Mae podlediad Clera ar y lôn! Recordiwyd rhifyn Mehefin (sy ar gael ar SoundCloud ac iTunes) yn y dafarn yn Ffostrasol – lle da am fwyd a pheint – a bydd Nei a finnau ar dramp dros y misoedd nesaf hefyd, i'r Sesiwn Fawr yn Nolgellau yng Ngorffennaf ac yna i faes y brifwyl ym Môn yn Awst. Tan hynny, felly, mwynhewch gynnwys y rhifyn diweddaraf – mwy nag un eitem ddiddorol o Ŵyl Gerallt, cerdd gan Annes Glynn o'i chyfrol newydd, Hel Hadau Gwawn (Cyhoeddiadau Barddas), yn ogystal â Gruffudd a'i Ymennydd Miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r holl newyddion diweddaraf. Hynny i gyd yn sŵn hyfryd lleisiau criw o bobl Maori a fu'n ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ger Pen-y-bont ar Ogwr eleni.
1. Pwnco: eitem arbennig ar ddarllen barddoniaeth, a hynny o Ŵyl Gerallt, a gynhaliwyd yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ddiwedd Mai 2. 19.45 Pos rhif 4 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 23.10 Yr Orffwysfa: cerdd gan Annes Glynn o'i chyfrol newydd, Hel Hadau Gwawn, a sgwrs â'r bardd ei hun 4. 27.10 Recordiad o sesiwn Colofnwyr Barddas ar y Bocs Sebon yng Ngŵyl Gerallt, sef trafodaeth gan Ceri Wyn Jones ar y delyneg – pwnc sy'n medru ennyn 'senoffobia barddol' ymysg rhai! 5. 35.30 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 40.00 Y Newyddion Heddiw.
The Clera podcast is on the road! June's podcast (available on SoundCloud and iTunes) was recorded at the Ffostrasol Arms, and Nei and I will also be travelling over the next few months, first to Sesiwn Fawr in Dolgellau and then on to the National Eisteddfod on Anglesey. This month, we're talking about how poetry is read, a metre that can provoke xenophobia and relaxing after the election – all to the sound of Maori voices from the National Urdd Eisteddfod field near Brigdend.
0 Comments
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|