eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Tri Pheth ar fy Meddwl: O'r Pedwar Gwynt

31/8/2016

0 Comments

 
Ysgrifennais bwt – tri phwt, a bod yn fanwl gywir, a braslun bychan – ar gyfer colofn reolaidd newydd Tri Pheth ar fy Meddwl ar wefan O'r Pedwar Gwynt, cylchgrawn llyfrau newydd sbon. Dyma genadwri'r cylchgrawn yn ei eiriau ei hun:

Cyhoeddir gwaith beirniadol a chreadigol newydd – yn erthyglau, adolygiadau, straeon a cherddi – a cheisiwn annog trafodaeth fywiog. Deallus – nid astrus …

Bydd rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Eisteddfod, Nadolig a Gwanwyn – ac fe gyhoeddir deunydd newydd yn wythnosol ar pedwargwynt.cymru.

Rydym am fod yn bapur newydd i ddarllenwyr y Gymraeg; i unrhyw un a phob un sy’n ymddiddori mewn syniadau, mewn llyfrau ac yn y byd cymhleth – ond anhraethol ddiddorol – sydd ohoni.
Picture
Gellir tanysgrifio fan hyn. Braf iawn yw bod yn rhan o drafodaeth fywiog a deallus y cylchgrawn – hir oes iddo!
Picture

I wrote a short piece – actually three short pieces – for a new regular column on the O'r Pedwar Gwynt website, a brand spanking new literary magazine published triannually with weekly updated online content. I wrote about the flourishing apple tree in our garden (and sketched a part of it), the brilliant children's television programme Bing, and Bohumil Hrabal's masterpiece Dancing Lessons for the Advanced in Age (1967).
0 Comments

Llyfr newydd: Llyfr Bach Priodas

26/8/2016

0 Comments

 
A hithau'n dymor priodasau, daeth llyfr newydd amserol o'r wasg ddechrau Awst – Llyfr Bach Priodas (gol. Elinor Wyn Reynolds, Gwasg Gomer). Yn ôl gwefan y wasg, dyma gyfrol sy'n llawn

straeon difyr am gyfarfyddiadau, am syrthio mewn cariad ac am briodi. Cerddi bendigedig a ysgrifennwyd â chariad gan rai o feirdd gorau Cymru – cerddi i chi eu mwynhau a rhai y medrwch eu defnyddio fel rhan o’ch gwasanaeth priodas yn ogystal. Casgliad o luniau priodasau drwy’r degawdau sy’n cydgerdded â’r geiriau yn y gyfrol arbennig hon. Dyma anrheg ddelfrydol i bawb sydd ar fin priodi neu sy’n dathlu pen-blwydd eu priodas.

Yn wreiddiol, ysgrifennais y gerdd sydd gen i yn y casgliad ar gyfer priodas fy chwaer yng nghyfraith, Aranwen, a Dan ym mis Mai eleni. Addasiad yw'r gerdd o eiriau cân enwog Bob Dylan, 'Make You Feel my Love', a ganwyd o'r newydd lawer tro dros y blynyddoedd, yn fwyaf amlwg gan Adele yn 2008. Canwyd y geiriau Cymraeg yn hyfryd ar ddiwrnod y briodas gan Lisa Angharad, ffrind agos i Aranwen ers dyddiau ysgol, a hynny yn eglwys Cydweli, y dref lle cafodd Dan ei fagu. Roedd y fersiwn gwreiddiol o'r pennill olaf ond un yn cyfeirio at afon Gwendraeth Fach ac at y ffaith fod Dan yn blastrwr – y gorau yn Sir Gâr yn ôl rhai! – ond mae fersiwn gwahanol yn y gyfrol.

​Ac ystyried bod mwy a mwy o alw am farddoniaeth i'w darllen mewn priodasau, mae'r gyfrol fach hon yn llenwi bwlch go fawr yn y farchnad. Mae ynddi gerddi newydd gan dros ddeg o feirdd, yn cynnwys Hywel Griffiths, sy'n briod ag Alaw, trefnydd priodasau gyda'i chwmni, Priodasau Calon. Ac mae gan Llyfr Bach Priodas chwaer-gyfrol hefyd, sef Llyfr Nodiadau Priodas, ar gyfer trefniadau priodas neu negeseuon gan westeion.
Os hoffet ti gomisiynu cerdd ar gyfer priodas neu ar gyfer unrhyw achlysur arall, clicia fan hyn.

​Am fwy o lyfrau, clicia fan hyn.
Picture

A new gift book from Gwasg Gomer for couples planning a wedding – Llyfr Bach Priodas – full of anecdotes, beautiful pictures and a host of poems about weddings and love that can be used on the big day or simply read for enjoyment. It includes a poem I composed for my sister-in-law, Aranwen, on her wedding to Dan in Cydweli earlier this year – a Welsh-language adaptation of Bob Dylan's famous song, 'Make You Feel my Love'. A companion volume, Llyfr Nodiadau Priodas, is also available for jotting down planning notes, or for recording wedding guests' personal messages.

To commission a poem for a wedding or for any other occasion, click here.
0 Comments

Cerddi newydd: cerddi Donostïa

13/8/2016

0 Comments

 
Picture
Ganol Gorffennaf eleni, fe deithiais i a Karen Owen i Wlad y Basg i gynrychioli Cymru mewn gŵyl barddoniaeth fyrfyfyr yn Donostïa (San Sebastian yn Sbaeneg). Mae'r traddodiad o fyrfyfyrio mor gryf yng Ngwlad y Basg nes bod ei beirdd yn medru llunio cerddi newydd sbon ar unrhyw destun o fewn ychydig eiliadau! Bu'n rhaid i mi a Karen lunio cerddi byrfyfyr hefyd, ond fe gawson ni ychydig mwy o amser i wneud hynny. I ddarllen y cerddi a luniais yng Ngwlad y Basg ac am fwy o hanes y daith, clicia fan hyn.

Yn ogystal â bod yn brofiad arbennig, roedd yr ŵyl hefyd fel pe bai'n rhoi dwy her imi: Oni ddylid perfformio mwy o farddoniaeth yn yr awyr agored yng Nghymru? Ac oni ddylai beirdd a pherfformwyr Cymru fynnu eu bod yn cael darllen eu gwaith drwy systemau sain o safon?

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad yn yr awyr agored fel rhan o'r ŵyl, y naill yn yr hen dref yn ninas Donostïa a'r llall yn nhref wledig Oñati (lle tynnais y llun uchod). Trefnwyd y lleoliadau o flaen llaw – llwyfannau naturiol mewn sgwariau gan amlaf – ond doedd dim wedi ei baratoi o ran y gynulleidfa. Dim tocynnau, ac ychydig iawn o hysbysebu – ffurfiodd y gynulleidfa'n naturiol wrth i'r bobl leol gerdded heibio a chlywed y sŵn. Roedd y ffaith fod y beirdd yn llafarganu eu gwaith yn help, mae'n siŵr, o ran denu'r dorf, ynghyd â'r elfen berfformiadol gref, sef gosod testun a disgwyl i'r bardd ateb o fewn ychydig eiliadau. Ond wrth fynd â barddoniaeth yn syth at y bobl yn y strydoedd, fe welais i rywbeth nad yw'n digwydd yng Nghymru ond ar rai achlysuron penodol – cynulleidfa o bob oedran, rhyw a chefndir yn dod ynghyd i fwynhau gwrando ar gerddi.

Mae'r ail bwynt ynghlwm â'r cyntaf, sef bod y digwyddiadau awyr agored wedi eu hwyluso'n fawr gan safon y system sain. Llond trol o focsys technegol a weiars, ynghyd ag un seinydd tenau, uchel, a dyrnaid o feics, a'r cyfan yn cael ei wthio'n hwylus o'r naill le i'r llall gan ddau dechnegydd. Wrth ddarllen fy ngherddi byrfyfyr o flaen y meic mewn strydoedd poblog, fe wyddwn i bob tro fod y gynulleidfa'n clywed pob gair. Doedd dim angen imi godi fy llais na phoeni pa mor agos yr o'n i at y meic – dim ond canolbwyntio ar ddarllen y gerdd. A dyma sylweddoli pa mor aml mae'r gwrthwyneb yn digwydd mewn digwyddiadau yng Nghymru – meics doji sy'n gwegian fel hen bolion ffa, eu sain yn popian a minnau'n clustfeinio i glywed fy llais fy hun.

Beth amdani, Barddas, Llenyddiaeth Cymru neu Gyngor Celfyddydau Cymru, neu gynghorau sir a thref, o ran hynny – a yw'n amser buddsoddi mewn systemau sain symudol sy'n deilwng o gerddi modern, a dod â barddoniaeth yn nes at y bobl?

Earlier this July, Karen Owen and I took part in a festival of improvised poetry in Donostia (San Sebastian in Spanish) in the Basque Country. The improvised poems I composed for four events during the festival are available here. The festival was a great experience, and two outdoor events in particular made me wonder whether more should be done to bring poetry to public spaces in Wales. Pop-up events in the streets of Donostia and Oñati drew large crowds and were facilitated by a state-of-the-art moveable sound system. Whilst performances in Wales are often hampered by floppy mikes and poor speakers, reading poems in the crowded streets of the Basque Country was a pleasure – no need to raise my voice or worry about feedback. Is it time organisers in Wales invested in a sound system that would allow modern Welsh poets to reach new audiences?

2016ko uztailean Karen Owen eta biok bertsolaritza jaialdi batean parte hartu genuen Donostian, Euskal Herrian. Geure olerkigintzaren fineziaz oso harro gaude galesdunok, baina hala ere euskararen bertso tradiziokoek, hots, ustekabean zeinnahi gai jarrita olerki inprobisatuak berehalaxe botatzen dituzten batbateko birtuosoak diren horiek, ez dute parerik. Hemen bildutako olerkiak jaialdian errezitatu nituen, bakoitza ordubetean gehienez ere antolatzaileek hautatutako gaiei buruz idatzirik baina hori bai, erritmo eta aliterazioaren galesezko arauak ondo beteaz! Esperientzia ahaztezina izan da. Eskerrik asko honetan aritu diren guztiei!
0 Comments

Cerddi newydd: Serenestial

11/8/2016

0 Comments

 
Yn y gwanwyn 2016, fe ges i gomisiwn i lunio cyfres o ddeg o gerddi ar gyfer cyngerdd arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau. Y delynores Catrin Finch oedd wrth y llyw, a'r pwnc oedd yr haul a'r planedau. Rhoddodd Catrin imi ryddid llwyr i ddehongli'r testun fel y gwelwn i orau, a dyna pam, efallai, imi dreulio llawer mwy o amser na'r disgwyl yn hel a didol syniadau cyn bwrw ati o ddifri!

Un allwedd at y gwaith oedd penderfynu ar y prif fesur, sef y soned. Mae'r soned yn fesur yr ydw i wedi ei osgoi yn y gorffennol, yn bennaf am fod cysgod dau o'r meistri, T.H. Parry-Williams ac R. Willams Parry, mor drwm arni. Ond fel y dôi anferthedd y testun yn raddol i'r golwg, daeth yn amlwg y byddai llinellau hirion y soned yn cynnig lle i wyntyllu rhai o'r syniadau dwysaf. A rhag i'r gyfres droi'n undonog yn hynny o beth, dyma droi at un arall o hoff fesurau T.H., sef y rhigwm, ar gyfer tair o'r planedau. Ar gyfer y darn rhagarweiniol, dewisais un o fy hoff fesurau i, sef mesur Burns.

Ar nos Fawrth Eisteddfod y Fenni, cynhaliwyd cyngerdd Serenestial yn y pafiliwn. Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl, a dweud y gwir, ond bu'n brofiad hudolus yn y pafiliwn newydd, ac yntau wedi ei leinio â chynfasau du, serog.

​Un o gampau Catrin oedd llwyddo i gyfuno cynifer o wahanol elfennau creadigol i greu un cyfanwaith swynol – cerddoriaeth Catrin ei hun, dawnswyr Ballet Cymru, llais y gantores Elin Manahan-Thomas, cerddoriaeth feiolin Charlie Lovell-Jones, a'r actores Sara Lloyd-Gregory yn darllen fy ngherddi. Yn ogystal â mwynhau'r cyngerdd cyfareddol yn fyw, roedd bod yn rhan o'r cynhyrchiad arloesol ac, yn fwy na dim, clywed Sara'n darllen fy ngeiriau, yn brofiad gwych iawn.

Mae'r cerddi ar gael i'w darllen ar fy ngwefan drwy glicio fan hyn.
Picture

Earlier this year I received a commission from Catrin Finch to write a series of ten poems on the subject of the sun and planets for a special concert at the National Eisteddfod. The finished work comprises six sonnets, three poems in rhyming couplets and one poem in the form of the Burns Stanza. Serenestial was performed in the Eisteddfod pavilion on 2 August. Being part of such an innovative production – alongside Catrin Finch, Elin Manahan-Thomas, Charlie Lovell-Jones and Sara Lloyd-Gregory – was a brilliant experience.

The poems can be read on my website by clicking here.
Picture
0 Comments

Llyfr Newydd: Cai (enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2016)

10/8/2016

0 Comments

 
Ar ôl cadw'r gyfrinach am dros bedwar mis go hir, profiad anhygoel iawn oedd codi yn seremoni'r Fedal Ryddiaith ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yr wythnos diwethaf. Mae'r gyfrol fuddugol, Cai, bellach ar werth yn y siopau ac ar lein.

Diolch i'r Eisteddfod, i bobl y Fenni a Sir Fynwy ac i bawb yng Ngwasg Gomer (Elinor Wyn Reynolds yn arbennig) a'r Cyngor Llyfrau (Huw Meirion Edwards) am wneud y profiad o gyhoeddi fy nofel gyntaf yn brofiad mor arbennig. Diolch hefyd i bawb am eu holl gyfarchion caredig.

Dyma farn y tri beirniad am y gyfrol:

'Nofel ddeheuig ydyw yn agor â chyfres o ddarluniau o Aberystwyth, gan hoelio sylw ac ennyn chwilfrydedd. Dyma stori gyffrous wedi ei dweud yn dda am awydd artist anweledig o Gymraes i ddarganfod y gwir am ddiflaniad ei nith.' (Angharad Dafis)

'Synhwyrwn fod rhywbeth yn corddi yn isymwybod y genedl, rhyw annifyrrwch ac anesmwythyd mawr.' (Dafydd Morgan Lewis)

'Dyma nofel wreiddiol, gyfoes a gafaelgar sy'n sicr o roi pleser i gynulleidfa eang.' (Jane Aaron)

Llongyfarchiadau hefyd i Elinor Gwynn (prifardd y Goron), Guto Dafydd (enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen), Gareth Olubunmi Hughes (enillydd Tlws y Cerddor), Hefin Robinson (enillydd y Fedal Ddrama) ac Aneirin Karadog (prifardd y Gadair) – ac i bawb arall a gafodd lwyddiant yn ystod yr wythnos, a phawb a wnaeth Eisteddfod y Fenni yn gymaint o lwyddiant!

Am fwy o lyfrau, clicia fan hyn.
Picture

On 3 August I was awarded the Prose Medal at the National Eisteddfod in Abergavenny. The prize is awarded annually for a volume of creative prose of no more than 40,000 words. My novel, Cai, is now on sale in bookshops and online.

Delivering the adjudication on behalf of both Jane Aaron and Dafydd Morgan Lewis, Angharad Dafis said that '
Cai will have a broad appeal, and the author's feat is that he has managed to use the framework of a popular novel to say things that desperately need to be told about Wales and the Welsh language.'

Thank you to everyone who made the ceremony such a special occasion, and for all the kind congratulatory messages.
0 Comments

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio