyd â Myrddin ap Dafydd, Huw Meirion Edwards, Anwen Pierce ac Annette Williamson, cefais fy ngwahodd i gyfrannu cerdd i'r arddangosfa. Meddyliais am yr hyn mae Morlan yn ei gynrychioli i mi, a sylweddoli'n fuan ei fod yn cynrychioli pob math o wahanol bethau, ac mai dyna, yn y pen draw, ran fawr o lwyddiant y ganolfan. Gellir darllen y cywydd ar y blogbost hwn.
Picture
Morlan

Canolfan i gydganu …
hafan gau mewn dyddiau du 
…
rhyw harbwr hir … aber hen …
ein tŷ Dduw … cyntedd awen …
dau wydryn cyn mynd adref …
pont i'r iaith …
                         pa un yw'n tref?

Hyn i gyd - byd mewn lle bach,
angor mewn dŵr ehangach:
yn Gymraeg mae ar agor,
un murlun mawr ar lan môr.
Picture
Mae'r arddangosfa ar agor tan 24 Mawrth, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10.00-12.00 / 14.00-16.00. Mae'r gweithiau celf i gyd ar werth (gellir talu am y gwaith yn fisol).

The Morlan centre in Aberystwyth - a unique meeting place for people of all backgrounds - is currently exhibiting specially commissioned works of art and poetry to celebrate its centerary in April. Art by Marian Delyth, Anthony Evans, Iestyn Hughes, Ruth Jên, Wynne Melville Jones, Gareth Owen, John Rowlands and Diana Williams. Poetry by Myrddin ap Dafydd, Huw Meirion Edwards, Anwen Pierce, Annette Williamson and myself. The exhibition is open until 24 March, Monday to Friday, 10.00-12.00 / 14.00-16.00 (all the art is for sale).
1 Comment

Cerddi newydd | New poems

14/2/2016

1 Comment

 
Ar 15 Ionawr 2016 cynhaliwyd symposiwm undydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, o'r enw 'Strata: Art and Science Collaborations in the Anthropocene'. Fe'i llywiwyd gan yr Athro Stephen Tooth (Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) and Julian Ruddock (Ysgol Gelf).
On 15 January 2016 a one-day symposium entitled 'Strata: Art and Science Collaborations in the Anthropocene' was held at the Aberystwyth Arts Centre, steered by both Professor Stephen Tooth (Department of Geography and Earth Sciences) and Julian Ruddock (School of Art).
Mae'r ffaith nad yw'r gair 'Anthroposen' wedi cyrraedd y geiriaduron hyd yn hyn yn dyst i'r trafodaethau cyfredol yn y maes. Yr hyn a gynigir gan nifer o arbenigwyr yn y maes (er na cheir consensws eto), yw y dylid arfer yr Anthroposen fel term ar gyfer yr oes ddiweddaraf hon yn hanes y ddaear, pan fo'r effaith y mae pobl yn ei chael ar amgylchedd, hinsawdd ac ecoleg y blaned yn nodedig o bellgyrhaeddol.

​Ar ei flog, mae Stephen Tooth yn gofyn:

Have we now exited from the Holocene epoch (the present interglacial time division that started around 11,700 years ago) and entered a new geological interval, one defined by humanity?

Cafodd y cwestiwn hwn ei drafod yn y symposiwm mewn rhaglen amrywiol iawn o gyflwyniadau a thrafodaethau yn seiliedig ar gydweithio rhwng y gwyddorau a'r celfyddydau, yn cynnwys celfyddyd gain, cerflunio, ffilm, rhyddiaith, sain, cerddoriaeth a barddoniath.

Roeddwn i'n un o griw o feirdd a wahoddwyd i gymryd rhan yn y symposiwm er mwyn rhoi rhai o'r syniadau hyn ar waith mewn cyswllt ag un rhan o Gymru - mynyddoedd yr Elenydd. Es i a Stephen Tooth, Hywel Griffiths, Dewi Roberts, Gavin Goodwin a Tyler Keevil ar daith undydd i'r ucheldir ym mis Rhagfyr 2015, ac mae'r ddwy gerdd a luniais ar gyfer y symposiwm ar sail y daith honno - y naill yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg - bellach ar gael i'w darllen ar y wefan hon:

⚬ Dychan i'r Sied yng Nghwm Du
⚬ Elan Valley
The Anthropocene is a term increasingly used to describe the present era of geological time, during which human activity is considered to be the dominant influence on the environment, climate and ecology of the earth.

​As Stephen Tooth asks on his blog:

Have we now exited from the Holocene epoch (the present interglacial time division that started around 11,700 years ago) and entered a new geological interval, one defined by humanity?

This question was explored at the symposium in a series of presentations and discussions based art-science approaches, including different combinations of visual art, sculpture, film, poetry, writing, sound and music.

I was one of a group of writers who were invited to take part in the symposium to explore these issues in connection with one specific part of the country - the mountains of mid Wales (yr Elenydd). Following a fascinating day trip with Stephen Tooth, Hywel Griffiths, Dewi Roberts, Gavin Goodwin and Tyler Keevil in bleak December 2015, I composed two poems for the symposium - one in Welsh and the other in English - and both are now available on my website:

⚬ Dychan i'r Sied yng Nghwm Du
⚬ Elan Valley
1 Comment

Llyfr newydd | New book

5/2/2016

0 Comments

 
Daeth llyfr newydd sbon a lliwgar iawn i'r tŷ ddoe, sef addasiad gen i o Ten Little Dinosaurs, cyfrol i blant dan saith oed gan Mike Brownlow a Simon Rickerty - Deg Deinosor Bach. Dyma ddisgrifiad gwefan Gwales:

Mae deg deinosor bach yn cychwyn ar antur. Tybed sut hwyl maen nhw'n ei gael wrth gwrdd â'r triceratops grwgnachlyd, y diplodocws trwstfawr a'r T-rex llwglyd? Stori swnllyd gyda thestun sy'n odli a llu o bethau i'r plant chwilio amdanynt!

Fe ges i lawer o hwyl yn addasu'r gyfrol hon, yn bennaf am fy mod i wrth fy modd â deinosoriaid. Mae'r testun Cymraeg wedi ei osod ochr yn ochr â'r testun Saesneg, ac felly'n arbennig o ddefnyddiol i blant a rhieni nad ydynt yn rhugl yn yr iaith.

​Ynghyd â chyfrol Y Llew Tu Mewn, hon yw'r ail gyfrol farddonol i blant i mi ei haddasu ar gyfer gwasg Atebol.

​Clicia fan hyn i weld mwy o lyfrau gen i.
Picture

Deg Deinosor Bach is my recently published adaptation of a brilliant book about mischievous little dinosaurs by Mike Brownlow and Simon Rickerty for children under seven. Like my other recent adaptation, Y Llew Tu Mewn, this is and ideal book for fluent Welsh speakers and learners alike, as texts in both Welsh and English are shown side by side. Published by Atebol.
0 Comments

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio