A hithau'n Galan Mai, a mwy o angen nag erioed yn sgil y Meudwyo Mawr i ddathlu dyfodiad yr haf, dyma rannu golygiad gen i o garol haf gan Huw Morys. Bardd o'r ail ganrif ar bymtheg oedd Huw (1622–1709) – y mwyaf o feirdd y ganrif honno – ac roedd o'n byw ym Mhont-y-meibion yn nyffryn Ceiriog. Canodd gannoedd o gerddi yn ystod ei oes hir, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi goroesi mewn llawysgrifau, a rhai yn ei law ef ei hun. Ychydig sy'n cofio amdano heddiw, yn anffodus, gan mor llwyr y difrïwyd yr ail ganrif ar bymtheg fel canrif y dirywio mawr yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ond fel y bydda' i'n ei ddangos mewn ysgrif yn Y Gynghanedd Heddiw, cyfrol wedi ei golygu gen i ac Aneirin Karadog a gyhoeddir yn nes ymlaen eleni (gw. erthygl gen i ac Aneirin yn y rhifyn cyfredol o Barddas), mae Cymru ar ei cholled yn sgil gwarthnodi ac anwybyddu cynnyrch hynod amrywiol a chyfoethog y ganrif honno. Er mwyn dechrau'r gwaith mawr o gywiro'r gwall, mae'n fwriad gen i gyhoeddi golygiadau o rai o gerddi Huw erbyn dathlu pedwar canmlwyddiant ei eni yn 2022.
Fodd bynnag, wrth olygu'r gerdd, fe ddes o hyd i hen alaw a ddiogelwyd gan John Jenkins (1770–1829), sef Ifor Ceri, clerigwr a hynafiaethydd a wnaeth waith allweddol o ran casglu'r hen alawon gwerin. Nodir mewn llythyr ganddo iddo godi fersiwn o'r alaw boblogaidd 'Mwynen Mai', a ddefnyddid yn aml i ganu carolau haf, gan ddyn yn nyffryn Ceiriog oedd yn ddisgynnydd i ŵr 'who used to sing them to Huw Morus with his unrivalled songs'. Hon, fe fentraf i, yw'r alaw a ddefnyddid i ganu carolau haf yn nyffryn Ceiriog a'r cyffiniau, a gallwn ailuno heddiw'n hyderus eiriau'r hen feistr â'r alaw wreiddiol. I glywed y geiriau a'r alaw'n cael eu canu gen i – cyn y gallaf i ddod o hyd i rywun gwell i wneud y gwaith maes o law – gwranda ar bum munud olaf rhifyn mis Ebrill o bodlediad Clera (o 01.00.00 ymlaen). (Diolch yn arbennig i Bethan Miles am fy helpu i ddarllen y gerddoriaeth.) Ceir isod olygiad llawn gen i o destun y gerdd, ynghyd â geirfa, nodiadau ar ei chynnwys, ei mesur, ei chynghanedd, ei halaw a'r unig lawysgrif lle'i diogelwyd, yn ogystal â gwybodaeth am olygiadau eraill. This is my new edition of a carol haf, or summer carol, by the greatest Welsh poet of the sixteenth century, Huw Morys (1622–1709) of Pont-y-meibion in the Ceiriog valley. My edition is based on the only extant manuscript copy, whose readings are superior to the other known texts (the most recent of which was published in 1902), and brings the text together with its original tune (my unfortunate but well-meaning attempt at singing it can be heard from the hour mark on in April's Clera podcast). May-day poems were sung with accompaniment on the fiddle to joyfully celebrate the beginning of summer, and often include a brief commentary on the year gone by. Huw refers to the blight of taxation during the reign of William III (1689–1702), and the poem therefore probably belongs to the 1690s, perhaps after 1695, when heavy taxes were raised to finance the king's wars on the continent. It is my intention to edit and publish a selection of Huw's vast output to mark the fourth centenary of his birth in 2022.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|