Mae rhifyn mis Medi o bodlediad Clera – sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – yn edrych yn ôl at wythnos y brifwyl ym Môn ac ymlaen at orwel yn llawn digwyddiadau barddol cyffrous. Y gwestai arbennig y tro hwn yw'r prifardd Osian Rhys Jones – neu'r prifardd Osian Corrach i lawer – enillydd cystadleuaeth y Gadair eleni. Diolch Osian am dy gwmni ac am roi lifft i Aneurig i fyny'r bryn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru! Aethon ni i'r Llyfrgell Gen i gael sgwrs â phrifardd arall, Dafydd John Pritchard, am sioe deithiol newydd y Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, am Hedd Wyn a'r Rhyfel Mawr, sef Y Gadair Wag. Megis clustogau esmwyth ar y naill ochr i'r ddwy sgwrs hynny mae'r eitemau arferol, o'r pos i'r newyddion i gerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, sef un o gerddi'r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni – mae'r pedair cerdd a luniodd Grug ar gael i'w darllen ar wefan y Stamp.
1. Pwnco: sgwrs â bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Môn, Osian Rhys Jones 2. 20.10 Pos rhif 7 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 22.15 Yr Orffwysfa: 'Ysgol Bae Baglan', un o gerddi'r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn y brifwyl eleni gan Grug Muse 4. 24.40 Adolygiad o sioe newydd Ifor ap Glyn, Y Gadair Wag 5. 35.35 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 43.00 Y Newyddion Heddiw
The September edition of the Clera podcast is here, on both SoundCloud and iTunes. This month we're in conversation with Osian Rhys Jones, the winner of the Chair competition at the National Eisteddfod on Anglesey, Dafydd John Pritchard reviews Ifor ap Glyn's multimedia show, Y Gadair Wag, about the life and work of Hedd Wyn, and Grug Muse reads her poem to the winner the Eisteddfod Gold Prize for Architecture, Ysgol Bae Baglan.
0 Comments
A bod yn deg, dyw'r cerddi hyn ddim yn rhyw newydd iawn! Cerddi ydyn nhw a gyfansoddwyd yn ôl yn 2014 pan o'n i'n Fardd Pensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Roedd gofyn imi ymweld â'r chwe adeilad newydd a oedd ar restr fer y Fedal Aur am Bensaernïaeth, a llunio cerdd yn ymateb i bob un yn ei dro – bu'n brofiad gwych. Tan yn ddiweddar, dim ond dwy o'r cerddi hynny a oedd ar gael i'w darllen yma, ond mae pob un o'r chwech bellach wedi eu llwytho ar y wefan. Daeth yr Eisteddfod ym Môn eleni â'r cerddi i'r cof unwaith eto – Elan Grug Muse oedd y bardd preswyl y tro hwn, ac mae ei cherddi hyfryd hi ar gael i'w darllen ar wefan Y Stamp. Dyma fy chwe cherdd i, a dwy gerdd arall yn Saesneg – clicia arnyn nhw i'w darllen: ⚬ Stormy Castle, Bro Gŵyr (mae fersiwn Saesneg ar gael hefyd) ⚬ Old Farm Mews, Dinas Powys ⚬ Ffwrnes, Llanelli ⚬ New Barn, Felindre ⚬ Melin Talgarth (mae fersiwn Saesneg ar gael hefyd) ⚬ Capel Galilea, Llanilltud Fawr All six poems written as part of a commission for the National Eisteddfod in Carmarthenshire 2014 are now online – just click on the links:
⚬ Stormy Castle, Bro Gŵyr ⚬ Old Farm Mews, Dinas Powys ⚬ Ffwrnes, Llanelli ⚬ New Barn, Felindre ⚬ Melin Talgarth ⚬ Capel Galilea, Llanilltud Fawr There are also English versions of two of these poems: ⚬ Talgarth Mill ⚬ Stormy Castle |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|