Ddechrau Medi eleni, es i a Hywel Griffiths i gynrychioli Gorsedd Cymru yng Ngorsedh Kernow yn Lanust. Roedd y croeso'n gynnes, y cwrw'n braf a'r haul yn gwenu. Ar ôl cyrraedd nos Wener, aeth y ddau ohonon ni ati i lunio cerdd i'w darllen yn y seremoni heulog brynhawn Sadwrn, a gelli ddarllen y gyfres honno o dri englyn drwy glicio fan hyn. Peth gwych arall inni'n dau oedd gweld aelodau gleision yr orsedd yn cael eu derbyn, a Gwenno Saunders yn eu plith am roi lle mor ganolog i Gernyweg ac i'w hetifeddiaeth Gernywaidd yn ei cherddoriaeth. Yn ei haraith o'r llwyfan, gwnaeth y Bardd Mawr Liz Carne – yr archdderwydd, i bob diben – yn eglur y dylid ystyried y Cernywiaid yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain, a'u diogelu a'u hyrwyddo ochr yn ochr â lleiafrifoedd eraill. Roedd gwneud hynny, meddai Liz, yn bwysicach nag erioed yn nhymor gwallgof Brecsit. Galwodd hefyd am gydnabod Cernyw'n wlad ar wahân i Loegr. Roedd y seremoni yn ei chyfanrwydd yn eithriadol o debyg i seremonïau Gorsedd Cymru, a dylanwad Iolo Morganwg ar bob dim, o'r ddawns flodau i'r floedd am heddwch. Ond roedd dau wahaniaeth nodedig, ac eithrio'r ffaith fod pob dim mewn Cernyweg yn gyntaf ac yn Saesneg wedyn. Y cyntaf oedd y pwyslais mawr ar Arthur. Hyd yn oed yn y chwedlau Cymraeg, yng Ngelli-wig yng Nghernyw yr oedd llys Arthur, a does syndod, mewn gwirionedd, fod ei enw i'w glywed mor aml yn y seremoni. Rhoddwyd ei gleddyf deuddarn, at hynny, yn fy nwylo i a Hywel, ond wn i ddim a fyddai Iolo wedi cydsynio! Yr ail wahaniaeth oedd y ffaith fod yr holl orseddogion yn dod at ei gilydd ar y diwedd er mwyn canu'r anthem, a phawb yn gosod ei law ar ysgwydd rhywun arall. Roedd yn ffordd drawiadol iawn o ddod â'r dathlu i ben. Roedd sgwâr blodeuog y dre – triongl, mewn gwirionedd – yn gartref i dair tafarn (yn cynnwys ein gwesty yn y Commercial), ac mae tafarn y Star gerllaw'n gartref i griw anffurfiol o ganorion tafarn. Daeth y criw o ddynion lleol at ei gilydd yn y dafarn rai blynyddoedd yn ôl a dechrau cydganu caneuon traddodiadol. Maen nhw bellach yn enwog drwy Gernyw ac wedi ysbrydoli criwiau eraill i ddechrau canu. Cawson ni ymuno â nhw ar y nos Sadwrn, a helpu criw o Grwydriaid Crwbin – o bob criw dan haul! – oedd wedi mentro i Gernyw ar eu taith flynyddol, i ganu ambell gân Gymraeg. Doedd y môr namyn deng munud o gerdded i'r dwyrain o'r dref, ac fe es i a Hywel am sgowt i weld traeth o'r enw Porth Nanven. Mae'r fan yn enwog am ei daeareg anhygoel – mwy am hynny gan Hywel fan hyn – ac am ei cherrig crynion, yn fân ac yn fawr, a dreiglwyd yn llyfn gan y môr a'r canrifoedd, a chymaint yw eu hynodrwydd nes bod eu dwyn o'r fan yn erbyn y gyfraith! Roedd arwydd yng ngolwg y tonnau'n nodi'r gwaharddiad hwnnw, a chadw ato'n ddau fachgen da wnaethon ni. Ond dyma ddau beth o Gernyw nad oedd arnon ni gywilydd eu dwyn gyda ni'r holl ffordd adref i Gymru – brawdoliaeth a chyfeillgarwch. In early September, Hywel Griffiths and I travelled to Cornwall to represent Gorsedd Cymru in Gorsedh Kernow. We were given a very warm and generous welcome to St Just and were privileged to take part in the ceremony. I spoke of our morning visit to Porth Nanven beach, where a sign told us that taking away the distinctive rounded stones was against the law (more about it's amazing geology by Hywel here). We abided by that law, but we will certainly take away feelings of warm comradeship, hospitality and new friendships. Hywel added that in times of so much talk of estrangement and division, nowhere more than the British Isles unfortunately, coming together to strengthen bonds between us was more important than ever, and it was a privilege to be here to do so with you. As two poets, we thought it would be fitting to read a poem, composed soon after our arrival in Lanust, to mark the occasion: you can read it here.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|