A hithau'n ddiwedd Awst a'r Eisteddfod Genedlaethol yn araf droi'n atgof pell – mae'n dymor cyfarch. Dyma roi ar y wefan ddwy gerdd gyfarch, un yn newydd sbon a'r llall ychydig yn hŷn. Mae'n siŵr y daw mwy maes o law! Mae'r gerdd gyntaf yn un a luniais i ar faes yr Eisteddfod ym Môn ddydd Mercher yr ŵyl, a hynny i'w darllen ym mhrif seremoni'r dydd fel enillydd y Fedal Ryddiaith y llynedd, er clod i'r enillydd newydd eleni, sef Sonia Edwards o Gemaes. Clicia fan hyn i ddarllen y tri englyn. Mae'r ail gerdd yn flwyddyn oed bellach – cywydd i longyfarch Aneirin Karadog, f'annwyl gyd-bodlediwr, ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau y llynedd. Darllenwyd y gerdd mewn noson i gyfarch Aneirin – ynghyd â nifer o enillwyr eraill o Sir Gâr – yng Nghlwb y Cwins yng Nghaerfyrddin fis Medi 2016. Clicia fan hyn i ddarllen y cywydd. The busyness of the National Eisteddfod usually gives way by the end of August to the work of celebrating the winners of the main prizes. Here are two poems, the first to this year's Prose Medal winner – Sonia Edwards – and the second to last year's Chair winner and fellow-podcaster extraordinaire – Aneirin Karadog.
0 Comments
Fis Ionawr y llynedd fe es i a chriw o ddaearyddwyr a beirdd ar wibdaith i fynyddoedd yr Elenydd i drafod yr Anthroposen ac i chwilio am ysbrydoliaeth! Mae ffrwyth y daith honno bellach i'w weld ar lein mewn erthygl ar wefan GeoHumanities. Bydd yr hanner can clic unigryw cyntaf ar y ddolen arbennig hon yn tywys y darllenydd at yr erthygl i'w darllen yn rhad ac am ddim. Mae'r erthygl, a gydlynwyd gan Hywel Griffiths, yn cynnwys hanes a chefndir y daith, cerddi Cymraeg a Saesneg gan Hywel, cerdd yn Saesneg gan Gavin Goodwin, stori fer yn Saesneg gan Tyler Keevil, a cherdd yn Saesneg gen i. Mae'r gerdd honno ar gael i'w darllen ar fy ngwefan hi hefyd drwy glicio fan hyn, yn ogystal â cherdd arall yn Gymraeg a luniwyd ar gyfer yr un achlysur. In January last year a group of geographers and poets travelled through the Elenydd mountains to explore the Anthropocene and in search of inspiration. The fruit of our labours can now be read online in an article published in GeoHumanities – free for the first lucky fifty clicks on this link.
The article was written by Hywel Griffiths and includes discussion and background, poems in both Welsh and English by Hywel, a poem in English by Gavin Goodwin, a short story in English by Tyler Keevil and a poem in English by me. That poem can also be read on my website by clicking here, along with another poem in Welsh written for the same project.
On 23 March the very first issue of the e-magazine Y Stamp was launched in the Cŵps in Aberystwyth, with performances by Bethany Celyn, Rhys Trimble, Gareth Evans Jones, Alun Jones Williams and two of the editors, Grug Muse and Iestyn Tyne. Here's a cywydd I wrote to mark the occasion – click on this link to read the rest. Good luck to the editors, Grug, Iestyn, Miriam Elin Jones and Llŷr Titus!
Bobl Cymru a'r byd – wele bodlediad Clera mis Mawrth! Fel arfer, mae'r podlediad ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Mae'r rhifyn hwn yn un swmpus iawn – Pwnco arbennig o Ŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd, cerdd newydd sbon gan Mihangel Morgan, sgwrs â dau o olygyddion cylchgrawn y Stamp, hanes Slam Castell Caerffili ... hynny i gyd a'r holl eitemau arferol hefyd – yn cynnwys pos barddol newydd sbon gan Gruffudd Antur. Mwynhewch!
1. Pwnco: trafodaeth arbennig am brofi barddoniaeth a recordiwyd yn yr Ŵyl Farddoniaeth yn Nhŷ Newydd, gyda chyfraniadau gan Ifor ap Glyn, Karen Owen, Gruffudd Antur, Elis Dafydd, Marged Tudur a Leusa Llewelyn 2. 22.15 Yr Orffwysfa: cerdd 'Peintio Sied' gan Mihangel Morgan 3. 27.10 Sgwrs â Miram Elin Jones a Iestyn Tyne, dau o olygyddion y Stamp 4. 37.40 Holl fwrlwm slam arbennig i ysgolion a gynhaliwyd yng nghastell Caerffili 5. 45.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 57.05 Pryd o Dafod: y gynghanedd draws fantach 7. 01.03.15 Gruffudd a'i Ymennydd Miniog: pos barddol (ateb y mis nesaf) 8. 01.06.00 Y Newyddion Heddiw
The Clera podcast for March – available on both SoundCloud and iTunes – includes a discussion on how best to experience poetry (recorded at the Gŵyl Farddoniaeth in Tŷ Newydd), a mischievous poem by Mihangel Morgan, items on Y Stamp and a slam held at Caerffili castle, as well as one brand new item – a poetic brainteaser set by the encyclopaedia on two legs better known as Gruffudd Antur.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|