eurig salisbury
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio

Blog

Cerddi newydd: cerddi Donostïa

13/8/2016

0 Comments

 
Picture
Ganol Gorffennaf eleni, fe deithiais i a Karen Owen i Wlad y Basg i gynrychioli Cymru mewn gŵyl barddoniaeth fyrfyfyr yn Donostïa (San Sebastian yn Sbaeneg). Mae'r traddodiad o fyrfyfyrio mor gryf yng Ngwlad y Basg nes bod ei beirdd yn medru llunio cerddi newydd sbon ar unrhyw destun o fewn ychydig eiliadau! Bu'n rhaid i mi a Karen lunio cerddi byrfyfyr hefyd, ond fe gawson ni ychydig mwy o amser i wneud hynny. I ddarllen y cerddi a luniais yng Ngwlad y Basg ac am fwy o hanes y daith, clicia fan hyn.

Yn ogystal â bod yn brofiad arbennig, roedd yr ŵyl hefyd fel pe bai'n rhoi dwy her imi: Oni ddylid perfformio mwy o farddoniaeth yn yr awyr agored yng Nghymru? Ac oni ddylai beirdd a pherfformwyr Cymru fynnu eu bod yn cael darllen eu gwaith drwy systemau sain o safon?

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad yn yr awyr agored fel rhan o'r ŵyl, y naill yn yr hen dref yn ninas Donostïa a'r llall yn nhref wledig Oñati (lle tynnais y llun uchod). Trefnwyd y lleoliadau o flaen llaw – llwyfannau naturiol mewn sgwariau gan amlaf – ond doedd dim wedi ei baratoi o ran y gynulleidfa. Dim tocynnau, ac ychydig iawn o hysbysebu – ffurfiodd y gynulleidfa'n naturiol wrth i'r bobl leol gerdded heibio a chlywed y sŵn. Roedd y ffaith fod y beirdd yn llafarganu eu gwaith yn help, mae'n siŵr, o ran denu'r dorf, ynghyd â'r elfen berfformiadol gref, sef gosod testun a disgwyl i'r bardd ateb o fewn ychydig eiliadau. Ond wrth fynd â barddoniaeth yn syth at y bobl yn y strydoedd, fe welais i rywbeth nad yw'n digwydd yng Nghymru ond ar rai achlysuron penodol – cynulleidfa o bob oedran, rhyw a chefndir yn dod ynghyd i fwynhau gwrando ar gerddi.

Mae'r ail bwynt ynghlwm â'r cyntaf, sef bod y digwyddiadau awyr agored wedi eu hwyluso'n fawr gan safon y system sain. Llond trol o focsys technegol a weiars, ynghyd ag un seinydd tenau, uchel, a dyrnaid o feics, a'r cyfan yn cael ei wthio'n hwylus o'r naill le i'r llall gan ddau dechnegydd. Wrth ddarllen fy ngherddi byrfyfyr o flaen y meic mewn strydoedd poblog, fe wyddwn i bob tro fod y gynulleidfa'n clywed pob gair. Doedd dim angen imi godi fy llais na phoeni pa mor agos yr o'n i at y meic – dim ond canolbwyntio ar ddarllen y gerdd. A dyma sylweddoli pa mor aml mae'r gwrthwyneb yn digwydd mewn digwyddiadau yng Nghymru – meics doji sy'n gwegian fel hen bolion ffa, eu sain yn popian a minnau'n clustfeinio i glywed fy llais fy hun.

Beth amdani, Barddas, Llenyddiaeth Cymru neu Gyngor Celfyddydau Cymru, neu gynghorau sir a thref, o ran hynny – a yw'n amser buddsoddi mewn systemau sain symudol sy'n deilwng o gerddi modern, a dod â barddoniaeth yn nes at y bobl?

Earlier this July, Karen Owen and I took part in a festival of improvised poetry in Donostia (San Sebastian in Spanish) in the Basque Country. The improvised poems I composed for four events during the festival are available here. The festival was a great experience, and two outdoor events in particular made me wonder whether more should be done to bring poetry to public spaces in Wales. Pop-up events in the streets of Donostia and Oñati drew large crowds and were facilitated by a state-of-the-art moveable sound system. Whilst performances in Wales are often hampered by floppy mikes and poor speakers, reading poems in the crowded streets of the Basque Country was a pleasure – no need to raise my voice or worry about feedback. Is it time organisers in Wales invested in a sound system that would allow modern Welsh poets to reach new audiences?

2016ko uztailean Karen Owen eta biok bertsolaritza jaialdi batean parte hartu genuen Donostian, Euskal Herrian. Geure olerkigintzaren fineziaz oso harro gaude galesdunok, baina hala ere euskararen bertso tradiziokoek, hots, ustekabean zeinnahi gai jarrita olerki inprobisatuak berehalaxe botatzen dituzten batbateko birtuosoak diren horiek, ez dute parerik. Hemen bildutako olerkiak jaialdian errezitatu nituen, bakoitza ordubetean gehienez ere antolatzaileek hautatutako gaiei buruz idatzirik baina hori bai, erritmo eta aliterazioaren galesezko arauak ondo beteaz! Esperientzia ahaztezina izan da. Eskerrik asko honetan aritu diren guztiei!
0 Comments



Leave a Reply.


    Blog eurig.cymru

    cerddi | syniadau
    poems | ideas


    Tweets by eurig

    Archif | Archives

    February 2023
    January 2023
    December 2022
    July 2022
    April 2022
    October 2021
    September 2021
    July 2021
    March 2021
    February 2021
    August 2020
    June 2020
    May 2020
    April 2020
    October 2019
    September 2019
    August 2019
    July 2019
    June 2019
    May 2019
    April 2019
    March 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    January 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    September 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016


    Categorïau | Categories

    All
    Aberystwyth
    Adolygiad
    Barn
    BBC Radio Cymru
    Books
    Cerddi Newydd
    Children
    Cicio'r Bar
    Comisiynu
    Commission
    Croeso
    Cyfieithu
    Cymraeg
    Eisteddfod
    English
    Gwefan
    Huw Morys
    India
    Kernow
    Llyfrau
    New Poetry
    Opinion
    O'r Pedwar Gwynt
    Plant
    Podlediad Clera
    Poetry Wales
    Review
    S4C
    Saesneg
    Taliesin
    Talwrn
    Website
    Welcome
    Welsh
    Y Stamp

    RSS Feed

eurig.cymru
sefydlwyd yn Ionawr 2016 | established January 2016
hawlfraint Eurig salisbury o ran y testun a'r lluniau, oni nodir yn wahanol | all text and pictures © Eurig Salisbury unless otherwise stated
  • Cerddi | Poems
    • Cerddi 2023 Poems >
      • The Little Things | March 2023
      • Archif Ddarlledu Cymru | Mawrth 2023
      • Wales Broadcast Archive | March 2023
    • Cerddi 2022 Poems >
      • I Gyfarch Erin | Awst 2022
    • Cerddi 2021 Poems >
      • Cywydd croeso | Awst 2021
      • Codwn | Hydref 2021
      • Rise | October 2021
    • Cerddi 2020 Poems >
      • Outside Inside Centre | November 2020
      • Ni 'da chi, bois | Tachwedd 2020
      • Parliament Square | Ionawr 2020
      • Eisteddfod Goll | Awst 2020
    • Cerddi 2019 Poems >
      • Carol Rybuddiol i'r Byd | Rhagfyr 2019
      • Arad Goch | Medi 2019
      • Gorsedh Kernow | Medi 2019
    • Cerddi 2018 Poems >
      • I Gyfarch Gruffudd Owen | Tachwedd 2018
      • To Iau ar Ben Tŷ Awen | Medi 2018
      • Mewn Hiraeth am Aneirin | Awst 2018
      • Heddlu Dyfed-Powys | Ebrill 2018
      • Two Parched Poets ǀ January 2018
    • Cerddi 2017 Poems >
      • I Gyfarch Sonia | Awst 2017
      • Y Pethau Bychain | Mawrth 2017
    • Cerddi 2016 Poems >
      • Er Cof am Eifion Gwynne | Tachwedd 2016
      • I Gyfarch Aneirin | Awst 2016
      • Brexit | Awst 2016
      • Serenestial | Awst 2016
      • Cerddi Donostïa, Gwlad y Basg | Gorffennaf 2016
      • Dychan i'r Sied yng Nghwm Du | Ionawr 2016
      • Elan Valley | January 2016
      • Cerddi Bardd y Mis | Ionawr 2016
    • Cerddi 2015 Poems >
      • I Teilo ac Einir | Awst 2015
      • I Gyfarch Hywel | Awst 2015
      • Cariad@Iaith | Mehefin 2015
      • Ger y Lli | Mehefin 2015
    • Cerddi 2014 Poems >
      • YES | Medi 2014
      • Ein Hafon Fach Ni | Medi 2014
      • Ger Taid | Awst 2014
      • Cyfarch Ceri | Awst 2014
      • Yn y Coch | Awst 2014
      • Stormy Castle, Gower | July 2014
      • Stormy Castle, Bro Gŵyr | Gorffennaf 2014
      • Old Farm Mews, Dinas Powys | Gorffennaf 2014
      • Ffwrnes, Llanelli | Gorffennaf 2014
      • New Barn, Felindre | Gorffennaf 2015
      • Talgarth Mill | July 2014
      • Melin Talgarth | Gorffennaf 2014
      • Capel Galilea, Llanilltud Fawr | Gorffennaf 2014
    • Cerddi 2012 Poems >
      • Awn Ninnau yn Bananas | Chwefror 2012
      • Sut i Goginio'r Wawr | Mehefin 2012
      • A Recipe for Dawn | June 2012
    • Cerddi 2011 Poems >
      • Stres mewn Preseb | Rhagfyr 2011
    • Cerddi 2010 Poems >
      • Yn y Coch | Gorffennaf 2010
    • Cerddi 2008 Poems >
      • Tir Newydd | Awst 2008
      • Gruffydd Aled Williams | Gorffennaf 2008
  • Blog
  • Comisiynu | Commission
  • Llyfrau | Books
  • Hanes | Bio