Mae eisiau beirdd ar y mis bach, yn wir – ac wele! Englyn i'n sobri gan Dylan, rap arobryn gan Non Lewis – enillydd y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd – a sgwrs am yr hyn y gallai meddalwedd newydd ChatGTP ei olygu i farddoniaeth yng nghwmni Sioned Mills ac Iestyn Lloyd o'r podlediad anhygoel Haclediad.
10.05 Delicasi gan Dylan
13.05 Pwnco: ChatGTP a'r beirdd, rhan 1 35.45 Yr Orffwysgerdd: rap arobryn gan Non Lewis 43.10 Pwnco: rhan 2 01.01.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis 01.19.45 Y Newyddion Heddiw
A poem to bring us down to earth, a rap by Non Lewis – winner of this year's Cardiff eisteddfod chair – and a chat about what ChatGTP could mean for poetry with Sioned Mills and Iestyn Lloyd from the brilliant podcast Haclediad.
0 Comments
Ar rifyn cyntaf 2023: cofio'r bardd rhyfeddol Les Barker, sgwrs ddifyr am Eisteddfod Caerwys 1523 a'i harwyddocâd heddiw, gorffwysgerdd gan Iestyn Tyne o'i gyfrol newydd Dileu a Cherddi Eraill, sgwrs â Mari Løvgreen am y flodeugerdd newydd Cariad (Cyhoeddiadau Barddas) a'r holl eitemau arferol!
Coffa da am Les Barker
09.20 Delicasi gan Dylan 13.55 Pwnco: pum canmmlwyddiant Eisteddfod Caerwys 40.25 Yr Orffwysgerdd: 'Terfyn Dydd' gan Iestyn Tyne 44.15 Sgwrs â Mari Løvgreen, golygydd Cariad 59.10 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis 01.09.30 Y Newyddion Heddiw
In the first issue of 2023: remembering the poet Les Barker, a look back at the Eisteddfod held in Caerwys in 1523, a poem by Iestyn Tyne from his new collection, Mari Løvgreen on a new collection of poems about love, and all the usual items.
Yn rhifyn olaf 2022: trafodaeth am linachau barddol – hynny yw, bardd yn dysgu bardd yn dysgu bardd dros genedlaethau ac, yn wir, dros ganrifoedd – ynghyd â hoff gerddi Nadoligaidd Steffan Phillips, Mari George, Carwyn Eckley, Lowri Lloyd a Llŷr James.
Ychydig o hanes Eisteddfod Llandyfaelog
05.25 Delicasi gan Dylan 09.50 Pwnco: llinachau barddol 38.45 Y Gorffwysgerddi 49.15 Trem yn ôl ar y flwyddyn 01.00.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis 01.09.45 Y Newyddion Heddiw
In the last Clera of 2022: a discussion of bardic lineages – Star Wars master-and-apprentice stuff, but over centuries and much cooler – as well as a medley of favourite Christmas poems.
Dyma gerdd a luniwyd gan ddisgyblion Ysgol Henry Richard gyda chymorth eu hathrawes Enfys Hatcher, Hywel Griffiths a fi mewn gweithdy fis Mai eleni. Aethon ni i Gwm Brefi i ddechrau, i gasglu syniadau yn yr awyr agored, cyn rhoi'r gerdd at ei gilydd yn y dosbarth. Perfformiwyd y gerdd yn wych gan y disgyblion yn seremoni agoriadol y Babell Lên ar faes Eisteddfod Ceredigion. Ma’r lle ’ma’n gwd Croeso i agoriad swyddogol y babell, Bobol o agos a phobol o hirbell. Chwythwch i ffwrdd lwch dwy flynedd, Ma’r diwrnod mawr ’di dod o’r diwedd! Ond wow, wow, wow, cyn inni fynd ’mlân I‘ch diddanu ’da hyn o gân, Beth yn gwmws yw’r Babell Lên? Lle i ymlacio i bobol hen? Lle i fochel rhag y glaw? Lle difrifol ar y naw? Lle i stiwardiaid gael teimlo’n fawr? Beirdd ac awduron yn mynd ’mlân am awr? Lle i rai bendwmpian ac i eraill chwyrnu? Fi’n gweld rhai nawr yn cwympo i gysgu! Lle i feirdd yn unig, ac ambell lenor? Na! Lle i bawb â’i feddwl ar agor! Lle i’r ifanc, lle i’r hen, Lle i wylo, lle i wên, A lle i ddychmygu am y gore, Pabell i bawb sy’n caru geirie. Dewch i ymuno yn y wledd! Mwynhewch eich hunen, cym’rwch sedd. Gadewch i ni eich tywys bant I fro Twm Siôn Cati a Dewi Sant. Dewch ’da ni i’r mynydd fry Lle mae’r dŵr yn llifo’n gry’, Eich tra’d yn suddo i mewn i’r gwair Yng nghwmni’r gwynt ymhell o’r ffair. Mae’r mwsog gwyrdd fel cwilt ar y ca’, A’r tir yn las i ddathlu’r ha’. A glywch chi ddau yn ymrysona Yn ddi-stop o’r gangen ucha’? Glywch chi’r awel a’r dŵr glân Yn clebran gyda’r cerrig mân? Dacw’r eithin ar y bryn, Dacw’r llif o swigod gwyn, Dacw flodau bychain melyn Fel cyfrinach yn y tirlun. Craig y Foelallt, Pont Gogoyan, Aberdeuddwr a Chraig Ifan, Nant y Rhysgog, Afon Brefi, Brysio maen nhw i Afon Teifi. Gyda nhw ar hyd y daith Mae nentydd bach o’r mynydd maith, Berwyn, Cledlyn, Creuddyn, Cuch, Tweli, Dulais, Brennig wych. Ac fel taith y rheini i gyd, I’r fan hyn fe lifa’r byd, A chario’r iaith o bedwar ban A’i holl amrywiaeth i’r un man. Felly, nawr mae’r wledd ar ddechre, Dewch i greu’r atgofion gore! Dim ots os daw y glaw a’r mwd, Dewch bawb i mewn, ma’r lle ’ma’n gwd. A poem to celebrate the opening of the 2022 National Eisteddfod's literature tent in Tregaron, written by pupils from Ysgol Henry Richard – with some help by Hywel Griffiths and myself – and performed by them as part of the official opening.
Dethlir eleni bedwar canmlwyddiant geni un o feirdd mawr y genedl, Huw Morys o Bont-y-meibion yn Nyffryn Ceiriog. Cynhaliwyd penwythnos o ddathliadau ar 30 Ebrill a 1 Mai yn Nyffryn Ceiriog ac yn Llansilin. Am fwy o wybodaeth am Huw a'i waith, clicia ar y dolenni hyn:
Dyma hefyd recordiad o seminar gen i (17 Mawrth 2022) ar garolau haf Huw Morys a'i gyfoeswyr yng nghyfres seminarau'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|