Mae rhifyn mis Medi o bodlediad Clera – sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – yn edrych yn ôl at wythnos y brifwyl ym Môn ac ymlaen at orwel yn llawn digwyddiadau barddol cyffrous. Y gwestai arbennig y tro hwn yw'r prifardd Osian Rhys Jones – neu'r prifardd Osian Corrach i lawer – enillydd cystadleuaeth y Gadair eleni. Diolch Osian am dy gwmni ac am roi lifft i Aneurig i fyny'r bryn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru! Aethon ni i'r Llyfrgell Gen i gael sgwrs â phrifardd arall, Dafydd John Pritchard, am sioe deithiol newydd y Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, am Hedd Wyn a'r Rhyfel Mawr, sef Y Gadair Wag. Megis clustogau esmwyth ar y naill ochr i'r ddwy sgwrs hynny mae'r eitemau arferol, o'r pos i'r newyddion i gerdd yr Orffwysfa gan Grug Muse, sef un o gerddi'r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni – mae'r pedair cerdd a luniodd Grug ar gael i'w darllen ar wefan y Stamp.
1. Pwnco: sgwrs â bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Môn, Osian Rhys Jones 2. 20.10 Pos rhif 7 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 22.15 Yr Orffwysfa: 'Ysgol Bae Baglan', un o gerddi'r Fedal Aur am Bensaernïaeth yn y brifwyl eleni gan Grug Muse 4. 24.40 Adolygiad o sioe newydd Ifor ap Glyn, Y Gadair Wag 5. 35.35 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 43.00 Y Newyddion Heddiw
The September edition of the Clera podcast is here, on both SoundCloud and iTunes. This month we're in conversation with Osian Rhys Jones, the winner of the Chair competition at the National Eisteddfod on Anglesey, Dafydd John Pritchard reviews Ifor ap Glyn's multimedia show, Y Gadair Wag, about the life and work of Hedd Wyn, and Grug Muse reads her poem to the winner the Eisteddfod Gold Prize for Architecture, Ysgol Bae Baglan.
0 Comments
A bod yn deg, dyw'r cerddi hyn ddim yn rhyw newydd iawn! Cerddi ydyn nhw a gyfansoddwyd yn ôl yn 2014 pan o'n i'n Fardd Pensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Roedd gofyn imi ymweld â'r chwe adeilad newydd a oedd ar restr fer y Fedal Aur am Bensaernïaeth, a llunio cerdd yn ymateb i bob un yn ei dro – bu'n brofiad gwych. Tan yn ddiweddar, dim ond dwy o'r cerddi hynny a oedd ar gael i'w darllen yma, ond mae pob un o'r chwech bellach wedi eu llwytho ar y wefan. Daeth yr Eisteddfod ym Môn eleni â'r cerddi i'r cof unwaith eto – Elan Grug Muse oedd y bardd preswyl y tro hwn, ac mae ei cherddi hyfryd hi ar gael i'w darllen ar wefan Y Stamp. Dyma fy chwe cherdd i, a dwy gerdd arall yn Saesneg – clicia arnyn nhw i'w darllen: ⚬ Stormy Castle, Bro Gŵyr (mae fersiwn Saesneg ar gael hefyd) ⚬ Old Farm Mews, Dinas Powys ⚬ Ffwrnes, Llanelli ⚬ New Barn, Felindre ⚬ Melin Talgarth (mae fersiwn Saesneg ar gael hefyd) ⚬ Capel Galilea, Llanilltud Fawr All six poems written as part of a commission for the National Eisteddfod in Carmarthenshire 2014 are now online – just click on the links:
⚬ Stormy Castle, Bro Gŵyr ⚬ Old Farm Mews, Dinas Powys ⚬ Ffwrnes, Llanelli ⚬ New Barn, Felindre ⚬ Melin Talgarth ⚬ Capel Galilea, Llanilltud Fawr There are also English versions of two of these poems: ⚬ Talgarth Mill ⚬ Stormy Castle A hithau'n ddiwedd Awst a'r Eisteddfod Genedlaethol yn araf droi'n atgof pell – mae'n dymor cyfarch. Dyma roi ar y wefan ddwy gerdd gyfarch, un yn newydd sbon a'r llall ychydig yn hŷn. Mae'n siŵr y daw mwy maes o law! Mae'r gerdd gyntaf yn un a luniais i ar faes yr Eisteddfod ym Môn ddydd Mercher yr ŵyl, a hynny i'w darllen ym mhrif seremoni'r dydd fel enillydd y Fedal Ryddiaith y llynedd, er clod i'r enillydd newydd eleni, sef Sonia Edwards o Gemaes. Clicia fan hyn i ddarllen y tri englyn. Mae'r ail gerdd yn flwyddyn oed bellach – cywydd i longyfarch Aneirin Karadog, f'annwyl gyd-bodlediwr, ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau y llynedd. Darllenwyd y gerdd mewn noson i gyfarch Aneirin – ynghyd â nifer o enillwyr eraill o Sir Gâr – yng Nghlwb y Cwins yng Nghaerfyrddin fis Medi 2016. Clicia fan hyn i ddarllen y cywydd. The busyness of the National Eisteddfod usually gives way by the end of August to the work of celebrating the winners of the main prizes. Here are two poems, the first to this year's Prose Medal winner – Sonia Edwards – and the second to last year's Chair winner and fellow-podcaster extraordinaire – Aneirin Karadog.
Cafodd rhifyn mis Awst o bodlediad Clera ei recordio'n fyw yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Môn. Mae'r cyfan, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Dyma'r eildro mewn dau fis inni recordio'n fyw, ar ôl ein hymweliad â'r Sesiwn Fawr yn ôl ym mis Gorffennaf. A hithau'n Sadwrn olaf y brifwyl, roedd y croeso a gawson ni yn y Babell Lên gystal ag unrhyw ffisig i'n cadw ni'n ffres ar ddiwedd wythnos brysur iawn ar gyrion Bodedern! Mae'r arlwy o'r maes yn cynnwys sgwrs ddifyr iawn ag enillydd y Goron, Gwion Hallam (mae'r bryddest fuddugol ar gael i'w darllen fan hyn), cerdd newydd sbon gan enillydd Tlws D. Gwyn Evans, Morgan Owen, a deng munud o giamocs gwych gydag Anni Llŷn ac Endaf Griffiths. Diolch i bawb am gyfrannu, a diolch hefyd i griw a chynulleidfa'r Babell Lên – ro'n i a Nei ar ben ein digon!
1. Pwnco: sgwrs â bardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Môn, Gwion Hallam 2. 15.25 Yr Orffwysfa: cerdd fuddugol cystadleuaeth Tlws D. Gwyn Evans, 'Gwyfyn' gan Morgan Owen 3. 19.50 Pos rhif 6 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 23.30 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 5. 33.10 Gemau a Giamocs gydag Anni Llŷn ac Endaf Griffiths 6. 43.00 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast – available on both SoundCloud and iTunes – was recorded live at the National Eisteddfod of Wales on Anglesey. We catch up with the winner of the Crown competition, Gwion Hallam, and enjoy a brand new poem by Morgan Owen, the winner of the D. Gwyn Evans prize for poets under 25. Both Anni Llŷn and Endaf Griffiths pitch in too with hilarious new takes on well-known poems – and much more!
Recordiwyd y pedwerydd podlediad Cysylltiadau Barddonol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn. Er bod Sampurna Chattarji wedi ymweld â Chymru droeon o'r blaen, dyma oedd ei hymweliad cyntaf â'r brifwyl, a hynny ddydd Iau, pan gyhoeddwyd enillydd yr Her Gyfieithu, a dydd Gwener, diwrnod y cadeirio. Hon yw'r sgwrs olaf rhyngof i a Sampurna yma yng Nghymru fel rhan o'r prosiect hwn – bydd y podlediad nesaf yn cael ei recordio yn India ddiwedd Hydref, pan fyddaf i'n ailymuno â Sampurna yn Kolkata. Tan hynny, mwynha'r sgwrs ddifyr hon am ymrysona, am gerrig yr Orsedd ac am ganu'n iach!
The fourth Poetry Connections podcast was recorded at the National Eisteddfod on Anglesey. Sampurna Chattarji has visited Wales many times, but this was her first visit to the Eisteddfod, an annual cultural celebration of everything Welsh. I'm glad Sampurna got to see the Eisteddfod in the sun on Thursday, when the winner of the Translation Challenge was announced, and the prestigious chairing ceremony more than made up for the change in weather on Friday. This edition of the podcast will be the last recorded in Wales as part of this project – the next will be recorded in India at the end of October, when Sampurna and I will be reunited in Kolkata. Until then, enjoy this latest conversation about poetry competitions, the Gorsedd of the Bards and singing farewell! |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|