Recordiwyd rhifyn mis Awst o bodlediad Clera (sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes) ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Dyma'r ail dro inni fod yn rhan o arlwy'r Babell Lên, ond y tro cyntaf inni fwynhau'r fath foethusrwydd! Diolch i'r Eisteddfod am ein gwahodd i gyfrannu at brifwyl lwyddiannus iawn yn y Bae, ac i gynulleidfa lengar y babell. Diolch hefyd i'n gwesteion arbennig – neb llai na phrif weithredwr newydd yr Eisteddfod, Betsan Moses, y prifardd Rhys Iorwerth, y prifardd newydd sbon Gruffudd Eifion Owen, y gomedïwraig Beth Jones a'r posfeistr Gruffudd Antur.
1. Croeso ac englyn (hwyr!) i Lŷr Hael 2. 05.50 Pwnco: sgwrs â phrif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses 3. 14.55 Pos rhif 18 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 19.55 Yr Orffwysfa: 'Eisteddfod 2018' gan Rhys Iorwerth 5. 25.10 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Maes! 6. 32.45 Sgwrs â'r gomedïwraig Beth Jones 7. 37.45 Gemau a Giamocs gyda Beth Jones a'r prifardd Gruffudd Eifion Owen 8. 43.25 Y Newyddion Heddiw
The August Clera podcast (available on both SoundCloud and iTunes) was recorded in Y Babell Lên at the National Eisteddfod in Cardiff Bay, with special guests Betsan Moses – new chief executive of the Eisteddfod – the comedian Beth Jones and poets Rhys Iorwerth, Gruffudd Antur and winner of the Chair at this year's Eisteddfod, Gruffudd Eifion Owen.
0 Comments
Wrandawyr o bedwar ban, wele anrheg Gŵyl Ddewi hwyr o goffrau podlediad Clera! Recordiwyd y rhifyn hwn yng Nghanolfan Gymraeg yr Atom yng Nghaerfyrddin ac mae, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Mae'r Pwnco y tro hwn wedi ei ysgogi gan ebost gan Adrian Lewis o Ben-arth, a fu'n pendroni pam fod beirdd yn darllen eu gwaith ar bapur neu sgrin heddiw, tra bod cerddorion yn aml yn canu heb ddim o'u blaen. Neidiodd Nei ar y cyfle i rannu rhywfaint o ffrwyth ei waith ymchwil am ddoethuriaeth, sef y berthynas rhwng y bardd a'i gyfrwng a'i gynulleidfa. Gwaith rhai o ddisgyblion ysgolion uwchradd Caerdydd sy i'w glywed yn yr Orffwysfa – a hynny yn llais eu datgeiniad, y prifardd Osian Rhys Jones – sef cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. Fe ges i a Nei gyfle hefyd yng Nghaerfyrddin i gael sgwrs â Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam, sy'n agosáu at hanner ffordd drwy ei chyfnod yn y swydd, ac â Steffan Phillips, Swyddog Llenyddiaeth yn y Gymuned i Lenyddiaeth Cymru. Hyn i gyd, a'r holl eitemau arferol, ynghyd ag englyn amserol gan Nei i gloi'r rhifyn.
1. Pwnco: englyn newydd i'n noddwr, Llŷr Hael (00.55), a sgwrs am y gamp o ddarllen cerddi ar y cof, a pha mor berthnasol yw hynny yn y sîn farddol heddiw (03.15) 2. 22.40 Pos rhif 13 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 26.50 Yr Orffwysfa: cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 4. 30.15 Sgwrs â Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam, a Steffan Phillips o Lenyddiaeth Cymru 5. 41.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 49.55 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast was recorded at Yr Atom, the Welsh Language Centre in Carmarthen, and is available on both SoundCloud and iTunes. We discuss the role of memory in the process of performing poetry, catch up with Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam, half way through her term, and hear a brand new poem written by secondary school pupils in Cardiff to welcome the Urdd Eisteddfod to the city in 2019.
This book marks the culmination of a partnership in poetry that spans seven years and two countries some 5000 miles apart. A journey that began in 2011 as part of a poetry translation workshop at Tŷ Newydd Writing Centre in north Wales has pulled into its orbit places as far removed from each other as Aberystwyth and Bombay/Mumbai, as well as Thiruvananthapuram, Porth-cawl, Cardiff, London, Kolkata, Swansea and Shantiniketan. We have both been afforded a fleeting, deeply enriching glimpse of each other's home towns, cities and nations. And in turn gained an insight into those things and places that we believed to be most familiar to us: streets, communities, homes, poems, even words themselves.
Daeth megis seren wib bodlediad Clera ola'r flwyddyn! Ac mae'n stoncar – sgwrs ddifyr iawn â'r bardd a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, Llŷr Gwyn Lewis (gelli ddarllen ei awdl yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barddas), cywydd Nadoligaidd newydd sbon gan Anwen Pierce a'r holl eitemau arferol. At hynny, fe wahoddwyd Clera gan yr Urdd i recordio eitem am weithdy a gynhaliwyd yn y ddinas gyda'r prifardd Osian Rhys Jones a chriw o ddisgyblion lleol, a hynny ar gyfer llunio cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019. Diolch yn arbennig i Llio Maddocks am fod yn ohebydd gwych inni! Bydd y cywydd gorffenedig yn cael ei gyhoeddi ar Clera yn y gwanwyn. Mae'r podlediad, fel arfer, ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes neu, yn symlach fyth, isod.
1. Pwnco: englyn newydd sbon i'n noddwr hael, Llŷr James (05.00), a sgwrs â Llŷr Gwyn Lewis am yr awdl a anfonodd i gystadleuaeth y Gadair eleni (06.30) 2. 27.40 Pos rhif 10 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 33.00 Yr Orffwysfa: cywydd am ddeuoliaeth y Nadolig gan Anwen Pierce 4. 35.20 Eitem am yr hwyl o greu cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 5. 41.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 47.05 Y Newyddion Heddiw
The last Clera podcast of the year – available on both SoundCloud and iTunes – includes a fascinating interview with Llŷr Gwyn Lewis about a poem he sent to this year's Chair competition at the National Eisteddfod, a brand new poem by Anwen Pierce and an item on a poetry workshop held in Cardiff with the poet Osian Rhys Jones.
This poem was read at an evening to celebrate the successes of five former students of Aberystwyth University at the National Eisteddfod of Wales on Anglesey in August. The poem, written by myself, Hywel Griffiths and Iwan Rhys, congratulates our fellow-clerwr, Osian Rhys Jones, on winning the Chair.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|