Wele Bodlediad Clera mis Rhagfyr! Fel arfer, mae ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Dyma'r trydydd podlediad yn y gyfres – clicia fan hyn i wrando ar rifyn mis Hydref ac ar rifyn mis Tachwedd. Cafodd y prif destun trafod y mis hwn ei ysbrydoli gan flogbost am gystadlu gan Osian Rhys Jones sy'n gofyn y cwestiwn heriol – a oes gormod o bwyslais ar gystadlu yn y sin farddol heddiw? Roedd blogbost Osian yn ei dro'n ymateb i sylw gan Alan Llwyd a ddarllenwyd ar bodlediad cyntaf Clera, sef mai lle i feirdd fwrw prentisiaeth yn unig y dylai cystadleuaeth fod … I'n cynorthwyo ni yn ein trafodaeth y tro hwn, fe ges i ac Aneirin gyfraniadau diddorol iawn gan Grug Muse a Myrddin ap Dafydd.
Yn ogystal â hynny, mae'r podlediad yn cynnwys adolygiad gan brif weithredwr Golwg360 ac uwch-olygydd cylchgrawn Y Selar, Owain Schiavone, o Bardd ar y Bêl gan Llion Jones (Cyhoeddiadau Barddas), cerdd Nadoligaidd gan Mari George, ynghyd â'r eitemau arferol – Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, Pryd o Dafod a'r newyddion diweddaraf. Ac fel anrheg Nadolig arbennig ar gyfer ein holl wrandawyr hoff, mae englyn yr un gen i a Nei wedi eu gosod o dan goeden y podlediad tua diwedd y recordiad. Nadolig llawen i bawb! 1. Pwnco: a oes gormod o bwyslais ar gystadlu yn y sin farddol heddiw? 2. 19:39 Yr Orffwysfa: cerdd Nadoligaidd gan Mari George 3. 21:18 Adolygiad gan Owain Schiavone o Bardd ar y Bêl gan Llion Jones 4. 38:26 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 5. 45:23 Pryd o Dafod: yr acen lafarog 6. 48:36 Newyddion
The December edition of Podlediad Clera has arrived! It's available on both SoundCloud and iTunes. This month Aneirin and I discuss whether there's too much emphasis on competition in the Welsh-language poetry scene today. The issue also includes a review of Llion Jones's latest collection, Bardd ar y Bêl, new poetry by Mari George and much, much more. For more information on previous editions, click here.
0 Comments
Mae'r Nadolig ar y gorwel ond, os wyt ti'n debyg i fi, bydd yr holl siopa'n digwydd funud ola'. Dyma felly rai awgrymiadau am anrhegion llenyddol – yn boeth o'r wasg – a allai wneud y dasg flynyddol o lenwi hosanau'n ychydig haws.
If you're in need of some festive stocking-fillers, then look no further! Poet Ceri Wyn Jones, presenter of BBC Radio Cymru's flagship poetry programme, Talwrn y Beirdd, has gathered together the crème de la crème of the last five seasons into Pigion y Talwrn, including poems by the greatest poetry team this side of the Nile – Y Glêr! The latest edition of Barddas is out too, with articles, reviews and lots of poems, including my awdl that came second in this year's Chair competition at the National Eisteddfod in Abergavenny. It was inspired by a recent visit to Mumbai, where I was whisked around the city by a good friend of mine, one of India's foremost English-language poets, Sampurna Chattarji. Also out are two adaptations for children by me from Atebol (check out their new website).
Ymhlith y toreth o gerddi sydd yn y rhifyn hwn, ceir dwy gerdd gan Sampurna Chattarji, bardd o Mumbái a chyfaill da iawn a ddaeth ar ymweliad i Aberystwyth ym mis Medi eleni. Ysbrydolwyd y gerdd gyntaf gan un o'r pethau gorau i'w gwneud yn Aber – yfed yn ei thafardai lu! – ac mae'r ail yn ymdrin ag un o leoliadau mwyaf eiconig y dref – glan y môr a'r harbwr. Dyna wych fod Aber wedi ysgogi cerddi newydd gan un o feirdd gorau India! Am gerdd gen i am ymweliad â dinas Sampurna, clicia fan hyn. The latest issue of Poetry Wales has arrived, full of new poems and interesting articles, packed tight against the cold just in time for winter. It includes two articles that evaluate the Welsh-language poetry scene today. On the face of it, things have never been better, but all is not as it seems – or so say Llŷr Gwyn Lewis and Grug Muse. Short excerpts from both articles are shown above, provocative observations that chime with much that has been said in two issues of the Clera podcast for October and November. Introspection must be good for any scene from time to time.
The abundence of poems in the current issue include two by Sampurna Chattarji, a poet based in Mumbai and very good friend who visited Aberystwyth back in September. The first poem was inspired by a mini pub crawl from Scholars to Downies Vaults to the Llew Du – just the two of us drinking in abandoned bars out of season – and the second by a trip to Aber's iconic seafront and harbour. To read about a poem of mine in a previous edition of Poetry Wales that was inspired by a visit to Sampurna's home city, click here. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|