Mae rhifyn mis Medi o bodlediad Clera – sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – yn edrych yn ôl at wythnos y brifwyl ym Môn ac ymlaen at orwel yn llawn digwyddiadau barddol cyffrous. Y gwestai arbennig y tro hwn yw'r prifardd Osian Rhys Jones – neu'r prifardd Osian Corrach i lawer – enillydd cystadleuaeth y Gadair eleni. Diolch Osian am dy gwmni ac am roi lifft i Aneurig i fyny'r bryn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru! Aethon ni i'r Llyfrgell Gen i gael sgwrs â phrifardd arall, Dafydd John Pritchard, am sioe deithiol newydd y Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, am Hedd Wyn a'r Rhyfel Mawr, sef Y Gadair Wag. Megis clustogau esmwyth ar y naill ochr i'r ddwy sgwrs hynny mae'r eitemau arferol, o'r pos i'r newyddion i gerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, sef un o gerddi'r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni – mae'r pedair cerdd a luniodd Grug ar gael i'w darllen ar wefan y Stamp.
1. Pwnco: sgwrs â bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Môn, Osian Rhys Jones 2. 20.10 Pos rhif 7 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 22.15 Yr Orffwysfa: 'Ysgol Bae Baglan', un o gerddi'r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn y brifwyl eleni gan Grug Muse 4. 24.40 Adolygiad o sioe newydd Ifor ap Glyn, Y Gadair Wag 5. 35.35 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 43.00 Y Newyddion Heddiw
The September edition of the Clera podcast is here, on both SoundCloud and iTunes. This month we're in conversation with Osian Rhys Jones, the winner of the Chair competition at the National Eisteddfod on Anglesey, Dafydd John Pritchard reviews Ifor ap Glyn's multimedia show, Y Gadair Wag, about the life and work of Hedd Wyn, and Grug Muse reads her poem to the winner the Eisteddfod Gold Prize for Architecture, Ysgol Bae Baglan.
0 Comments
Yn dilyn y podlediad cyntaf a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn, wele'r ail bodlediad yng nghyfres Cysylltiadau Barddonol, sef sgwrs rhyngof i a Sampurna Chattarji, bardd o India, am ein gwaith ar y prosiect o'r un enw. Y tro hwn, ry'n ni'n trafod digwyddiad y buon ni'n rhan ohono yn Aberystwyth nos Fawrth fel rhan o ŵyl Hen Linell Bell, ynghyd â seminar gyfieithu y bu Sampurna'n ei harwain gyda rhai o fyfyrwyr y radd Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ry'n ni hefyd yn trafod ffilm fer ry'n ni'n dau wedi bod yn ei chreu – Sampurna'n darllen cyfres o saith cerdd a finnau'n gwneud y gwaith ffilmio a golygu. Ysgrifennodd Sampurna ei cherddi yn sgil ei hymweliad diwethaf ag Aberystwyth, ac mae wedi bod yn hwyl ailymweld â'r gwahanol leoliadau – fel y castell, y Llew Du a'r Llyfrgell Genedlaethol – a fu'n ysbrydoliaeth iddi. Bydd y ffilm honno ar gael i'w gwylio ar y wefan hon maes o law.
Following the release of the first podcast on Saturday, the Poetry Connections podcast is back. Sampurna Chattarji and I discuss our progress on the project, including an event in which we took part on Tuesday as part of the Far Old Line festival in Aberystwyth, as well as a translation seminar led by Sampurna with students who follow the Professional Translation Studies course at Aberystwyth University. We also discuss a short film we've both been working on over the last few days – Sampurna reading her work and myself filming and editing. Sampurna wrote a series of seven poems on her last visit to Aberystwyth, and it's been great retracing our steps to the Old College, Trefechan bridge, the coffee shops and other locations where Sampurna found inspiration. The film will be posted on this website soon.
