eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Llyfr Newydd: Hwrê mae hi'n Wyliau!

26/3/2017

0 Comments

 
Yn dilyn llwyddiant Geiriau Bach Chwareus, mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi cyfrol arall o gerddi i blant gan Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn, a Beirdd Plant y gorffennol – tri ar ddeg ohonyn nhw i gyd, o Ifor ap Glyn i Gwyneth Glyn. Enw'r gyfrol y tro hwn yw Hwrê mae hi'n Wyliau! ac, fel y gelli di ei ddyfalu, mae'r cerddi i gyd yn sôn am wyliau! Fel mae Anni yn ei ddweud yn ei chyflwyniad i'r gyfrol:

Mae pawb yn hoffi gwyliau, hyd yn oed beirdd. Mae gwyliau yn golygu hwyl, rhyddid, antur a threulio amser gyda'r bobl orau yn dy fywyd. Ydi, mae hi'n fendigedig mynd ar wyliau. Felly beth am roi gwyliau bach i dy ddychymyg? Coelia di fi, rhwng dau glawr y cei di a dy ddychymyg wyliau anturus.

Ymhlith y cerddi y tro hwn mae dwy gen i, y naill am ŵyl newydd sbon a hynod anhygoel o'r enw Gŵyl Eurig, a'r llall am helyntion Gwenlli yn Enlli, Elin yn y Felinheli a Iona yn Llanddona … mwynha'r darllen!
Picture

Following the success of Geiriau Bach Chwareus, Gwasg Carreg Gwalch have published a new collection of poetry about the holidays. Helmed by the current Bardd Plant Cymru (Welsh Children's Laureate), Anni Llŷn, Hwrê mae hi'n Wyliau also contains poems by thirteen other poets who have held the post, including two by me – one about a new and brilliant festival called Gŵyl Eurig, and another about the adventures of Gwenlli on Enlli, Elin in Felinheli and Iona in Llanddona …
0 Comments

Cerdd newydd: Y Stamp

26/3/2017

0 Comments

 
Picture
Mae gen i gof mai Osian Rhys a ddywedodd mewn cywydd un tro fod angen 'creu lle ar y we i'r iaith'. Roedd lansio e-gylchgrawn cyntaf y Stamp ar 23 Mawrth yn nhafarn y Cŵps yn gam pwysig ymlaen at gyflawni'r weledigaeth honno. Cafwyd perfformiadau gan Bethany Celyn, Rhys Trimble, Gareth Evans Jones, Alun Jones Williams a dau o olygyddion y Stamp, Grug Muse ac Iestyn Tyne, i nodi dechrau'r fenter newydd. Yn ôl gwefan y Stamp, y nod yw

cynnig llwyfan newydd i lenyddiaeth yn y Gymraeg, gan gyhoeddi rhyddiaith, barddoniaeth, erthyglau, cyfweliadau, adolygiadau a mwy.

Fy nghyfraniad i ar y noson oedd canu cywydd i ddymuno'n dda i'r pedwar golygydd – Grug, Iestyn, Miriam Elin Jones a Llŷr Titus – ac i dy annog di, ddarllenydd, a phawb arall i anfon dy waith atyn nhw whap!

ystamp.cymru

Ers saith mlynedd bu cleddyf
Angau ar gylchgronau'n gryf,
Troi miloedd yn bunnoedd bach,
Torri grantiau rhy grintach,
Ac yn fisol didolir
Rhyw un teitl i'w roi'n y tir …

I ddarllen gweddill y gerdd, clicia fan hyn! Mae copïau caled (nifer cyfyngedig) a chopïau pdf ar lein (am ddim) o'r e-gylchgrawn newydd sbon ar gael fan hyn.
Picture
Picture

On 23 March the very first issue of the e-magazine Y Stamp was launched in the Cŵps in Aberystwyth, with performances by Bethany Celyn, Rhys Trimble, Gareth Evans Jones, Alun Jones Williams and two of the editors, Grug Muse and Iestyn Tyne. Here's a cywydd I wrote to mark the occasion – click on this link to read the rest. Good luck to the editors, Grug, Iestyn, Miriam Elin Jones and Llŷr Titus!
0 Comments

Podlediad Clera #6 Mawrth 2017

12/3/2017

0 Comments

 
Bobl Cymru a'r byd – wele bodlediad Clera mis Mawrth! Fel arfer, mae'r podlediad ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Mae'r rhifyn hwn yn un swmpus iawn – Pwnco arbennig o Ŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd, cerdd newydd sbon gan Mihangel Morgan, sgwrs â dau o olygyddion cylchgrawn y Stamp, hanes Slam Castell Caerffili ... hynny i gyd a'r holl eitemau arferol hefyd – yn cynnwys pos barddol newydd sbon gan Gruffudd Antur. Mwynhewch!

1. Pwnco: trafodaeth arbennig am brofi barddoniaeth a recordiwyd yn yr Ŵyl Farddoniaeth yn Nhŷ Newydd, gyda chyfraniadau gan Ifor ap Glyn, Karen Owen, Gruffudd Antur, Elis Dafydd, Marged Tudur a Leusa Llewelyn
2. 22.15 Yr Orffwysfa: cerdd 'Peintio Sied' gan Mihangel Morgan
3. 27.10 Sgwrs â Miram Elin Jones a Iestyn Tyne, dau o olygyddion y Stamp
4. 37.40 Holl fwrlwm slam arbennig i ysgolion a gynhaliwyd yng nghastell Caerffili
5. 45.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
6. 57.05 Pryd o Dafod: y gynghanedd draws fantach
7. 01.03.15 Gruffudd a'i Ymennydd Miniog: pos barddol (ateb y mis nesaf)
8. 01.06.00 Y Newyddion Heddiw

The Clera podcast for March – available on both SoundCloud and iTunes – includes a discussion on how best to experience poetry (recorded at the Gŵyl Farddoniaeth in Tŷ Newydd), a mischievous poem by Mihangel Morgan, items on Y Stamp and a slam held at Caerffili castle, as well as one brand new item – a poetic brainteaser set by the encyclopaedia on two legs better known as Gruffudd Antur.
0 Comments

Gwobrau Gŵyl Dewi Aber Awards

8/3/2017

0 Comments

 
Mae pawb yng Nghymru'n adnabod neu'n gwybod am rai sy'n gwneud mwy na'r gofyn dros yr iaith Gymraeg. Ar 7 Mawrth, cynhaliwyd seremoni arbennig yn yr Hen Goleg i wobrwyo rhai aelodau a chyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth am eu cyfraniad eithriadol. Gofynnwyd imi lunio englyn yr un i'r saith enillydd, ac roedd darllen a chyflwyno'r englynion iddynt yn y seremoni'n brofiad cwbl arbennig.
Picture

​Faaeza Jasdanwalla-Williams
Dysgwr Rhagorol
​
Mae’r iaith yn marw weithiau – neu ar drai,
        Neu’n drwm o dan angau …
    Ond mi wn, ynot y mae
    Â’i chwiorydd yn chwarae.


Mair Daker
Pencampwr y Gymraeg (Staff)

Ers oes oesoedd, cyhoeddi – hen air oer
        Wnâi’r arwydd ‘Distewi!’
​    Diolch fod un heb dewi
    Sy’n llawn iaith, sy’n llyw i ni.


Owen Howells
Astudio drwy'r Gymraeg

Wyt, Owen, ym mhob tywydd – dros dy dîm,
        Dros dy iaith, yn lleisydd;
    Os byw hon, byw hon beunydd,
    Os dilyn, dilyn bob dydd.


Jeff Smith
Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr)

Jeffrey, fe weli’r heulwen – hyd yn oed
        Yn y nos anorffen;
​    Yn Aber, ti yw’r seren
    Â thân dy iaith yn dy wên.
​
​Felicity Roberts
Cyfraniad Oes

Wrth ein dysgu i rannu’r iaith – a’i byw hi,
        Cawsom bawb eich gobaith;
    Os tyf hedyn ond un waith,
    Fe egina’n gryf ganwaith.


Jaci Taylor
Cyfraniad Oes

Drwy’r nos ar ein daear ni – os yw’n oer,
        Os yw’n arw, Jaci,
    Yn y marwor, rhagori
    Ar gynnau tanau rwyt ti.


Jamie Holder
Cydnabyddiaeth Arbennig
​
Rôg hoffus, gwrw’r caffi – sŵn dy lais
        Yw’n diléit ni, Jamie;
    Heno, wrth dy urddo di,
    Gad dithau i ninnau weini.

A special ceremony was held in the Old College on 7 March to award seven members and former members of Aberystwyth University staff who have made a special contribution in their use of the Welsh language. It was my privilege to present each winner with a specially made englyn on the night. Congratulations to the seven winners!
0 Comments

Talwrn Dydd Gŵyl Ddewi

2/3/2017

0 Comments

 
Yn dilyn llwyddiant talwrn arbennig a gynhaliwyd ym mwyty Medina yn Aberystwyth fis Tachwedd, ac a drefnwyd gan Siop y Pethe, cynhaliwyd ail dalwrn yno ddydd Mercher 1 Mawrth. Dathlu Dydd Gŵyl Ddewi oedd yr achlysur, wrth gwrs – ynghyd â lansio siop ar lein Siop y Pethe.

Ceri Wyn Jones oedd y meuryn eto, a'r ddau dîm y tro hwn wedi eu ffurfio o brifeirdd ar y naill law – Hywel Griffiths, Idris Reynolds, Dafydd John Pritchard a Huw Meirion Edwards – ac o Wannabes ar y llaw arall, sef Sarah Down-Roberts, Endaf Griffiths, Arwel Rocet Jones a fi!

Dyma gywydd ysgrifennais i ar y testun 'Cywydd i unrhyw Gymro neu Gymraes enwog'. Fel y gweli, mae'r Cymro a ddewisais i gyda'r enwocaf ohonyn nhw i gyd, ac mae'n grwt lleol! Yn wir, ac ystyried pa mor enwog yw'r boi, mae'n drueni na fuasen ni yma yng Ngheredigion yn gwneud mwy ohono. Beth amdani, drigolion Aber – a yw'n hen bryd cynnal gŵyl i un o feirdd gorau'r genedl?
Gŵyl yn Aber?

Gŵyl i Dahl, gŵyl i Dylan,
A Gŵyl-gael-hwyl Nôl a Mla'n,
Tafwyl a Gŵyl holl Blant Gwent,
Gŵyl Arall a Gŵyl Lorient,
Gardd Goll, Dyn Gwyrdd, y Gelli,
Gŵyl gynta'r Cynhaea' i ni,
A'r Ŵyl Fawr, pob rhyw ŵyl fwyd
(A rhywrai a ohiriwyd),
Gwyliau gwin, gŵyl y geni,
Lôn i brifwyl Môn i mi,
Gŵyl un dydd Owain Glyndŵr,
Gŵyl anhygoel yn Ogwr,
Gŵyl Dewi (gwael ei dywydd),
Llên Plant, Cerdd Dant, pob sant sydd …

Pwy nesa', bobol Aber?
Ym mhorthdy Mawrth, dyma her
I'n cymell, draethell i drum …
Gŵyl i Ddafydd ap Gwilym!
Picture

Following the success of a talwrn held in Medina by Siop y Pethe back in November, another bardic contest was held to celebrate St David's Day on 1 March, for which I wrote this poem calling on the people of Aberystwyth to add one more to the already burgeoning list of festivals held across Wales every year – and why shouldn't we be celebrating one local boy done good who happens to be one of Wales's greatest poets?!
0 Comments
<<Previous

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2025 Poems >
      • Gwnawn | Mawrth 2025
    • Cerddi 2024 Poems >
      • Ddoi di gen-i? | Rhagfyr 2024
      • Ceredigion Starts | December 2024
      • Y Goeden Nadolig | Rhagfyr 2024
      • Oh, Christmas Tree | December 2024
      • Merêd a Phyllis | Tachwedd 2024
      • Gŵyl y Castell | Medi 2024
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Sea of Lanterns | December 2023
      • Seren Fach a Llusernau Fil | Rhagfyr 2023
      • Gwarchae | Medi 2023
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • The Memorial | September 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Ymchwil | Research
    • Guto'r Glyn
    • Huw Morys >
      • Pwy oedd Huw? | Who was Huw?
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio