eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Podlediad Clera #44 Mai 2020

9/6/2020

0 Comments

 
Mae rhifyn mis Mai o bodlediad Clera – sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – yn llawenhau fod y mis hyfryd hwnnw wedi cyrraedd o'r diwedd ac, yn ei sgil, ddigonedd o heulwen a chanu adar. Bydd llawer ohonoch wedi gweld fod yr Eisteddfod AmGen yn mynd o nerth i nerth ar lein, a ches i a Nei flas arbennig ar gyflwyniad Peredur Lynch yn yr eisteddfod rithiol honno, sef 'Awdlau'r Eisteddfod Genedlaethol – y Gorau a'r Gwaethaf'. Cawson ni'n hysbrydoli i feddwl pa awdl neu gasgliad, o blith y deunaw sy wedi eu gwobrwyo'r ganrif hon, fyddai'n dod i'r brig gynnon ni. Dewisais i 'Lloches', awdl fuddugol Ceri Wyn Jones yn 2014, ac aeth Nei am ddilyniant arobryn Myrddin ap Dafydd yn 2002, ac fe gawson ni hwyl yn dadlau'n hachos yn ein tro. Yn y rhifyn hwn, ceir hefyd bos newydd sbon gan Gruffudd Antur, disgrifiad arbennig gan Rhys Iorwerth o'r modd y mae o'n mynd ati i greu ac nid un ond dwy gerdd gan y Bardd Cenedlaethol ei hun, Ifor ap Glyn.
Clera · Clera Mai 2020
Cyflwyniad: 'Mawr a fydd, myn Mair, ei fod, / Mai, fis difai, yn dyfod'!
08.00 Y Pwnco: Aneurig yn dadlau achos dwy awdl eisteddfodol o fri
​46.00 Pos rhif 39 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
50.35 Yr Orffwysgerdd: 'Cyd-ddiarhebu auf Deutsch' gan Ifor ap Glyn
45.35 Bardd yn y Bath: Rhys Iorwerth
01.01.05 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
01.09.25 Y Newyddion Heddiw
01.16.20 Cerdd arall gan Ifor ap Glyn: 'Pellter'

To celebrate the month of May, the latest Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – gives the songbirds a run for their money! Over 75 minutes of chat, including mine and Aneirin's pick of the winning poems in the Chair competition this century, Rhys Iorwerth sharing how he goes about writing poetry, and not one but two poems by the National Poet of Wales, Ifor ap Glyn.
0 Comments

Carol haf gan Huw Morys (1622–1709)

30/4/2020

0 Comments

 
A hithau'n Galan Mai, a mwy o angen nag erioed yn sgil y Meudwyo Mawr i ddathlu dyfodiad yr haf, dyma rannu golygiad gen i o garol haf gan Huw Morys. Bardd o'r ail ganrif ar bymtheg oedd Huw (1622–1709) – y mwyaf o feirdd y ganrif honno – ac roedd o'n byw ym Mhont-y-meibion yn nyffryn Ceiriog. Canodd gannoedd o gerddi yn ystod ei oes hir, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi goroesi mewn llawysgrifau, a rhai yn ei law ef ei hun. Ychydig sy'n cofio amdano heddiw, yn anffodus, gan mor llwyr y difrïwyd yr ail ganrif ar bymtheg fel canrif y dirywio mawr yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ond fel y bydda' i'n ei ddangos mewn ysgrif yn Y Gynghanedd Heddiw, cyfrol wedi ei golygu gen i ac Aneirin Karadog a gyhoeddir yn nes ymlaen eleni (gw. erthygl gen i ac Aneirin yn y rhifyn cyfredol o Barddas), mae Cymru ar ei cholled yn sgil gwarthnodi ac anwybyddu cynnyrch hynod amrywiol a chyfoethog y ganrif honno. Er mwyn dechrau'r gwaith mawr o gywiro'r gwall, mae'n fwriad gen i gyhoeddi golygiadau o rai o gerddi Huw erbyn dathlu pedwar canmlwyddiant ei eni yn 2022.
A dyma ddechrau arni gyda'r gerdd hon! Fel y dwedais, carol haf yw hi, sef cerdd i'w chanu i gyfeiliant ffidil wrth ymweld â chartrefi'n gynnar ar fore Calan Mai a thrwy gydol y mis. Mae'r garol yn llawn asbri a llawenydd yn sgil dyfodiad yr haf, a'r tebyg yw iddi gael ei chanu rhwng tua 1695 ac 1702. Yn sgil cynnwys fersiwn diweddarach o'r garol yng nghasgliad helaeth Gwallter Mechain o waith Huw Morys yn 1823 (Eos Ceiriog) – yr unig olygiad swmpus o'i waith sy wedi'i gyhoeddi – mae ei geiriau wedi teithio ymhellach na llawer un arall, yn fwyaf diweddar ar alaw newydd sbon gan Gwilym Bowen Rhys yn ei albwm Arenig (2019).
Picture
Fodd bynnag, wrth olygu'r gerdd, fe ddes o hyd i hen alaw a ddiogelwyd gan John Jenkins (1770–1829), sef Ifor Ceri, clerigwr a hynafiaethydd a wnaeth waith allweddol o ran casglu'r hen alawon gwerin. Nodir mewn llythyr ganddo iddo godi fersiwn o'r alaw boblogaidd 'Mwynen Mai', a ddefnyddid yn aml i ganu carolau haf, gan ddyn yn nyffryn Ceiriog oedd yn ddisgynnydd i ŵr 'who used to sing them to Huw Morus with his unrivalled songs'. Hon, fe fentraf i, yw'r alaw a ddefnyddid i ganu carolau haf yn nyffryn Ceiriog a'r cyffiniau, a gallwn ailuno heddiw'n hyderus eiriau'r hen feistr â'r alaw wreiddiol. I glywed y geiriau a'r alaw'n cael eu canu gen i – cyn y gallaf i ddod o hyd i rywun gwell i wneud y gwaith maes o law – gwranda ar bum munud olaf rhifyn mis Ebrill o bodlediad Clera (o 01.00.00 ymlaen). (Diolch yn arbennig i Bethan Miles am fy helpu i ddarllen y gerddoriaeth.)

