Wele Bodlediad Clera mis Rhagfyr! Fel arfer, mae ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Dyma'r trydydd podlediad yn y gyfres – clicia fan hyn i wrando ar rifyn mis Hydref ac ar rifyn mis Tachwedd. Cafodd y prif destun trafod y mis hwn ei ysbrydoli gan flogbost am gystadlu gan Osian Rhys Jones sy'n gofyn y cwestiwn heriol – a oes gormod o bwyslais ar gystadlu yn y sin farddol heddiw? Roedd blogbost Osian yn ei dro'n ymateb i sylw gan Alan Llwyd a ddarllenwyd ar bodlediad cyntaf Clera, sef mai lle i feirdd fwrw prentisiaeth yn unig y dylai cystadleuaeth fod … I'n cynorthwyo ni yn ein trafodaeth y tro hwn, fe ges i ac Aneirin gyfraniadau diddorol iawn gan Grug Muse a Myrddin ap Dafydd.
Yn ogystal â hynny, mae'r podlediad yn cynnwys adolygiad gan brif weithredwr Golwg360 ac uwch-olygydd cylchgrawn Y Selar, Owain Schiavone, o Bardd ar y Bêl gan Llion Jones (Cyhoeddiadau Barddas), cerdd Nadoligaidd gan Mari George, ynghyd â'r eitemau arferol – Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, Pryd o Dafod a'r newyddion diweddaraf. Ac fel anrheg Nadolig arbennig ar gyfer ein holl wrandawyr hoff, mae englyn yr un gen i a Nei wedi eu gosod o dan goeden y podlediad tua diwedd y recordiad. Nadolig llawen i bawb! 1. Pwnco: a oes gormod o bwyslais ar gystadlu yn y sin farddol heddiw? 2. 19:39 Yr Orffwysfa: cerdd Nadoligaidd gan Mari George 3. 21:18 Adolygiad gan Owain Schiavone o Bardd ar y Bêl gan Llion Jones 4. 38:26 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 5. 45:23 Pryd o Dafod: yr acen lafarog 6. 48:36 Newyddion
The December edition of Podlediad Clera has arrived! It's available on both SoundCloud and iTunes. This month Aneirin and I discuss whether there's too much emphasis on competition in the Welsh-language poetry scene today. The issue also includes a review of Llion Jones's latest collection, Bardd ar y Bêl, new poetry by Mari George and much, much more. For more information on previous editions, click here.
0 Comments
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|