Dyma gerdd a luniwyd gan ddisgyblion Ysgol Henry Richard gyda chymorth eu hathrawes Enfys Hatcher, Hywel Griffiths a fi mewn gweithdy fis Mai eleni. Aethon ni i Gwm Brefi i ddechrau, i gasglu syniadau yn yr awyr agored, cyn rhoi'r gerdd at ei gilydd yn y dosbarth. Perfformiwyd y gerdd yn wych gan y disgyblion yn seremoni agoriadol y Babell Lên ar faes Eisteddfod Ceredigion. Ma’r lle ’ma’n gwd Croeso i agoriad swyddogol y babell, Bobol o agos a phobol o hirbell. Chwythwch i ffwrdd lwch dwy flynedd, Ma’r diwrnod mawr ’di dod o’r diwedd! Ond wow, wow, wow, cyn inni fynd ’mlân I‘ch diddanu ’da hyn o gân, Beth yn gwmws yw’r Babell Lên? Lle i ymlacio i bobol hen? Lle i fochel rhag y glaw? Lle difrifol ar y naw? Lle i stiwardiaid gael teimlo’n fawr? Beirdd ac awduron yn mynd ’mlân am awr? Lle i rai bendwmpian ac i eraill chwyrnu? Fi’n gweld rhai nawr yn cwympo i gysgu! Lle i feirdd yn unig, ac ambell lenor? Na! Lle i bawb â’i feddwl ar agor! Lle i’r ifanc, lle i’r hen, Lle i wylo, lle i wên, A lle i ddychmygu am y gore, Pabell i bawb sy’n caru geirie. Dewch i ymuno yn y wledd! Mwynhewch eich hunen, cym’rwch sedd. Gadewch i ni eich tywys bant I fro Twm Siôn Cati a Dewi Sant. Dewch ’da ni i’r mynydd fry Lle mae’r dŵr yn llifo’n gry’, Eich tra’d yn suddo i mewn i’r gwair Yng nghwmni’r gwynt ymhell o’r ffair. Mae’r mwsog gwyrdd fel cwilt ar y ca’, A’r tir yn las i ddathlu’r ha’. A glywch chi ddau yn ymrysona Yn ddi-stop o’r gangen ucha’? Glywch chi’r awel a’r dŵr glân Yn clebran gyda’r cerrig mân? Dacw’r eithin ar y bryn, Dacw’r llif o swigod gwyn, Dacw flodau bychain melyn Fel cyfrinach yn y tirlun. Craig y Foelallt, Pont Gogoyan, Aberdeuddwr a Chraig Ifan, Nant y Rhysgog, Afon Brefi, Brysio maen nhw i Afon Teifi. Gyda nhw ar hyd y daith Mae nentydd bach o’r mynydd maith, Berwyn, Cledlyn, Creuddyn, Cuch, Tweli, Dulais, Brennig wych. Ac fel taith y rheini i gyd, I’r fan hyn fe lifa’r byd, A chario’r iaith o bedwar ban A’i holl amrywiaeth i’r un man. Felly, nawr mae’r wledd ar ddechre, Dewch i greu’r atgofion gore! Dim ots os daw y glaw a’r mwd, Dewch bawb i mewn, ma’r lle ’ma’n gwd. A poem to celebrate the opening of the 2022 National Eisteddfod's literature tent in Tregaron, written by pupils from Ysgol Henry Richard – with some help by Hywel Griffiths and myself – and performed by them as part of the official opening.
5 Comments
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|