Fis Ionawr y llynedd fe es i a chriw o ddaearyddwyr a beirdd ar wibdaith i fynyddoedd yr Elenydd i drafod yr Anthroposen ac i chwilio am ysbrydoliaeth! Mae ffrwyth y daith honno bellach i'w weld ar lein mewn erthygl ar wefan GeoHumanities. Bydd yr hanner can clic unigryw cyntaf ar y ddolen arbennig hon yn tywys y darllenydd at yr erthygl i'w darllen yn rhad ac am ddim. Mae'r erthygl, a gydlynwyd gan Hywel Griffiths, yn cynnwys hanes a chefndir y daith, cerddi Cymraeg a Saesneg gan Hywel, cerdd yn Saesneg gan Gavin Goodwin, stori fer yn Saesneg gan Tyler Keevil, a cherdd yn Saesneg gen i. Mae'r gerdd honno ar gael i'w darllen ar fy ngwefan hi hefyd drwy glicio fan hyn, yn ogystal â cherdd arall yn Gymraeg a luniwyd ar gyfer yr un achlysur. In January last year a group of geographers and poets travelled through the Elenydd mountains to explore the Anthropocene and in search of inspiration. The fruit of our labours can now be read online in an article published in GeoHumanities – free for the first lucky fifty clicks on this link.
The article was written by Hywel Griffiths and includes discussion and background, poems in both Welsh and English by Hywel, a poem in English by Gavin Goodwin, a short story in English by Tyler Keevil and a poem in English by me. That poem can also be read on my website by clicking here, along with another poem in Welsh written for the same project.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|