Mae rhifyn mis Medi o bodlediad Clera – ar SoundCloud ac ar iTunes – ychydig yn wahanol i'r afer, am fod llais Aneirin yn eisiau! Heblaw am ddarn bychan ar y dechrau lle mae Nei'n esbonio pam, wrth gwrs. Yn ei absenoldeb, fe ges i gwmni Gruffudd Antur a dau westai arbennig, Phil Davies a Richard Owen, y ddau o'r Cyngor Llyfrau gynt ac yn eisteddfodwyr brwd a phrofiadol. Diolch i'r tri am sgwrs Bwnco ddifyr iawn yn cloriannu agweddau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst fis Awst, o'r Babell Lên i gyfrol y Cyfansoddiadau. Daw'r orffwysgerdd gan y prifardd Tudur Hallam o'i gyfrol newydd sbon o gerddi, Parcio (Cyhoeddiadau Barddas). At hynny, mae'r rhifyn hwn yn gartref i eitem newydd a chyffrous iawn, sef cynnyrch dwy ornest arbennig o Dalwrn y Beirdd Ifanc gyda'r meuryn brifardd Ceri Wyn Jones. Y tro hwn, cystadleuaeth y limrig yw'r arlwy, a hynny o'r ornest gyntaf a gynhaliwyd yn Sinema Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Piwmas y Preseli. Mwynhewch!
1. Ble mae Nei? 2. 06.00 Pwnco: adladd yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Phil Davies a Richard Owen 3. 34.30 Pos rhif 31 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 42.30 Yr Orffwysgerdd: 'Gwynion' gan y prifardd Tudur Hallam 5. 46.40 Talwrn y Beirdd Ifanc: y rownd gyntaf o'r ornest gyntaf 6. 59.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 01.08.35 Y Newyddion Heddiw
September's Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – takes a look back at the National Eisteddfod hend at the beginning of August in Llanrwst with two guests, Phil Davies and Richard Owen, both seasoned eisteddfod-goers! A poem also by Tudur Hallam from his new collection, Parcio, and an item from a special Talwrn y Beirdd Ifanc competition recorded in July in Aberystwyth Arts Centre between two teams of young poets, Bwystfilod Bro Myrddin (the beasts of Bro Myrddin) and Piwmas y Preseli (Preseli pumas). But where's Aneirin?
0 Comments
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|