eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Podlediad Clera #77 Chwefror 2023

27/2/2023

0 Comments

 
Mae eisiau beirdd ar y mis bach, yn wir – ac wele! Englyn i'n sobri gan Dylan, rap arobryn gan Non Lewis – enillydd y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd – a sgwrs am yr hyn y gallai meddalwedd newydd ChatGTP ei olygu i farddoniaeth yng nghwmni Sioned Mills ac Iestyn Lloyd o'r podlediad anhygoel Haclediad.
Clera · Clera Chwefror 2023
10.05 Delicasi gan Dylan
13.05 Pwnco: ChatGTP a'r beirdd, rhan 1
35.45 Yr Orffwysgerdd: rap arobryn gan Non Lewis
43.10 Pwnco: rhan 2
01.01.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis
01.19.45 Y Newyddion Heddiw

A poem to bring us down to earth, a rap by Non Lewis – winner of this year's Cardiff eisteddfod chair – and a chat about what ChatGTP could mean for poetry with Sioned Mills and Iestyn Lloyd from the brilliant podcast Haclediad.
0 Comments

Eisteddfod AmGen: sesiwn holi ac ateb Llyfr Gwyrdd Ystwyth

9/6/2020

0 Comments

 
Nos Lun 8 Mehefin, fe ges i'r fraint o gael fy holi gan fy nghyfaill bore oes, Hywel Griffiths, am fy nghyfrol newydd o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas). Clicia ar y fideo isod i wylio'r cyfan. Mae'r fideo ar gael hefyd ar wefan yr Eisteddfod ac ar sianel yr Eisteddfod ar YouTube.

Clicia ar y dolenni er mwyn darllen mwy am y gyfrol, i weld Hywel yn darllen cerdd newydd sbon a luniwyd ar gyfer yr Eisteddfod Amgen, ac i weld holl arlwy'r Eisteddfod ar lein.

This video was recorded as part of the National Eisteddfod's series of virtual events, Eisteddfod Amgen, on Monday 8 June. The poet Hywel Griffiths kindly asked me questions about my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas).
0 Comments

Podlediad Clera #41 Chwefror 2020

27/4/2020

0 Comments

 
A ninnau bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd – yn gyfansoddiadol, o leiaf – mae rhifyn y mis bach o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac iTunes) yn rhoi llais i wrthdystiad y beirdd. Yn ogystal â gorffwysgerdd yr un gen i ac Aneirin, ceir cerddi hefyd gan Mari George, Iestyn Tyne, Emyr Lewis, Annes Glyn, Siôn Aled a Siân Northey – blodeuged o wyth cerdd, felly, i gadw'r fflam yn fyw. Gelli ddarllen fy ngherdd i, 'Parliament Square', ar y wefan hon drwy glicio fan hyn. Ceir hefyd rywfaint o hanes taith Aneirin i Lydaw'n ddiweddar, a thaith arall gen i i India, y tro hwn i Kolkata, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o gerddi i blant, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ar y cyd â Sampurna Chattarji. Trafodaeth hefyd ar feirniadu mewn eisteddfodau – yn cynnwys tips i gystadleuwyr a sylw i wefan wych Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – hanes noson ddiweddaraf Cicio'r Bar gyda Mari George a Bwca, ynghyd â'r holl eitemau eraill arferol.
Clera · Clera Chwefror 2020
1. Hynt a helynt Aneurig, o Lydaw i Kolkata
2. 15.25 Pwnco: beirniadu eisteddfodol
3. 29.55 Pos rhif 36 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 33.10 Y Gorffwysgerddi: rhesaid o gerddi i nodi gadael yr Undeb Ewropeaidd
​5. 43.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
6. 50.40 Y Newyddion Heddiw

In the wake of the UK's departure from the European Union, February's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) has a medley of poems by eight poets that form a challenge to those who think the battle's over (read mine here). We also hear from Aneirin about his recent visit to Brittany, I share some stories from my recent visit to Kolkata, and we both discuss the role of adjudicating in eisteddfodau all across Wales.
0 Comments

Podlediad Clera #37 Hydref 2019

26/4/2020

0 Comments

 
Mae rhifyn mis Hydref o bodlediad Clera ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes, ac yn rhoi llwyfan i'r hyn a ddigwyddodd ar lwyfan Gŵyl Gerallt, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Eryrod yn Llanrwst ddiwedd y mis. Bydd mwy o arlwy'r ŵyl ar y podlediad dros y misoedd nesaf, ond fe ddechreuwn â recordiad o sgwrs rhwng Philippa Gibson a Tudur Dylan Jones. Ceir hefyd y rownd nesaf yn eitem Talwrn y Beirdd Ifanc, sef cystadleuaeth y triban rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Phiwmas y Preseli, ynghyd â gorffwysgerdd arbennig gan Karen Owen a Rhys Iorwerth, sef cywydd 'Curo' a luniwyd gan y ddau fardd hynny ac Iwan Llwyd yn ymryson Gŵyl Maldwyn yn 2008. Sôn hefyd am gyfrol newydd gan Aneirin, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg (Gwasg Carreg Gwalch), sef hanes ei gyfnod yn Llydaw'n ddiweddar ac, yn wir, hanes ehangach yr iaith Lydaweg. At hynny, englynion a luniwyd gen i a Hywel Griffiths ar ein hymweliad â Chernyw ddiwedd Medi er mwyn cynrychioli Gorsedd Cymru yng Ngorsedh Kernow – a llawer mwy!
Clera · Clera Hydref 2019
1. Hynt a helynt y ddau gyflwynydd
2. 10.10 Englynion gen i a Hywel Griffiths a ddarllenwyd yng Ngorsedh Kernow ddiwedd Medi
​3. 12.30 Pwnco: sgwrs o Ŵyl Gerallt rhwng Philippa Gibson a Tudur Dylan Jones
4. 23.45 Pos rhif 32 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
5. 28.25 Yr Orffwysgerdd: 'Curo' gan Karen Owen, Rhys Iorwerth ac Iwan Llwyd
6. 31.55 Talwrn y Beirdd Ifanc: yr ail rownd o'r ornest gyntaf
7. 40.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
8. 50.00 Y Newyddion Heddiw

This month's Clera podcast (on SoundClound and iTunes) has a live recording of a conversation between Philippa Gibson and Tudur Dylan Jones from Gŵyl Gerallt in Llanrwst, as well as round two from the Talwrn y Beirdd Ifanc competition, and a new poem performed by Karen Owen and Rhys Iorwerth.
0 Comments

Podlediad Clera #33 Mehefin 2019

23/6/2019

0 Comments

 
Rhifyn mis Mehefin o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac iTunes) yw'r olaf gydag Aneirin yn Llydaw – bydd e a'i deulu'n ôl yng Nghymru erbyn y rhifyn nesaf – ac yntau'n Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru. Yn ogystal â sgwrs Bwnco â'r Bardd Plant Cymru ewydd, Gruffudd Owen, a'r holl eitemau arferol, mae'r rhifyn hwn yn cynnwys sgwrs a recordiwyd yn noson Cicio'r Bar yn Stiwdio Gron Canolfan y Celfyddydau, a hynny rhwng Gruffudd Antur a'r bardd gerddor Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog gynt). Roedd Iwan yn lansio ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Gadael Rhywbeth (Cyhoeddiadau Barddas), ac ef hefyd sy biau'r orffwysgerdd y tro hwn – recordiwyd Iwan yn canu'r gerdd y noson honno. Fe es i hefyd i seremoni Llyfr y Flwyddyn, eto yng Nghanolfan y Celfyddydau, ac fe ges i sgwrs â'r bardd arlunydd bobdimiwr Siôn Tomos Owen am ei gyfraniad e at un o'r cyfrolau ar restr fer y wobr farddoniaeth eleni, Stafell fy Haul (Cyhoeddiadau Barddas) gan Manon Rhys. A sôn am Lyfr y Flwyddyn, mae gen i ddarn ar wefan y Stamp yn trafod y tair cyfrol farddoniaeth a ddaeth i'r brig. Sgwrs hefyd – neu dair sgwrs, a bod yn deg – gan Aneirin o Gouel Broadel a Brezhoneg, sef eisteddfod y Llydawyr, i bob diben.

​1. Croeso (am y tro olaf, i Nei, o Lydaw)
2. 12.50 Y Pwnco: sgwrs â'r Bardd Plant Cymru newydd, y prifardd Gruffudd Owen
3. 22.15 Pos rhif 28 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog
4. 26.00 Gruffudd Antur yn holi Iwan Huws yn noson Cicio'r Bar
5. 35.15 Yr Orffwysgerdd: Iwan Huws yn canu 'Defodau'
6. 39.10 Sgwrs â Siôn Tomos Owen yn seremoni Llyfr y Flwyddyn
7. 49.50 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: Gouel Broadel a Brezhoneg
​8. 57.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis!
9. 01.04.55 Y Newyddion Heddiw

This month's Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – is Aneirin's last from Brittany, and includes an item recorded by him at Brittany's premier cultural festival Gouel Broadel a Brezhoneg, also an interview with the new Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, two recordings from Cicio'r Bar at Aberystwyth Arts Centre, one of Gruffudd Antur in conversation with Iwan Huws about his first collection of poetry, Gadael Rhywbeth (Cyhoeddiadau Barddas), and a recording of a poem from that collection sung by Iwan himself. An interview too from Wales Book of the Year, also at the Arts Centre, with illustrator and poet and master of all trades Siôn Tomos Owen, about his collaboration with Manon Rhys on her shortlisted collection of poetry, Stafell fy Haul (Cyhoeddiadau Barddas).
0 Comments
<<Previous

    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • Y Gofeb | Medi 2023
      • Rygbi Sir Gâr | Mai 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
      • The Little Things | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio