Dyma'r trydydd podlediad yng nghyfres Cysylltiadau Barddonol (clicia fan hyn i wrando'r podlediad cyntaf a'r ail bodlediad). Y tro hwn, dwi a Sampurna Chattarji yn trafod noson braf o ddarllen cerddi a drefnwyd gan Nicky Arscott yng Nghaffi Alys ym Machynlleth, yr ymryson rhwng Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Gryg, ac yn edrych ymlaen at ymweliad cyntaf Sampurna â'r Eisteddfod Genedlaethol yn nes ymlaen yr wythnos hon. Ry'n ni hefyd yn trafod natur gyfnewidiol y ddinas ym Mwmbái drwy gyfrwng cerdd (o'r casgliad 'Ffiniau') gen i a darlleniad o gyfrol Sampurna, Dirty Love.
Here's the third Poetry Connections podcast (click here for the first podcast and the second). This time, Sampurna Chattarji and I discuss a great reading organised by Nick Arscott in Caffi Alys in Machynlleth, a series of debate poems by Dafydd ap Gwilym and Gruffudd Gryg, and Sampurna's upcoming first visit to the National Eisteddfod later this week. We also explore the changing nature of the city in Mumbai through a poem of mine (from a series titled 'Ffiniau') and an excerpt from Sampurna's book Dirty Love.
0 Comments
Yn dilyn y podlediad cyntaf a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn, wele'r ail bodlediad yng nghyfres Cysylltiadau Barddonol, sef sgwrs rhyngof i a Sampurna Chattarji, bardd o India, am ein gwaith ar y prosiect o'r un enw. Y tro hwn, ry'n ni'n trafod digwyddiad y buon ni'n rhan ohono yn Aberystwyth nos Fawrth fel rhan o ŵyl Hen Linell Bell, ynghyd â seminar gyfieithu y bu Sampurna'n ei harwain gyda rhai o fyfyrwyr y radd Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ry'n ni hefyd yn trafod ffilm fer ry'n ni'n dau wedi bod yn ei chreu – Sampurna'n darllen cyfres o saith cerdd a finnau'n gwneud y gwaith ffilmio a golygu. Ysgrifennodd Sampurna ei cherddi yn sgil ei hymweliad diwethaf ag Aberystwyth, ac mae wedi bod yn hwyl ailymweld â'r gwahanol leoliadau – fel y castell, y Llew Du a'r Llyfrgell Genedlaethol – a fu'n ysbrydoliaeth iddi. Bydd y ffilm honno ar gael i'w gwylio ar y wefan hon maes o law.
Following the release of the first podcast on Saturday, the Poetry Connections podcast is back. Sampurna Chattarji and I discuss our progress on the project, including an event in which we took part on Tuesday as part of the Far Old Line festival in Aberystwyth, as well as a translation seminar led by Sampurna with students who follow the Professional Translation Studies course at Aberystwyth University. We also discuss a short film we've both been working on over the last few days – Sampurna reading her work and myself filming and editing. Sampurna wrote a series of seven poems on her last visit to Aberystwyth, and it's been great retracing our steps to the Old College, Trefechan bridge, the coffee shops and other locations where Sampurna found inspiration. The film will be posted on this website soon.
Daeth ymwelydd o Mwmbái i Aberystwyth echddoe – Sampurna Chattarji, un o lenorion Saesneg mwyaf blaenllaw India. Dwi wedi bod yn ffodus i gydweithio â Sampurna ar fwy nag un prosiect llenyddol ers 2010, ac ry'n ni'n dau bellach yn ffrindiau da. Daeth Sampurna i Aber eleni fel rhan o Gysylltiadau Barddonol India-Cymru, prosiect a drefnir gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau ac a ariennir gan British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Byddaf i a Sampurna – ynghyd â phedwar pâr arall o feirdd – yn cydweithio yng Nghymru ac yn India gyda'r nod o gyhoeddi cyfres o gyhoeddiadau ym mis Ionawr 2018. Mae'r podlediad isod yn rhoi blas o'n profiadau cyntaf ni yn y prosiect hwn wrth inni droedio strydoedd Aber ar drywydd ysbrydoliaeth drwy law mân mis Gorffennaf …
Byddaf i a Sampurna, ynghyd â phâr arall o feirdd sy'n rhan o'r prosiect – Nicky Arscott a Subhro Bandopadhyay – yn cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad yng Nghymru, y naill yn rhan o Ŵyl Hen Linell Bell yn Aberystwyth nos Fawrth 1 Awst, a'r llall yng Nghaffi Alys ym Machynlleth am chwech o'r gloch nos Iau 3 Awst. Byddwn hefyd yn ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Môn. One of India's foremost English-language writers, Sampurna Chattarji, is currently in Aberystwyth as part of the Poetry Connections India-Wales project, organised by Literature Across Frontiers and supported by British Council Wales and Wales Arts International. I'll be working with Sampurna in Aberystwyth over the next few weeks and again in Kolkata later on in the year on a collaboration that will be published as part of a series of publications in January 2018. Four other pairs of poets are also working on similar collaborations as part of this project. The podcast above is a sneak peek at our first steps in this venture, as we begin to navigate poetry on the streets of Aberystwyth under some lovely July drizzle … Both Sampurna and I, along with another pair of poets who are part of this project – Nicky Arscott and Subhro Bandopadhyay – will be taking part in two events in Wales, the first as part of the Far Old Line Festival in Aberystwyth on Tuesday 1 August, and then in Caffi Alys in Machynlleth on Thursday 3 August. We will also be visiting the National Eisteddfod on Anglesey. Fis Ionawr y llynedd fe es i a chriw o ddaearyddwyr a beirdd ar wibdaith i fynyddoedd yr Elenydd i drafod yr Anthroposen ac i chwilio am ysbrydoliaeth! Mae ffrwyth y daith honno bellach i'w weld ar lein mewn erthygl ar wefan GeoHumanities. Bydd yr hanner can clic unigryw cyntaf ar y ddolen arbennig hon yn tywys y darllenydd at yr erthygl i'w darllen yn rhad ac am ddim. Mae'r erthygl, a gydlynwyd gan Hywel Griffiths, yn cynnwys hanes a chefndir y daith, cerddi Cymraeg a Saesneg gan Hywel, cerdd yn Saesneg gan Gavin Goodwin, stori fer yn Saesneg gan Tyler Keevil, a cherdd yn Saesneg gen i. Mae'r gerdd honno ar gael i'w darllen ar fy ngwefan hi hefyd drwy glicio fan hyn, yn ogystal â cherdd arall yn Gymraeg a luniwyd ar gyfer yr un achlysur. In January last year a group of geographers and poets travelled through the Elenydd mountains to explore the Anthropocene and in search of inspiration. The fruit of our labours can now be read online in an article published in GeoHumanities – free for the first lucky fifty clicks on this link.
The article was written by Hywel Griffiths and includes discussion and background, poems in both Welsh and English by Hywel, a poem in English by Gavin Goodwin, a short story in English by Tyler Keevil and a poem in English by me. That poem can also be read on my website by clicking here, along with another poem in Welsh written for the same project.
Ymhlith y toreth o gerddi sydd yn y rhifyn hwn, ceir dwy gerdd gan Sampurna Chattarji, bardd o Mumbái a chyfaill da iawn a ddaeth ar ymweliad i Aberystwyth ym mis Medi eleni. Ysbrydolwyd y gerdd gyntaf gan un o'r pethau gorau i'w gwneud yn Aber – yfed yn ei thafardai lu! – ac mae'r ail yn ymdrin ag un o leoliadau mwyaf eiconig y dref – glan y môr a'r harbwr. Dyna wych fod Aber wedi ysgogi cerddi newydd gan un o feirdd gorau India! Am gerdd gen i am ymweliad â dinas Sampurna, clicia fan hyn. The latest issue of Poetry Wales has arrived, full of new poems and interesting articles, packed tight against the cold just in time for winter. It includes two articles that evaluate the Welsh-language poetry scene today. On the face of it, things have never been better, but all is not as it seems – or so say Llŷr Gwyn Lewis and Grug Muse. Short excerpts from both articles are shown above, provocative observations that chime with much that has been said in two issues of the Clera podcast for October and November. Introspection must be good for any scene from time to time.
The abundence of poems in the current issue include two by Sampurna Chattarji, a poet based in Mumbai and very good friend who visited Aberystwyth back in September. The first poem was inspired by a mini pub crawl from Scholars to Downies Vaults to the Llew Du – just the two of us drinking in abandoned bars out of season – and the second by a trip to Aber's iconic seafront and harbour. To read about a poem of mine in a previous edition of Poetry Wales that was inspired by a visit to Sampurna's home city, click here. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|