Mae rhifyn mis Medi o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) yn whompyn! Trafodaeth ddifyr iawn am gynnyrch barddol yr Eisteddfod AmGen yng nghwmni Anwen Pierce, Alaw Mai Edwards a Hywel Griffiths, a recordiwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth; sgwrs hefyd â Sara Louise Wheeler ac Osian Owen am brosiect diddorol ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru; gorffwysgerdd gan Robert Lacey – hynny i gyd, a'r holl eitemau arferol.
Croeso, a chydig o hanes Aneurig
10.20 Pwnco: adolygu'r Cyfansoddiadau gydag Anwen Pierce, Alaw Mai Edwards a Hywel Griffiths. 47.35 Pos rhif 55 gan Gruffudd a'i Ymennydd mewn Croen Minc 52.40 Yr Orffwysgerdd: 'Bydded Priffordd' gan Robert Lacey 56.00 Sgwrs â Sara Louise Wheeler ac Osian Owen 01.18.40 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis 01.36.50 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast is a beast! A panel review of this year's Eisteddfod's winning poems, which are published annually with the adjudications, a talk about a new collaboration by Sara Louise Wheeler and Osian Owen, as well as all the usual items. Available on both SoundCloud and iTunes.
0 Comments
Dim Eisteddfod Gen eleni eto? Dim cweit. Dyma gywydd croeso i'r 'Steddfod Gudd/Amgen 2021. Clicia ar y llun i ddarllen y gerdd gyfan. A poem to open the 2021 National Eisteddfod, but not as you know it. Click on the image for the full poem.
Ar 2 Awst, yn absenoldeb yr Eisteddfod Genedlaethol, darlledwyd Oedfa BBC Radio Cymru dan fy ngofal i a Hywel Griffiths. Diolch am gael y cyfle i gydysgrifennu a chydgyflwyno'r rhaglen. A meddwl pawb ar y brifwyl, ro'n i a Hywel yn meddwl y byddai'n briodol rhoi sylw arbennig i ddau ŵr crefyddol dylanwadol o Geredigion, sef y diwygiwyr mawr Daniel Rowland o Langeitho (1713–90), a'r bardd Niclas y Glais (1879–1971), a dreuliodd lawer iawn o'i oes yn Aberystwyth. Gellir gwrando ar y rhaglen tan ddiwedd Awst drwy glicio fan hyn. Ar frig y rhaglen, dyfynnais linellau agoriadol cerdd gan Daniel Rowland a elwir yn 'halsing', sef math o gerdd boblogaidd a ddefnyddid gynt i adrodd straeon beiblaidd. Dyma ddiolch yn fawr iawn i E. Wyn James am anfon ei drawsysgrifiad ef o'r gerdd o'r unig gopi llawysgrif, sef LlGC Cwrtmawr 189, 99 (David Rees, c.1750). Halsing am y Nadolig yw'r gerdd honno, ond doedd dim gwahaniaeth am hynny, mewn gwirionedd, am fod geiriau gwahoddgar Daniel yn addas ar gyfer pob achlysur:
Ar ddiwedd y rhaglen, ceir cyfres o dri englyn gen i sy'n dathlu'r ffaith fod Duw, yn wyneb pob achos o ymbellhau cymdeithasol, yn dod i'n cwrdd ble bynnag yr y'n ni. Dduw ein Tad, rhoddwn i ti – ein diolch O dai ein trybini Am wirionedd y weddi Wydn hon: wyt gyda ni. Sul i Sadwrn, gwnei siwrnai – i’n tai dwys, A tydi yw’r gwestai, Ein Tad, a drawsffurfia’n tai Yn ddi-ildio’n addoldai. Ein Tad, tro heno badell – dy loeren Di i lawr i’n cymell, Tro ei horbit rhy hirbell At ofalon calon cell. Deffrown, Dad, ar doriad dydd – ein gweddi A rown ni o’r newydd, A daw’n ffaith dros dai ein ffydd Wawr lawn o fawr lawenydd. Ceir y tri darlleniad hyn yn y rhaglen hefyd, yn eu trefn: Salm 46; Llythyr Paul at y Philipiaid, pennod 4; Salm 103. The BBC Radio Cymru religious service on 2 August was both written and presented by Hywel Griffiths and I, and includes poems by the Nonconformist preacher from Llangeitho, Daniel Rowland (1713–90), and a poet and minister who spent much of his life in Aberystwyth, Niclas y Glais (1879–1971), as well as a short poem by myself. The programme is available online until the end of August.
Nos Lun 8 Mehefin, fe ges i'r fraint o gael fy holi gan fy nghyfaill bore oes, Hywel Griffiths, am fy nghyfrol newydd o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas). Clicia ar y fideo isod i wylio'r cyfan. Mae'r fideo ar gael hefyd ar wefan yr Eisteddfod ac ar sianel yr Eisteddfod ar YouTube.
Clicia ar y dolenni er mwyn darllen mwy am y gyfrol, i weld Hywel yn darllen cerdd newydd sbon a luniwyd ar gyfer yr Eisteddfod Amgen, ac i weld holl arlwy'r Eisteddfod ar lein.
This video was recorded as part of the National Eisteddfod's series of virtual events, Eisteddfod Amgen, on Monday 8 June. The poet Hywel Griffiths kindly asked me questions about my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas).
Ddiwrnod olaf Ionawr eleni, fe ges i fy hun ar gyrion Llundain â rhyw chwe awr i'w treulio cyn dal trên yn ôl i Aberystwyth. A hithau'n ddiwedd cyfnod hir i'r Deyrnas Unedig o fod yn aelod cyflawn o'r Undeb Ewropeaidd, fe ges i fy nhynnu i gylch y llewod yn Parliament Square. Ac i sgubo hynny o arswyd o'r cof, dyma gael llond pen o wynt drannoeth a theimlo brath yr ewyn wrth ymuno â gwrthdystiad llafar ar brom Aber. I ddarllen yr hanes yn llawn, ynghyd â chywydd a ysgrifennais yn sgil yr ymweliad â chanol Llundain, clicia fan hyn. A chance visit to the bowels of London at the end of January led to a poem that you can read here. The poison of Brexit found its antidote the next day, on a dazzlingly tempestuous day of fierce wind and smashing waves on the Aber seafront, where a large crowd came together in a show of strength and compassion in the face of such constitutional folly.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|