Daeth ymwelydd o Mwmbái i Aberystwyth echddoe – Sampurna Chattarji, un o lenorion Saesneg mwyaf blaenllaw India. Dwi wedi bod yn ffodus i gydweithio â Sampurna ar fwy nag un prosiect llenyddol ers 2010, ac ry'n ni'n dau bellach yn ffrindiau da. Daeth Sampurna i Aber eleni fel rhan o Gysylltiadau Barddonol India-Cymru, prosiect a drefnir gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau ac a ariennir gan British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Byddaf i a Sampurna – ynghyd â phedwar pâr arall o feirdd – yn cydweithio yng Nghymru ac yn India gyda'r nod o gyhoeddi cyfres o gyhoeddiadau ym mis Ionawr 2018. Mae'r podlediad isod yn rhoi blas o'n profiadau cyntaf ni yn y prosiect hwn wrth inni droedio strydoedd Aber ar drywydd ysbrydoliaeth drwy law mân mis Gorffennaf …
Byddaf i a Sampurna, ynghyd â phâr arall o feirdd sy'n rhan o'r prosiect – Nicky Arscott a Subhro Bandopadhyay – yn cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad yng Nghymru, y naill yn rhan o Ŵyl Hen Linell Bell yn Aberystwyth nos Fawrth 1 Awst, a'r llall yng Nghaffi Alys ym Machynlleth am chwech o'r gloch nos Iau 3 Awst. Byddwn hefyd yn ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Môn. One of India's foremost English-language writers, Sampurna Chattarji, is currently in Aberystwyth as part of the Poetry Connections India-Wales project, organised by Literature Across Frontiers and supported by British Council Wales and Wales Arts International. I'll be working with Sampurna in Aberystwyth over the next few weeks and again in Kolkata later on in the year on a collaboration that will be published as part of a series of publications in January 2018. Four other pairs of poets are also working on similar collaborations as part of this project. The podcast above is a sneak peek at our first steps in this venture, as we begin to navigate poetry on the streets of Aberystwyth under some lovely July drizzle … Both Sampurna and I, along with another pair of poets who are part of this project – Nicky Arscott and Subhro Bandopadhyay – will be taking part in two events in Wales, the first as part of the Far Old Line Festival in Aberystwyth on Tuesday 1 August, and then in Caffi Alys in Machynlleth on Thursday 3 August. We will also be visiting the National Eisteddfod on Anglesey.
Mae podlediad Clera ar y lôn! Recordiwyd rhifyn Mehefin (sy ar gael ar SoundCloud ac iTunes) yn y dafarn yn Ffostrasol – lle da am fwyd a pheint – a bydd Nei a finnau ar dramp dros y misoedd nesaf hefyd, i'r Sesiwn Fawr yn Nolgellau yng Ngorffennaf ac yna i faes y brifwyl ym Môn yn Awst. Tan hynny, felly, mwynhewch gynnwys y rhifyn diweddaraf – mwy nag un eitem ddiddorol o Ŵyl Gerallt, cerdd gan Annes Glynn o'i chyfrol newydd, Hel Hadau Gwawn (Cyhoeddiadau Barddas), yn ogystal â Gruffudd a'i Ymennydd Miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r holl newyddion diweddaraf. Hynny i gyd yn sŵn hyfryd lleisiau criw o bobl Maori a fu'n ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ger Pen-y-bont ar Ogwr eleni.
1. Pwnco: eitem arbennig ar ddarllen barddoniaeth, a hynny o Ŵyl Gerallt, a gynhaliwyd yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ddiwedd Mai 2. 19.45 Pos rhif 4 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 23.10 Yr Orffwysfa: cerdd gan Annes Glynn o'i chyfrol newydd, Hel Hadau Gwawn, a sgwrs â'r bardd ei hun 4. 27.10 Recordiad o sesiwn Colofnwyr Barddas ar y Bocs Sebon yng Ngŵyl Gerallt, sef trafodaeth gan Ceri Wyn Jones ar y delyneg – pwnc sy'n medru ennyn 'senoffobia barddol' ymysg rhai! 5. 35.30 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 40.00 Y Newyddion Heddiw.
The Clera podcast is on the road! June's podcast (available on SoundCloud and iTunes) was recorded at the Ffostrasol Arms, and Nei and I will also be travelling over the next few months, first to Sesiwn Fawr in Dolgellau and then on to the National Eisteddfod on Anglesey. This month, we're talking about how poetry is read, a metre that can provoke xenophobia and relaxing after the election – all to the sound of Maori voices from the National Urdd Eisteddfod field near Brigdend.
On 23 March the very first issue of the e-magazine Y Stamp was launched in the Cŵps in Aberystwyth, with performances by Bethany Celyn, Rhys Trimble, Gareth Evans Jones, Alun Jones Williams and two of the editors, Grug Muse and Iestyn Tyne. Here's a cywydd I wrote to mark the occasion – click on this link to read the rest. Good luck to the editors, Grug, Iestyn, Miriam Elin Jones and Llŷr Titus!
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|