Ceir isod olygiad llawn gen i o destun y gerdd, ynghyd â geirfa, nodiadau ar ei chynnwys, ei mesur, ei chynghanedd, ei halaw a'r unig lawysgrif lle'i diogelwyd, yn ogystal â gwybodaeth am olygiadau eraill.

This is my new edition of a carol haf, or summer carol, by the greatest Welsh poet of the sixteenth century, Huw Morys (1622–1709) of Pont-y-meibion in the Ceiriog valley. My edition is based on the only extant manuscript copy, whose readings are superior to the other known texts (the most recent of which was published in 1902), and brings the text together with its original tune (my unfortunate but well-meaning attempt at singing it can be heard from the hour mark on in April's Clera podcast). May-day poems were sung with accompaniment on the fiddle to joyfully celebrate the beginning of summer, and often include a brief commentary on the year gone by. Huw refers to the blight of taxation during the reign of William III (1689–1702), and the poem therefore probably belongs to the 1690s, perhaps after 1695, when heavy taxes were raised to finance the king's wars on the continent. It is my intention to edit and publish a selection of Huw's vast output to mark the fourth centenary of his birth in 2022.
0 Comments

Podlediad Clera #43 Ebrill 2020

30/4/2020

0 Comments

 
Yn yr ail rifyn o bodlediad Clera yn ystod y Meudwyo Mawr – ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – ry'n ni'n trafod beth sy'n fy nghadw i ac Aneirin yn brysur, a dim yn fwy na golygu ar y cyd Y Gynghanedd Heddiw (Cyhoeddiadau Barddas), cyfrol newydd am y grefft a gyhoeddir yn nes ymlaen eleni. I ddarllen erthygl gan Aneurig sy'n amlinellu gweledigaeth a chynnwys y gyfrol yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Barddas, clicia fan hyn a throi at dudalen 28. Ceir trafodaeth ar ffugenwau – pam, sut a pha rai sy'n aros yn y cof – a cherdd newydd sbon gan Elinor Wyn Reynolds. At hynny, ceir eitem newydd lle ry'n ni'n gwahodd beirdd i rannu eu harferion creu â ni – sef ble, pryd a sut maen nhw'n mynd ati i lunio cerdd – a'n bardd cyntaf yw Philippa Gibson o Bontgarreg. Hynny i gyd a llongyfarchion i Dr Nei am gwblhau ei draethawd PhD yr wythnos hon! Cloir y bennod ag eitem gerddorol, ymdrech ffôl ond llawn bwriadau da gen i i ganu carol haf gan Huw Morys, bardd mwyaf yr ail ganrif ar bymtheg, a ninnau bellach ar drothwy mis Mai. I ddarllen golygiad llawn o'r gerdd honno gen i, clicia fan hyn.
Clera · Clera Ebrill 2020
1. Hynt a helynt y ddau hyn
2. 13.15 Pwnco: ffugenwau o bob math
3. 33.35 Pos rhif 38 gan Gruffudd a'i Ymennydd tu Mewn
4. 38.05 Yr Orffwysgerdd: 'Y Goeden Bants' gan Elinor Wyn Reynolds
5. 44.40 Eitem newydd am arferion creu'r beirdd: Philippa Gibson
6. 44.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis
7. 57.10 Y Newyddion Heddiw
8. 01.00.00 Carol haf gan Huw Morys

The Clera podcast this month (on both SoundCloud and iTunes) includes a discussion on poetic pseudonyms – those little nom de plumes that Welsh poets have to conjure up whenever they enter an eisteddfod competition – a brand new poem about pants (what else?) by Elinor Wyn Reynolds, and a new item on poets' writing habits (our first contribution comes from Philippa Gibson). All this and congratulations to Dr Aneirin for passing his PhD viva this week, and a musical number by yours truly to round things off, an attempt at least to sing a timely carol haf by Huw Morys (1622–1709). To read my new edition of the poem, click here.
0 Comments

Podlediad Clera #42 Mawrth 2020

28/4/2020

0 Comments

 
Daeth newid ar ein byd ni i gyd fis Mawrth eleni, ac mae pawb yn dal i addasu ac i ymdopi mewn gwahanol ffyrdd â'r Cau Mawr yn sgil ymlediad y feirws creulon. Dyw podlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) ddim yn eithriad, a'm gobaith i a Nei yw y bydd hwnnw'n fodd i ysgafnhau'r baich ac i fyrhau'r oriau nes y daw pethau'n ôl at eu coed unwaith eto. Gyda hynny mewn golwg, mae'r rhifyn y tro hwn yn cynnwys trosolwg o'r arlwy helaeth iawn sy ar gael ar lein i'r rheini sy'n caru barddoniaeth ac, yn wir, lenyddiaeth yn gyffredinol, yn cynnwys fy ngwefan i, gwefan Nei a gwefannau Barddas, ystamp.cymru, Cerddi Corona ar Facebook a llawer mwy. Ceir hefyd gerdd i godi calon pawb gan Iwan Rhys – ac nid Iwan sy'n darllen ond, yn hytrach, ei ddatgeiniad dros dro, y Bardd Plant Gruffudd Owen – ynghyd ag eitem am gyfrol newydd sbon ac unigryw iawn Aled Jones Williams o gerddi, Cerddaf o'r Hen Fapiau, yn cynnwys cyfraniad gan Arwel Rocet Jones. Gellir archebu copi o'r gyfrol honno – wedi ei chreu â llaw gan Aled ei hun – drwy glicio fan hyn. Hynny i gyd, a'r newyddion fod fy nghyfrol newydd o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), bellach wedi ei hargraffu … ond mae'r copïau i gyd yn sownd o hyd yn yr argraffdy!
Clera · Clera Mawrth 2020
1. Croeso gan Aneurig
2. 12.30 Pwnco: golwg ar hyn sy ar gael ar lein i'r rheini sy'n caru barddoniaeth
3. 28.15 Pos rhif 37 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 34.30 Yr Orffwysgerdd: Gruffudd Owen yn darllen 'Crwyth y Pythgodyn' gan Iwan Rhys
5. 37.55 Eitem am gyfrol newydd Aled Jones Williams
6. 44.40 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
7. 54.00 Y Newyddion Heddiw

With the Coronavirus changing all of our lives, our hope is that this month's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) will come as a welcome distraction. Speaking of which, this time we have a roundup of what else's on offer online free and readily available for those who love Welsh poetry, also a look at Aled Jones Williams's brand new collection of poetry, Cerddaf o'r Hen Fapiau – a unique manuscript handcrafted by the poet himself and available in limited supply – and a humorous poem by Iwan Rhys performed by Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.
0 Comments

Podlediad Clera #41 Chwefror 2020

27/4/2020

0 Comments

 
A ninnau bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd – yn gyfansoddiadol, o leiaf – mae rhifyn y mis bach o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac iTunes) yn rhoi llais i wrthdystiad y beirdd. Yn ogystal â gorffwysgerdd yr un gen i ac Aneirin, ceir cerddi hefyd gan Mari George, Iestyn Tyne, Emyr Lewis, Annes Glyn, Siôn Aled a Siân Northey – blodeuged o wyth cerdd, felly, i gadw'r fflam yn fyw. Gelli ddarllen fy ngherdd i, 'Parliament Square', ar y wefan hon drwy glicio fan hyn. Ceir hefyd rywfaint o hanes taith Aneirin i Lydaw'n ddiweddar, a thaith arall gen i i India, y tro hwn i Kolkata, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o gerddi i blant, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ar y cyd â Sampurna Chattarji. Trafodaeth hefyd ar feirniadu mewn eisteddfodau – yn cynnwys tips i gystadleuwyr a sylw i wefan wych Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – hanes noson ddiweddaraf Cicio'r Bar gyda Mari George a Bwca, ynghyd â'r holl eitemau eraill arferol.
Clera · Clera Chwefror 2020
1. Hynt a helynt Aneurig, o Lydaw i Kolkata
2. 15.25 Pwnco: beirniadu eisteddfodol
3. 29.55 Pos rhif 36 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 33.10 Y Gorffwysgerddi: rhesaid o gerddi i nodi gadael yr Undeb Ewropeaidd
​5. 43.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
6. 50.40 Y Newyddion Heddiw

In the wake of the UK's departure from the European Union, February's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) has a medley of poems by eight poets that form a challenge to those who think the battle's over (read mine here). We also hear from Aneirin about his recent visit to Brittany, I share some stories from my recent visit to Kolkata, and we both discuss the role of adjudicating in eisteddfodau all across Wales.
0 Comments
<<Previous

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio