Nos Lun 8 Mehefin, fe ges i'r fraint o gael fy holi gan fy nghyfaill bore oes, Hywel Griffiths, am fy nghyfrol newydd o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas). Clicia ar y fideo isod i wylio'r cyfan. Mae'r fideo ar gael hefyd ar wefan yr Eisteddfod ac ar sianel yr Eisteddfod ar YouTube.
Clicia ar y dolenni er mwyn darllen mwy am y gyfrol, i weld Hywel yn darllen cerdd newydd sbon a luniwyd ar gyfer yr Eisteddfod Amgen, ac i weld holl arlwy'r Eisteddfod ar lein.
This video was recorded as part of the National Eisteddfod's series of virtual events, Eisteddfod Amgen, on Monday 8 June. The poet Hywel Griffiths kindly asked me questions about my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas).
0 Comments
A ninnau bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd – yn gyfansoddiadol, o leiaf – mae rhifyn y mis bach o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac iTunes) yn rhoi llais i wrthdystiad y beirdd. Yn ogystal â gorffwysgerdd yr un gen i ac Aneirin, ceir cerddi hefyd gan Mari George, Iestyn Tyne, Emyr Lewis, Annes Glyn, Siôn Aled a Siân Northey – blodeuged o wyth cerdd, felly, i gadw'r fflam yn fyw. Gelli ddarllen fy ngherdd i, 'Parliament Square', ar y wefan hon drwy glicio fan hyn. Ceir hefyd rywfaint o hanes taith Aneirin i Lydaw'n ddiweddar, a thaith arall gen i i India, y tro hwn i Kolkata, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o gerddi i blant, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ar y cyd â Sampurna Chattarji. Trafodaeth hefyd ar feirniadu mewn eisteddfodau – yn cynnwys tips i gystadleuwyr a sylw i wefan wych Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – hanes noson ddiweddaraf Cicio'r Bar gyda Mari George a Bwca, ynghyd â'r holl eitemau eraill arferol.
1. Hynt a helynt Aneurig, o Lydaw i Kolkata
2. 15.25 Pwnco: beirniadu eisteddfodol 3. 29.55 Pos rhif 36 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 33.10 Y Gorffwysgerddi: rhesaid o gerddi i nodi gadael yr Undeb Ewropeaidd 5. 43.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 50.40 Y Newyddion Heddiw
In the wake of the UK's departure from the European Union, February's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) has a medley of poems by eight poets that form a challenge to those who think the battle's over (read mine here). We also hear from Aneirin about his recent visit to Brittany, I share some stories from my recent visit to Kolkata, and we both discuss the role of adjudicating in eisteddfodau all across Wales.
Mae'n fis prynu anrhegion! A beth well ar rifyn olaf y flwyddyn o Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) nag arolwg o'r cyfrolau barddol a'r cyfrolau gan feirdd sy ar gael y Nadolig hwn? Ceir cyfraniadau gan Alaw Mai Edwards (Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas), Casia Wiliam (cyn-Fardd Plant Cymru ac awdur Eliffant yn Eistedd ar Enfys), Ffrank Olding (bardd y gyfrol newydd Eilun), Esyllt Lewis (un o olygyddion cylchgrawn Y Stamp), Elinor Wyn Reynolds (awdur y nofel Gwirionedd) ac Iwan Rhys (awdur y nofel Y Bwrdd). Achubais i a Nei ar y cyfle wedyn i gael sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg (Gwasg Carreg Gwalch), ac am fy nghyfrol newydd i o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), a fydd allan yn y siopau'n fuan. Yn ogystal ag ychydig o hanes fy nhaith ddiweddar i India, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o farddoniaeth, The Bhyabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ceir sgwrs hefyd a recordiwyd yn Delhi rhyngof i a'm cyd-awdur, Sampurna Chattarji, sy'n cynnwys recordiad ohoni'n darllen ei cherdd 'Eisteddfod'. Hynny i gyd, a phedwaredd rownd Talwrn y Beirdd Ifanc, sef tasg yr haicw, gorffwysgerdd dymhorol gan Geraint Løvgreen a'r holl eitemau arferol.
1. Hanes diweddar Aneurig
2. 09.55 Pwnco: holl lyfrau barddol y Nadolig 3. 22.45 Sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg, a'm cyfrol newydd i o farddoniaeth, Llyfr Gwyrdd Ystwyth 4. 42.00 Pos rhif 34 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 5. 46.35 Yr Orffwysgerdd: 'Siôn Corn' gan Geraint Løvgreen 6. 49.05 Talwrn y Beirdd Ifanc: pedwaredd rownd yr ornest gyntaf 7. 53.25 Sgwrs â Sampurna Chattarji a recordiwyd yn Delhi 8. 01.08.10 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 9. 01.12.50 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) provides a personal shopping experience to some of the season's new books by some of the publishing industry's key agents and writers. Also a seasonal poem by Geraint Løvgreen, a conversation with Sampurna Chattarji, recorded on my recent visit to Delhi to launch and promote a brand new book of poems for children with Sampurna, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), and much more!
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|