eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Podlediad Clera #60 Medi 2021

30/9/2021

0 Comments

 
Mae rhifyn mis Medi o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) yn whompyn! Trafodaeth ddifyr iawn am gynnyrch barddol yr Eisteddfod AmGen yng nghwmni Anwen Pierce, Alaw Mai Edwards a Hywel Griffiths, a recordiwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth; sgwrs hefyd â Sara Louise Wheeler ac Osian Owen am brosiect diddorol ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru; gorffwysgerdd gan Robert Lacey – hynny i gyd, a'r holl eitemau arferol.
Clera · Clera Medi 2021
Croeso, a chydig o hanes Aneurig
10.20 Pwnco: adolygu'r Cyfansoddiadau gydag Anwen Pierce, Alaw Mai Edwards a Hywel Griffiths.
47.35 Pos rhif 55 gan Gruffudd a'i Ymennydd mewn Croen Minc
​52.40 Yr Orffwysgerdd: 'Bydded Priffordd' gan Robert Lacey
56.00 Sgwrs â Sara Louise Wheeler ac Osian Owen
01.18.40 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis
01.36.50 Y Newyddion Heddiw

This month's Clera podcast is a beast! A panel review of this year's Eisteddfod's winning poems, which are published annually with the adjudications, a talk about a new collaboration by Sara Louise Wheeler and Osian Owen, as well as all the usual items. Available on both SoundCloud and iTunes.
0 Comments

Eisteddfod AmGen: sesiwn holi ac ateb Llyfr Gwyrdd Ystwyth

9/6/2020

0 Comments

 
Nos Lun 8 Mehefin, fe ges i'r fraint o gael fy holi gan fy nghyfaill bore oes, Hywel Griffiths, am fy nghyfrol newydd o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas). Clicia ar y fideo isod i wylio'r cyfan. Mae'r fideo ar gael hefyd ar wefan yr Eisteddfod ac ar sianel yr Eisteddfod ar YouTube.

Clicia ar y dolenni er mwyn darllen mwy am y gyfrol, i weld Hywel yn darllen cerdd newydd sbon a luniwyd ar gyfer yr Eisteddfod Amgen, ac i weld holl arlwy'r Eisteddfod ar lein.

This video was recorded as part of the National Eisteddfod's series of virtual events, Eisteddfod Amgen, on Monday 8 June. The poet Hywel Griffiths kindly asked me questions about my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas).
0 Comments

Podlediad Clera #42 Mawrth 2020

28/4/2020

0 Comments

 
Daeth newid ar ein byd ni i gyd fis Mawrth eleni, ac mae pawb yn dal i addasu ac i ymdopi mewn gwahanol ffyrdd â'r Cau Mawr yn sgil ymlediad y feirws creulon. Dyw podlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) ddim yn eithriad, a'm gobaith i a Nei yw y bydd hwnnw'n fodd i ysgafnhau'r baich ac i fyrhau'r oriau nes y daw pethau'n ôl at eu coed unwaith eto. Gyda hynny mewn golwg, mae'r rhifyn y tro hwn yn cynnwys trosolwg o'r arlwy helaeth iawn sy ar gael ar lein i'r rheini sy'n caru barddoniaeth ac, yn wir, lenyddiaeth yn gyffredinol, yn cynnwys fy ngwefan i, gwefan Nei a gwefannau Barddas, ystamp.cymru, Cerddi Corona ar Facebook a llawer mwy. Ceir hefyd gerdd i godi calon pawb gan Iwan Rhys – ac nid Iwan sy'n darllen ond, yn hytrach, ei ddatgeiniad dros dro, y Bardd Plant Gruffudd Owen – ynghyd ag eitem am gyfrol newydd sbon ac unigryw iawn Aled Jones Williams o gerddi, Cerddaf o'r Hen Fapiau, yn cynnwys cyfraniad gan Arwel Rocet Jones. Gellir archebu copi o'r gyfrol honno – wedi ei chreu â llaw gan Aled ei hun – drwy glicio fan hyn. Hynny i gyd, a'r newyddion fod fy nghyfrol newydd o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), bellach wedi ei hargraffu … ond mae'r copïau i gyd yn sownd o hyd yn yr argraffdy!
Clera · Clera Mawrth 2020
1. Croeso gan Aneurig
2. 12.30 Pwnco: golwg ar hyn sy ar gael ar lein i'r rheini sy'n caru barddoniaeth
3. 28.15 Pos rhif 37 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 34.30 Yr Orffwysgerdd: Gruffudd Owen yn darllen 'Crwyth y Pythgodyn' gan Iwan Rhys
5. 37.55 Eitem am gyfrol newydd Aled Jones Williams
6. 44.40 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
7. 54.00 Y Newyddion Heddiw

With the Coronavirus changing all of our lives, our hope is that this month's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) will come as a welcome distraction. Speaking of which, this time we have a roundup of what else's on offer online free and readily available for those who love Welsh poetry, also a look at Aled Jones Williams's brand new collection of poetry, Cerddaf o'r Hen Fapiau – a unique manuscript handcrafted by the poet himself and available in limited supply – and a humorous poem by Iwan Rhys performed by Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.
0 Comments

Podlediad Clera #40 Ionawr 2020

26/4/2020

0 Comments

 
Daeth rhifyn cyntaf y flwyddyn o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) â newyddion trist yn ei sgil, sef colli'r bardd amryddawn Dai Rees Davies ychydig cyn y Nadolig. Ceir eitem arbennig i gofio Dai Rees, y talyrnwr peryglus a'r bardd dwys a hynod ddigri, gyda chlipiau o rifyn Gorffennaf 2018 o'r podlediad, pan ges i a Nei gwmni Dai ac Emyr Pen-rhiw yn Nhafarn Ffostrasol, ynghyd â chyfraniadau n
gan Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds ac Elsie Reynolds. Dyma fy englyn i er cof am Dai:

Heddiw, os trist angladdol – Rhydlewis,
        Dai Rees, a Ffostrasol,
    Nid du heddiw dy waddol:
    Mae'n llawen d'awen ar d'ôl.


Ceir trafodaeth gen i a Nei ar wefannau barddol o bob math, o ystamp.cymru a chyfrifon gan feirdd diwyd ar Twitter i wefannau unigol fel f'un i ac un newydd sbon gan Nei ei hun, aneirinkaradog.cymru. A finnau ar fin cyhoeddi fy ail gasgliad o gerddi – Llyfr Gwyrdd Ystwyth​ (Cyhoeddiadau Barddas) – daw'r orffwysgerdd y tro hwn gen i.
Clera · Clera Ionawr 2020
1. Gair o groeso
2. 08.40 Pwnco: trafodaeth ar wefannau barddol o bob math
3. 27.15 Pos rhif 35 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 32.40 Yr Orffwysgerdd: 'Aber-ddiblastig' gen i
5. 37.10 Cofio Dai Rees Davies (clywir lleisiau Dai, Emyr Pen-rhiw, Ceri Wyn Jones 41.20 ymlaen)
6. 52.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
7. 01.02.00 Y Newyddion Heddiw

The first Clera podcast of 2020 (available on both SoundCloud and iTunes) starts on a sad note, as we mourn the passing of one of the scene's wittiest poets, Dai Rees Davies of Ffostrasol, with contributions from Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds and Elsie Reynolds. A poem also by me from my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth​ (Cyhoeddiadau Barddas), and a look at what the poetry scene has to offer online, including Aneirin's brand new website, aneirinkaradog.cymru.
0 Comments

Podlediad Clera #39 Rhagfyr 2019

26/4/2020

0 Comments

 
Mae'n fis prynu anrhegion! A beth well ar rifyn olaf y flwyddyn o Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) nag arolwg o'r cyfrolau barddol a'r cyfrolau gan feirdd sy ar gael y Nadolig hwn? Ceir cyfraniadau gan Alaw Mai Edwards (Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas), Casia Wiliam (cyn-Fardd Plant Cymru ac awdur Eliffant yn Eistedd ar Enfys), Ffrank Olding (bardd y gyfrol newydd Eilun), Esyllt Lewis (un o olygyddion cylchgrawn Y Stamp), Elinor Wyn Reynolds (awdur y nofel Gwirionedd) ac Iwan Rhys (awdur y nofel Y Bwrdd). Achubais i a Nei ar y cyfle wedyn i gael sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg (Gwasg Carreg Gwalch), ac am fy nghyfrol newydd i o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), a fydd allan yn y siopau'n fuan. Yn ogystal ag ychydig o hanes fy nhaith ddiweddar i India, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o farddoniaeth, The Bhyabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ceir sgwrs hefyd a recordiwyd yn Delhi rhyngof i a'm cyd-awdur, Sampurna Chattarji, sy'n cynnwys recordiad ohoni'n darllen ei cherdd 'Eisteddfod'. Hynny i gyd, a phedwaredd rownd Talwrn y Beirdd Ifanc, sef tasg yr haicw, gorffwysgerdd dymhorol gan Geraint Løvgreen a'r holl eitemau arferol.
Clera · Clera Rhagfyr 2019
1. Hanes diweddar Aneurig
2. 09.55 Pwnco: holl lyfrau barddol y Nadolig
3. 22.45 Sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg, a'm cyfrol newydd i o farddoniaeth, ​Llyfr Gwyrdd Ystwyth
4. 42.00 Pos rhif 34 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
5. 46.35 Yr Orffwysgerdd: 'Siôn Corn' gan Geraint Løvgreen
6. 49.05 Talwrn y Beirdd Ifanc: pedwaredd rownd yr ornest gyntaf
​7. 53.25 Sgwrs â Sampurna Chattarji a recordiwyd yn Delhi
​8. 01.08.10 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
9. 01.12.50 Y Newyddion Heddiw

This month's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) provides a personal shopping experience to some of the season's new books by some of the publishing industry's key agents and writers. Also a seasonal poem by Geraint Løvgreen, a conversation with Sampurna Chattarji, recorded on my recent visit to Delhi to launch and promote a brand new book of poems for children with Sampurna, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), and much more!
0 Comments
<<Previous

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio